Ni yw’r Newid – arddangosfa ffotograffiaeth
21 Maw 2019
Mae’r 11 llun yn cipio angerdd ac ymroddiad y bobl arbennig hyn at eu dewis fudiad.
Gyda’i gilydd, mae’r lluniau yn yr arddangosfa Ni yw’r Newid cynrychioli’r holl aelodau o staff a gwirfoddolwyr sy’n gweithio ar hyd a lled Cymru, yn y 32,000 o fudiadau a amcangyfrifir sydd yn y trydydd sector.
Mae pob un ohonynt yn barod i weithredu dros eraill a dros y newid yr hoffent ei weld yng nghymdeithas.
Ond gallwn ni gyd gefnogi’r newid hwn. Mae yna elusen neu fenter gymdeithasol sydd eich angen chi. Ewch amdani a helpwch y mudiadau hyn i ffynnu, er lles pawb yng Nghymru.
Tynnwyd y lluniau hyn i gyd gan y ffotograffydd Warren Orchard sy’n gweithio’n bennaf yn y cyfryngau a’r sector hysbysebu, i gwmnïau fel Netflix, Channel 4, Universal a Warner Brothers, ac fe enillodd wobr Bafta Cymru yn ddiweddar am ei ddilyniant ar ddechrau penodau cyfres deledu Y Gwyll / Hinterland.
Mae’r arddangosfa yn cael ei lansio yn gofod3 ar 21 Mawrth a bydd i’w gweld yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst rhwng 3 a 10 Awst 2019.
Roy Fyles
Banc Bwyd Ynys Môn
Gwirfoddolwr
Mae Roy ynghyd â Michael, Sue, Gwyneth a gwirfoddolwyr eraill yn rhedeg Banc Bwyd Ynys Môn. Maent yn benderfynol o leddfu’r diffyg bwyd a’r tlodi maent yn ei weld yn eu cymuned.
Mae’r rheini sydd angen cymorth ac sy’n gallu gwneud y daith – naill ai gan fod ganddynt y pres am y bws neu’n abl yn gorfforol – yn dod i Eglwys Elim yng Nghaergybi. Maent yn dewis pedair eitem o’r cynnyrch ffres, a roddir gan yr archfarchnad leol, ac yna’n aros am eu harcheb o fwyd sych a bwyd tun, tra mae wyneb cyfeillgar yn cynnig paned a thamaid i aros pryd iddynt.
Mae Roy yn gyfrifol am ddanfon bwyd i gefn gwlad, gan ddefnyddio fan trydan, a ariennir gan y Loteri Cod Post ac Horizon, i deithio o gwmpas yr ynys. Dyblodd y danfoniadau hyn fis Ionawr y llynedd. Yn ei farn ef, cafwyd y cynnydd hwn yn y galw am becynnau bwyd brys oherwydd sancsiynau a phum wythnos o oedi mewn taliadau Credyd Cynhwysol.
Mae ef bob amser yn barod i fynd yr ail filltir, gan weithio ymhell y tu hwnt i oriau agor y banc bwyd. Cafodd alwad gan fam ofidus yn ddiweddar, ar ôl i’w merch, a oedd yn ei hugeiniau, adael yr ysbyty ar ôl llawdriniaeth ddifrifol a bod heb fwyd am ddeuddydd. Neidiodd Roy yn ei fan i ddanfon bwyd yn arbennig iddi.
Adrian Bradley
Antur Stiniog
Swyddog Datblygu Beicio Mynydd
Y fenter gymdeithasol, Antur Stiniog, ym Mlaenau Ffestiniog, yw gweithle Adrian ac mae ef wrth ei fodd yno.
Mae’n gweithio yn y parc beicio ers saith mlynedd, ac yntau wedi bod yn rasio beiciau ers 20 mlynedd. Mae’n gyn-bencampwr beicio mynydd Cymru a Phrydain, a bellach yn swyddog datblygu beicio mynydd gan dreulio ei ddyddiau’n prynu beiciau, yn datblygu llwybrau ac yn sicrhau grantiau newydd.
Mae’r parc beicio nid yn unig wedi meithrin doniau lleol ond hefyd yn cynnig cyfleoedd hyfforddi a gyrfaoedd i’r gymuned leol. Mae hefyd wedi adfywio’r gymuned, gyda thwristiaid nawr yn gwario £16.25 y pen. Yn 2007, pan sefydlwyd Antur Stiniog, dim ond 25c y pen yr oeddent yn ei wario ym Mlaenau Ffestiniog.
