Men and women from Blood Bikes Wales accepting an award at the Welsh Charity Awards 2019. A man holds a trophy while another has a hand on his shoulder and speaks into a microphone

#NidGwobrauElusennauCymru – Dathlwch fudiadau gwirfoddol Cymru yr Hydref hwn

Cyhoeddwyd : 15/09/20 | Categorïau: Newyddion |

Ni fydd Gwobrau Elusennau Cymru yn cael eu cynnal yn 2020 mwyach o ganlyniad i argyfwng COVID-19, ond yn hytrach bydd mis Hydref i gyd yn cael ei ddynodi i gydnabod gwaith arbennig mudiadau gwirfoddol a gwirfoddolwyr.

Mae Gwobrau Elusennau Cymru yn cydnabod ac yn dathlu’r cyfraniad arbennig mae elusennau, grwpiau cymunedol, mudiadau nid-er-elw a gwirfoddolwyr yn ei wneud i Gymru. Wedi’u trefnu gan CGGC, cynhaliwyd y gwobrau am y tro cyntaf yn 2019, o dan nawdd caredig Class Networks.

O gyfeillachwyr yn taro heibio i ymweld â chymydog hŷn bob dydd Mawrth, i fudiadau’n ymgyrchu dros gydraddoldeb ledled y wlad, mae’r Gwobrau’n amlygu ac yn dathlu’r gwahaniaeth cadarnhaol y gallwn ei wneud i fywydau ein gilydd.

Bu rhaid i CGGC wneud y penderfyniad anodd o ganslo’r gwobrau eleni, gan ystyried diogelwch pawb fyddai ynghlwm â nhw. Nid oedd hwn yn benderfyniad hawdd i’w wneud gan fod y seremoni’n ddigwyddiad mor bwysig er mwyn tynnu sylw at a dathlu’r sector gwirfoddol yng Nghymru.

NAWR YW’R AMSER I GYDNABOD EIN SECTOR

Dros y misoedd diwethaf, mae’r sector wedi camu i’r adwy i amddiffyn a chefnogi ein cymunedau tra hefyd yn wynebu rhai o’i heriau mwyaf mewn blynyddoedd maith – os nad erioed. Mae’r ymdrechion hyn yn haeddu cael eu dathlu ac rydym yn ymroddedig i gynnal seremoni wobrwyo fwy, well cyn gynted ag y bydd yn ddiogel i ni wneud hynny.

Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i daflu goleuni ar y gwaith anhygoel sy’n cael ei wneud ledled Cymru yn ogystal â dod â phawb ynghyd trwy ddigwyddiadau ar-lein, podlediadau, gweminarau a mwy.

Fodd bynnag, gyda chymaint o grwpiau ac unigolion yn gwneud cymaint i gefnogi pobl yng Nghymru yn ystod y cyfnod anodd hwn, credwn ei bod yn bwysicach nag erioed i ledaenu’r neges ac ymfalchïo yng ngwaith mudiadau gwirfoddol. Ac mae arnom angen eich help chi!

CYMERWCH RAN YN YMGYRCH #NIDGWOBRAUELUSENNAUCYMRU

Cynhelir ein hymgyrch #NidGwobrauElusennauCymru trwy gydol mis Hydref a byddwn yn rhannu eich straeon ynglŷn â sut mae mudiad gwirfoddol neu wirfoddolwr wedi cael effaith fawr ar eich bywyd chi dros y flwyddyn ddiwethaf.

Byddem yn hoffi clywed am y grwpiau cymunedol, y mentrau cymdeithasol, y grwpiau nid-er-elw o bob math (a’r gwirfoddolwyr!) y byddech chi’n eu henwebu ar gyfer #NidGwobrauElusennauCymru. Efallai na fyddwn yn gallu cyflwyno tlysau na’u gwahodd i fyny i’r llwyfan, ond yn sicr gallwn gydnabod a rhoi diolch o’r galon i’r rhai a fyddai wedi eu henwebu neu a fyddai wedi ennill!

SUT I GYMRYD RHAN

Mae dwy ffordd y gallwch gymryd rhan.

