Newydd yng nghyllid

Newydd yng nghyllid

Cyhoeddwyd : 31/03/20 | Categorïau: Cyllid |

The Leatherseller’s Company

Mae hon yn broses ymgeisio llwybr cyflym ar gyfer grantiau unwaith ac am byth bach. Gallai fod yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer ariannu prosiectau bach neu i dalu costau annisgwyl. Gallai gwerth y grant a ddyfernir fod hyd at uchafswm o £3,000.

Yng ngoleuni’r heriau digynsail sydd bellach yn wynebu elusennau bach sy’n darparu gwasanaethau hanfodol i aelodau mwyaf bregus ein cymuned, mae ein rhaglen grantiau bach yn gwahodd ceisiadau gan elusennau sydd wedi’u cofrestru yn y DU ac sy’n cefnogi ar hyn o bryd:

  • y digartref neu’r rhai sydd mewn perygl o ddod yn ddigartref
  • darparu bwyd a chyflenwadau hanfodol
  • dioddefwyr trais domestig
  • gofal nyrsio i gleifion bregus

Darganfyddwch fwy yn https://leathersellers.co.uk/small-grants-programme/

 

Cronfa Argyfwng Coronafirws CAF

Mae Charities Aid Foundation wedi lansio’r gronfa ymateb cyflym hon i helpu mudiadau elusennol llai wedi effeithio gan Covid-19. Bydd grantiau o hyd at £10,000 yn eu helpu i barhau i ddarparu cefnogaeth y mae ei hangen yn fawr ar ein cymunedau ledled y DU.

Pwrpas y cronfa hwn yw ymateb cyflym, a’u nod yw gwneud taliadau i mudiadau dethol cyn pen 14 diwrnod ar ôl gwneud cais.

Mae meini prawf ac arweiniad ar gael yn https://www.cafonline.org/charities/grantmaking/caf-coronavirus-emergency-fund

 

Grantiau Ymddiriedolaeth Elusennol Yapp

Mae grantiau ar gael ar gyfer costau rhedeg a chyflogau i elusennau cofrestredig bach yng Nghymru a Lloegr i helpu i gynnal eu gwaith presennol. Gall elusennau bach sy’n mynd i’r afael ag effaith Covid-19 wneud cais am ein cyllid tuag at eu costau craidd parhaus.

Darganfyddwch fwy yn https://yappcharitabletrust.org.uk/how-to-apply/

 

Cronfa Gofal Integredig Cwm Taf Morgannwg – Grantiau Trydydd Sector i gefnogi gwaith yn ymwneud â Covid-19

Mae grantiau o hyd at £500 ar gael ar gyfer unrhyw grŵp neu mudiad cymunedol ffurfiol / anffurfiol newydd neu bresennol sy’n gweithredu ym Merthyr Tudful / RhCT

Gwnewch gais nawr trwy gysylltu â Sharon Richards:

Ffôn: 01685 353932
E-bost: sharon.richards@vamt.net

Bydd angen i chi ddisgrifio’r hyn rydych chi’n bwriadu ei wneud, a’r hyn y mae angen y grant arnoch chi. Sylwch y bydd grantiau’n cael eu cynnig ar sail y cyntaf i’r felin.

https://funding.cymru/admin/funds/1401

 

Cronfa Gwydnwch Coronafeirws Cymru

Mae’r gronfa hon wedi’i sefydlu i gynorthwyo grwpiau a fudiadau sy’n darparu gwasanaethau a chefnogaeth i unigolion a theuluoedd, boed yn unigol neu gyda’i gilydd, y mae pandemig Coronavirus yn effeithio arnynt.

Dim ond i grwpiau a sefydliadau a all ddangos eu bod yn gweithio’n ddiogel ac yn cadw at ganllawiau’r llywodraeth ynghylch y firws y rhoddir grantiau.

Darganfyddwch fwy yn https://communityfoundationwales.org.uk/grants/wales-coronavirus-resilience-fund/

 

Cronfa Cymunedol Clocaenog: Ymateb i Covid-19

Bydd cronfa Grantiau Ymateb Covid-19 yn darparu cyfleodd cyllido 0 £100 i £5000 i grwpiau sy’n darparu cefnogaeth ar y rheng flaen.