Mae Antur Stiniog, a arweiniodd y ffordd ar gyfer Zip World Bounce Below, yn dangos sut y gall menter gymdeithasol roi hwb i economi leol y gymuned. Gydag angerdd a brwdfrydedd.
Dafydd Pett
Cymdeithas Gwenynwyr Pen-y-bont a’r Cyffiniau
Aelod
Mae gwenyna wedi bod yn nheulu Dafydd ers dros 50 mlynedd. Roedd ei dad-cu, Mike, yn wenynwr o fri, a sefydlodd Wenynfa Pant Derwen. Dechreuodd Dafydd gadw gwenyn pan oedd yn 11 mlwydd oed, gydag un cwch gwenyn. Yn anffodus, bu farw Mike ddwy flynedd yn ôl, ac etifeddodd Dafydd 40 o gychod gwenyn.
Heddiw, yn 16 mlwydd oed, Dafydd yw aelod ieuengaf Cymdeithas Gwenynwyr Pen-y-bont a’r Cyffiniau. Mae ei rhwydwaith cymorth profiadol wedi bod yn amhrisiadwy, yn enwedig y cwrs cychwynnol y cwblhaodd Dafydd ddwywaith (mae’n cyfaddef nad oedd yn gwrando’r tro cyntaf, sy’n gwbl ddealladwy).
Bydd Dafydd yn teithio i Slofacia yn 2019. Bydd yn un o dri o gynrychiolwyr o Gymru yng Nghyfarfod Rhyngwladol y Gwenynwyr Ifanc. Dywed ei fod yn dipyn o naturiaethwr ac yn amgylcheddwr, “gan y byddai traean o’n bwyd yn diflannu heb wenyn”.
O dan ei reolaeth ef, mae’r cwmni wedi tyfu i 70 o gychod gwenyn, ac yn gwneud elw bach.
Suzanne Duval
Diverse Cymru
Rheolwr Iechyd Meddwl BME
Mae Suzanne yn ymgyrchydd o fri yn y sector BME, a hynny ers dros 30 mlynedd. Mae hi wedi treulio bron i 20 mlynedd yn ymrwymo i wella gwasanaethau iechyd meddwl i unigolion a chymunedau BME.
Yn 2010, unwyd Awetu (yr oedd hi’n Gyfarwyddwr arno) a Chynghrair Pobl Anabl Caerdydd a’r Fro i ffurfio Diverse Cymru a lansiwyd yn 2011, i gydnabod y trafferthion a’r anffafriaeth sy’n wynebu pobl sy’n dioddef anghydraddoldeb yng Nghymru.
Mae Suzanne yn arloeswr, a hithau wedi dylunio a chyhoeddi Pecyn Cymorth Cymhwysedd Diwylliannol cyntaf Cymru ar gyfer iechyd meddwl BME yn 2016. Mae’n helpu gweithwyr iechyd proffesiynol a gwasanaethau i ddarparu gofal a chymorth mwy priodol a diwylliannol sensitif i’w grŵp cleientiaid amrywiol.
Yn 2018, dyluniodd a datblygodd Suzanne a Dr Charles Willie y Cynllun Arfer Da yn y Gweithle ar gyfer Iechyd Meddwl BME at ddefnydd ymarferwyr iechyd meddwl. Dyma’r cynllun cyntaf o’i fath ym Mhrydain ac mae wedi’i gymeradwyo gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion. Hyd yma, mae saith bwrdd iechyd, un ymddiriedolaeth iechyd a phum mudiad yn y sector gwirfoddol wedi ymrwymo iddo.
Helal Uddin
EYST (Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig)
Uwch Gydlynydd Gwasanaeth Ymgyfarwyddo Abertawe, Caerfyrddin a Phowys
Mae EYST yn elusen arobryn sy’n cefnogi pobl ifanc, teuluoedd ac unigolion BME yng Nghymru. Ers 2005, mae hi wedi tyfu i fod â 40 aelod o staff a 100 o wirfoddolwyr.
Mae Helal wedi bod gydag EYST bob cam o’r ffordd. I ddechrau, fel gweithiwr ieuenctid, a nawr arweinydd Prosiect Adsefydlu Ffoaduriaid o Syria yng Nghaerfyrddin, Powys ac Abertawe. Mae ei dîm ac yntau wedi croesawu 60 o deuluoedd. I lawer, Helal yw’r person cyntaf maent yn ei weld yn y maes awyr.
Dywed Helal fod ei waith yn rhoi llawer o foddhad iddo. Ei nod yw helpu teuluoedd, sydd wedi dioddef blynyddoedd o amodau gwersylloedd caeth, i ddechrau meddwl drostynt eu hunain eto. I fyw’n annibynnol, yn eu cartref eu hunain.
