Mae caeadau metel ar flaen elusen i lawr ac wedi'u cloi gyda chlo clap, mae'r elusen wedi gorfod cau'n barhaol

Nifer y mudiadau sy’n cau yn y sector gwirfoddol ar gynnydd

Cyhoeddwyd : 24/04/25 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Mae effeithiau parhaus yr argyfwng costau byw yn ymestyn adnoddau ymhellach wrth i’r galw am wasanaethau elusennol gynyddu – ydych chi’n barod i ymdopi ag anawsterau ariannol?

BRWYDRAU PARHAUS

Ym mis Ebrill 2024, adroddodd y Fframwaith Rhagoriaeth Elusennau eu bod yn ‘clywed fwyfwy am elusennau yn cau a…phobl yn colli swyddi.’

Yn anffodus, mae llawer gormod o hyn yn digwydd yng Nghymru ac rydym wedi gweld y canlynol:

  • Chwarae Teg yn cau o ganlyniad i broblemau ariannol.
  • The Care Collective yn cau gan nodi costau cynyddol fel un o’r rhesymau dros gau.
  • Scope yn cyhoeddi eu bod yn cau 41 o’u siopau elusen ledled y DU. Mae pedair o’r rhain yng Nghymru, yn Llandudno, Bangor, Pwllheli a Chasnewydd.

WEDI’U HYMESTYN I’R EITHAF

Mae’r argyfwng ariannol presennol wedi arwain at ddirywiad yng nghanran y bobl sy’n rhoi i elusennau. Nododd y Comisiwn Elusennau ostyngiad o 62% yn 2020 i 49% yn 2024, ac mae nifer y bobl sydd angen gwasanaethau elusennol wedi cynyddu o 3% yn 2020 i 9% heddiw.

Mae hyn, ynghyd â’r cynnydd mewn taliadau Yswiriant Gwladol a’r prinder o gyllid sydd ar gael, yn arwain at fudiadau’n cau ar draws y sector a nifer sylweddol o fudiadau’n uno.

Mae’r effaith hon yn cael ei theimlo gan bawb, o elusennau mawr i fudiadau llawr gwlad. Gall hyn arwain at bwysau sylweddol ar elusennau a’u gorfodi i mewn i sefyllfa lle y gall fod angen iddynt gau’n gyfan gwbl.

YMDOPI AG ANAWSTERAU ARIANNOL

Nid yw’n hawdd ymdopi ag anawsterau ariannol, ond gall cael y systemau a’r prosesau rheoli cywir ar waith eich helpu i’w gweld nhw’n gynnar a helpu i liniaru eu heffeithiau rhywfaint. Gall dogfen ganllaw’r Comisiwn Elusennau, Gwella Cyllid eich Elusen – CC12 helpu ymddiriedolwyr gyda’r broses hon.

RHAGOR O GYMORTH

Os yw eich mudiad angen cymorth gyda’r maes hwn, rydym ni yma i helpu. Cysylltwch â’ch Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol neu CGGC ac fe wnawn ni ein gorau i’ch llywio drwy hwn.

Cysylltwch â ni.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 09/05/25
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Mapio’r sector busnes cymdeithasol yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 09/05/25
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

gofod3 – rhaglen ddigwyddiadau nawr yn fyw!

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 28/04/25
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Egwyddorion a sefydlwyd ar gyfer ariannu teg a chyson yn y sector gwirfoddol

Darllen mwy