1. Anfon fideo atom ni

Gan ddefnyddio’ch ffôn clyfar neu’ch gwe-gamera recordiwch fideo yn dweud wrthym pwy hoffech chi eu cydnabod a pham.

Dywedwch eich stori bersonol wrthym ynglŷn ag elusen neu wirfoddolwr o Gymru sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Ni ddylai eich fideo fod yn hirach nag 1 munud o hyd ac fe ddylai gynnwys y canlynol:

  • Pwy ydych chi’n ei enwebu? – Beth yw enw’r grŵp neu’r gwirfoddolwr? Ble maen nhw wedi’u lleoli?
  • Beth wnaethon nhw? – Sut wnaethon nhw eich helpu neu pa gefnogaeth wnaethon nhw ei gynnig? Sut wnaethon nhw/ chi ddod i gysylltiad?
  • Pam ydych chi eisiau iddyn nhw dderbyn cydnabyddiaeth? – Pa effaith gawson nhw arnoch chi? Sut wnaeth hynny i chi deimlo?
  • Dywedwch ‘diolch’– I roi gwybod iddyn nhw eich bod yn eu gwerthfawrogi, gorffenwch eich fideo trwy ddweud y gair ‘diolch’, os gwelwch yn dda.

Anfonwch eich fideo at news@wcva.cymru, ac os oes gennych unrhyw luniau o’r grŵp neu’r unigolyn yr hoffech i ni eu cynnwys mae croeso i chi eu hatodi at yr e-bost!*

Byddwn yn rhannu eich fideos trwy ddefnyddio’r hashnod #NidGwobrauElusennauCymru trwy gydol mis Hydref, a gorau po gyntaf y cyflwynwch eich enwebiad, er mwyn i ni allu dweud wrth y byd am y sawl rydych chi’n eu ‘henwebu’ a dechrau canu eu clodydd.

Byddwn hefyd yn dangos uchafbwyntiau o’n hoff fideos yn ein Darlith Flynyddol a’n CCB rhithiol ym mis Tachwedd.

*Os yw eich fideo neu eich negeseuon yn rhai mawr (ee yn fwy nag 8mb i gyd) efallai y bydd angen i chi anfon y ffeiliau gan ddefnyddio system trosglwyddo ffeiliau, ond peidiwch ag ofni – gallwn ni eich helpu!  Cysylltwch â ni os oes angen cymorth arnoch chi!*

2. Rhannwch eich stori â ni ar y cyfryngau cymdeithasol

Gallwch hefyd gymryd rhan trwy rannu’ch stori bersonol ynglŷn ag elusen neu wirfoddolwr o Gymru ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #NidGwobrauElusennauCymru yn ystod mis Hydref.

Tagiwch CGGC (@CGGCCymru), os gwelwch yn dda, yn ogystal â’r grŵp neu’r person rydych chi’n eu henwebu yn eich neges, a beth am hoffi, rhannu neu ymuno â ni i ddiolch i’r rhai eraill sy’n cael eu ‘henwebu’ sy’n eich ysbrydoli chi, fel bod modd i ni ddangos ein gwerthfawrogiad a rhoi cydnabyddiaeth haeddiannol iddyn nhw am bopeth maen nhw’n ei wneud.

PRYD FYDD GWOBRAU ELUSENNAU CYMRU YN DYCHWELYD?

Gobeithiwn gysylltu â chi’n fuan â dyddiad ar gyfer Gwobrau Elusennau Cymru 2021 ac edrychwn ymlaen at noson o ddathlu cyfraniadau arbennig elusennau, grwpiau cymunedol, grwpiau nid-er-elw a gwirfoddolwyr yng Nghymru.

Os carech chi ymuno â’n rhestr bostio er mwyn derbyn diweddariadau ynglŷn â hyn e-bostiwch news@wcva.cymru, os gwelwch yn dda.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Snorcelio dros natur

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau | Newyddion |

Ymgynghoriad ar y Cod Ymarfer Codi Arian

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 27/08/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Dathlu addysg oedolion yng Nghymru

Darllen mwy