Yr hyn sydd wedi rhoi’r balchder mwyaf iddo, hyd yma, yw gweld tad yn ei ugeiniau yn dysgu Saesneg, yn dod o hyd i waith rhan amser ac yn ennill ei drwydded yrru, i gyd mewn tair blynedd.
Salli Edwards
Cyngor Ar Bopeth Sir y Fflint
Prif Weithredwr
Salli yw Prif Weithredwr Cyngor Ar Bopeth Sir y Fflint, a hynny ers 2001. Mae ei thîm o 36 staff yn helpu i gefnogi tua 7,000 o gleientiaid y flwyddyn. Nid yw hyn yn cynnwys aelodau o’u teuluoedd.
Pan sefydlwyd Cyngor Ar Bopeth, roedd sut i wneud cais am drwydded bysgota yn ymholiad cyffredin. Mae’r dyddiau hynny wedi mynd. Mae gan gleientiaid heddiw ystod o faterion cymhleth nad ydynt mor hawdd eu datrys.
Gwna’r hinsawdd bresennol i Salli deimlo’n fwy digalon nag erioed: mae hi’n poeni am y cyni parhaus, diwygio lles ac ansicrwydd Brexit yn parlysu sefydliadau a mudiadau cyllido. Nid yw hi wedi teimlo fel hyn ers yr ’80au hwyr ac mae hi’n arswydo am y dyfodol, gan y bydd hi efallai yn fuan yn gorfod cau gwasanaethau rheng flaen, y mae hi bob amser wedi llwyddo i’w blaenoriaethu.
Bydd hyn yn effeithio ar beth y mae hi’n ei ystyried yw’r rhan orau o’i swydd: datblygu pobl sydd ag angerdd dros gynghori. Ac mae hi’n gweithredu ar ei gair: dechreuodd pob un aelod o’i uwch dîm rheoli fel gwirfoddolwyr.
Lois Bolton, Alison Jakob ac Angela Morris, gyda Connie sy’n deirblwydd oed
Hope Rescue
Gwirfoddolwyr
Mae Hope Rescue yn achub bywydau cŵn crwydr a chŵn dieisiau, a hynny ers 2005. O’u canolfan yn Llanharan, maent yn helpu dros 800 o gŵn y flwyddyn, sef tua chwarter yr holl gŵn crwydr yng Nghymru.
Maent yn helpu cŵn yn Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a gorllewin Bro Morgannwg. Maent hefyd wedi ymrwymo i dderbyn pob ci crwydr o Flaenau Gwent, Merthyr Tudful, a Thorfaen.
Mae Hope Rescue yn dibynnu ar wirfoddolwyr fel Lois, Alison ac Angela, sy’n helpu i roi gobaith i gŵn fel Connie. Mae hi’n deirblwydd oed, wedi bod dan ofal Hope Rescue ers Rhagfyr 2016 ac yn chwilio am gartref newydd.
Len Richards
Llyfrau Llafar Cymru
Gwirfoddolwr
Mae Len Richards, sy’n byw yn Nantgaredig, yn gwirfoddoli i Llyfrau Llafar Cymru ers 28 mlynedd, gan ddarllen nofelau mewn stiwdio fechan yng Nghaerfyrddin er mwynhad eraill. Mae ef yn un o 35 o wirfoddolwyr sy’n cefnogi dau aelod rhan amser o staff i gyhoeddi tua 50 o recordiadau sain o lyfrau poblogaidd bob blwyddyn, yn bennaf yn Gymraeg.
Sefydlwyd Llyfrau Llafar Cymru yn 1979, ac maent wedi cyhoeddi bron i 2,500 o recordiadau sain yn gyfan gwbl, gan wasanaethu Cymru gyfan. Heddiw mae’n darparu gwasanaeth rhad ac am ddim i tua 450 o bobl ddall, pobl rhannol ddall neu’r rheini sy’n cael trafferth darllen print.
Ar hyn o bryd, maent yn dosbarthu eu recordiadau ar ffurf CD, gan mai hynny sy’n gweddu orau i anghenion eu cleientiaid, sydd o grŵp oedran hŷn. Ond wrth i dechnoleg ddatblygu, a chan fod disgwyl i nifer y bobl â phroblemau gyda’u golwg ddyblu erbyn 2025, mae’r elusen yn barod i esblygu i sicrhau y gall cenedlaethau’r dyfodol fwynhau llyfrau yn eu mamiaith.
Victoria Pedicini
Threshold DAS
Prif Weithredwr
Vicky yw Prif Weithredwr Threshold DAS, mudiad sy’n gweithio gyda menywod, dynion, plant a phobl ifanc sy’n dioddef cam-drin domestig a thrais rhywiol, a dynion sy’n arddangos ymddygiad camdriniol.
Cafodd Vicky ei geni a’i magu ger Llanelli, a’i chysylltiad cyntaf â Threshold DAS (sef Cymorth i Fenywod Llanelli gynt) oedd fel gwirfoddolwr yn 2000.
O dan ei harweinyddiaeth, mae gan Threshold DAS dîm staff ac ynddo 45 o weithwyr ac – yn bwysig – 30 o wirfoddolwyr. Fe wnaeth hi hyrwyddo’r angen am raglen cyflawnwyr gwrywaidd yng Nghymru, wrth i Threshold ddod yn un o’r mudiadau menywod cyntaf yng Nghymru i sicrhau cyllid i gynnal Rhaglen Ymyrraeth Gynnar i Deuluoedd a oedd yn cynnwys rhaglen i weithio gyda’r rheini sy’n cam-drin.
Mae’r newid hwn mewn cyfeiriad, i weithio hefyd gyda chyflawnwyr gwrywaidd, wedi bod yn ddadleuol. Ond fe wnaeth hi’r penderfyniad hwn ar ôl ymchwil ac ymgynghori helaeth ag aelodau o staff a defnyddwyr gwasanaethau, gan weld pob un ohonynt eisiau dod o hyd i ateb i broblem gynyddol trais gwrywaidd: a chynnig dull sy’n cynnwys y teulu cyfan i’w helpu i aros gyda’i gilydd yn ddiogel neu wahanu’n gyfeillgar.
Tirion Jenkins
Amser i Newid Cymru
Swyddog Ymgysylltu Digidol
Mae Tirion, sy’n 24 mlwydd oed, yn gweithio’n rhan amser i Amser i Newid Cymru yng Nghaerdydd, wrth astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Celf, Iechyd a Llesiant. Mae hi hefyd yn gweithio mewn siop goffi ar y penwythnos.
Mudiad cymdeithasol ar dwf yw Amser i Newid Cymru sy’n gweithio i newid y ffordd yr ydym ni gyd yn meddwl ac yn ymddwyn ynglŷn â phroblemau iechyd meddwl, drwy annog pobl i siarad am eu hiechyd meddwl i leihau stigma a gwahaniaethu.
Fel Swyddog Ymgysylltu Digidol, mae Tirion yn gofalu am eu holl gyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol, sy’n golygu bod ei sylw wedi’i hoelio ar ei ffôn yn ddi-baid.
Mae hi wrth ei bodd yn ei swydd ac yn benderfynol o helpu pobl i rannu eu straeon. A hithau â phrofiad ei hun o iechyd meddwl, ac wedi colli ffrind drwy hunanladdiad, mae hi’n deall grym straeon i roi cysur a sicrwydd.
Bydd un o bob pedwar person yn ymgodymu â phroblem iechyd meddwl mewn blwyddyn, a gall y straeon a gasglir gan Tirion helpu pobl i ddeall y gall effeithio ar unrhyw un.
Laura Grindey
Tŷ Hafan
Cydlynydd Codi Arian
Dathlodd Tŷ Hafan ei 20fed pen-blwydd ym mis Ionawr 2019. Dyma un o elusennau gofal lliniarol pediatrig mwyaf blaenllaw Prydain, gan gynnig gofal i blant a chymorth i’w teuluoedd ledled Cymru.
Mae Laura yn rhan o’r Tîm Gofalu am Gefnogwyr, ym mhencadlys yr elusen yn Sili. Mae hi’n gofalu am roddwyr rheolaidd ac yn cynnal ymweliadau misol i godwyr arian sy’n ymdrechu’n ddiflino i hel arian.
Mae Laura wedi bod yn ymwneud â Tŷ Hafan ers 15 mlynedd. Pan oedd hi’n 18 mlwydd oed, penderfynodd wirfoddoli i Tŷ Hafan. Ers hynny mae hi wedi bod yn llysgennad i’r elusen ac yn asiant blychau casglu, cyn iddi gael ei swydd bresennol.
Mae’r elusen fel teulu iddi. Mae’r llun yn ei dangos ym mhrosiect uwchgylchu Tŷ Hafan, yn y gweithdy crefftus, lle mae gwirfoddolwyr a staff yn dod at ei gilydd ddwywaith neu dair yr wythnos i droi eitemau dieisiau yn eitem y gellir ei gwerthu, ac mae’r holl elw’n mynd i’r elusen.