Am fwy o wybodaeth a ffurflen cais cysylltwch a www.clocaenog.cymru / grants@cvsc.org.uk / 01492 523856

Covid-19: Cefnogi Gweithredu Cymunedol Ceredigion

Bydd Cronfa Trac Cyflym Cymunedau Gofalu yn cefnogi prosiectau newydd yng Ngheredigion sy’n adeiladu gallu cymunedol a gwytnwch i gefnogi cymunedau i ymateb i’r achosion o Covid-19. Bydd y Cynllun yn ystyried cyllido 100% o gost y prosiect i £250.

Mae’r ffurflen gais i’w chwblhau gyda chefnogaeth Cysylltydd Cymunedol neu aelod o Dîm CAVO. Ceisiadau a dogfennau ategol i’w cyflwyno i teleri.davies@cavo.org.uk. Rhaid derbyn unrhyw ddogfennau ategol cyn y gellir prosesu ceisiadau. Bydd CAVO yn prosesu ceisiadau cyn pen 2 wythnos ar ôl eu derbyn.

The Sylvia Adams Charitable Trust

Mae hyd at £5,000 ar gael i elusennau bach a chanolig sy’n gweithio tuag at wella cyfleoedd bywyd rhai o’r plant mwyaf difreintiedig yng Nghymru a Lloegr.

 

Mae cyllid ar gael i:

  • Elusennau sydd wedi cofrestru gyda Chomisiwn Elusennau Cymru a Lloegr y mae eu cyfrifon archwiliedig diweddaraf yn arddangos incwm o lai na £750,000

ac

  • Elusennau sy’n gallu arddangos cynnydd tebygol mewn galw am eu gwasanaethau a/neu sy’n gallu arddangos colled ddisgwyliedig mewn incwm y gellir ei briodoli i’r pandemig coronafeirws presennol.

Gall ceisiadau gael eu cyflwyno rhwng 16 Mawrth a 28 Ebrill 2020, gyda grantiau ar gyfer ceisiadau llwyddiannus yn cael eu rhyddhau mor fuan â phosibl wedi’r dyddiadau cau.

Dewch o hyd i fwy o wybodaeth yn <http://sylvia-adams.org.uk/what-we-will-fund/>

 

 

Esmee Fairbairn Foundation

Mae grantiau ar gael i elusennau sy’n gweithio ym meysydd y celfyddydau, plant a phobl ifanc, yr amgylchedd, bwyd neu newid cymdeithasol.

Mae’r blaenoriaethau cyllido presennol yn debygol o newid ym mis Mai 2020, gyda mudiadau sy’n gobeithio ymgeisio o dan y rhai presennol yn rhydd i wneud hynny nes Ebrill 2020. Maent yn cynnig tri math o gefnogaeth: grantiau, buddsoddiadau cymdeithasol a Grants Plus. Ceir canllawiau ar wahân ar gyfer buddsoddiadau cymdeithasol, eu ffrwd gyllido ar gyfer pobl ifanc sy’n gadael gofal, a’u rhaglenni uno ar eu gwefan.

 

Gellir dod o hyd i’r rhestr lawn o flaenoriaethau cyfredol yn ogystal ag arweiniad i fudiadau sy’n dymuno ymgeisio yn <https://esmeefairbairn.org.uk/apply-for-funding>.

 

Pink Ribbon Foundation

Mae hyd at £5,000 ar gael i elusennau sy’n gweithio ym maes cancr y fron.

Bwriad y Pink Ribbon Foundation yw ceisio cynnig cymorth i elusennau cancr y fron er mwyn cynorthwyo’u cleientiaid i wella o’u cancr a byw bywydau hirach, iachach, hapusach. Trwy gyfrwng ei grantiau mae’r Pink Ribbon Foundation yn cyllido prosiectau a mentrau ymarferol sydd â’r bwriad o gynorthwyo elusennau cofrestredig i ddarparu iechyd corfforol a meddyliol da i unigolion sy’n dioddef o gancr y fron neu sy’n gwella ohono.

Rhaid i geisiadau am grantiau fod ar ffurf copi caled a rhaid iddynt gyrraedd y Pink Ribbon Foundation erbyn dydd Gwener 29 Mai 2020.

 

Ceir arweiniad llawn a mwy o wybodaeth yn https://www.pinkribbonfoundation.org.uk/who-we-help/#grants

 

 

 

 

 

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 07/04/25
Categorïau: Cyllid, Newyddion

Pum mlynedd o ariannu’r sector gwirfoddol trwy MAP

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 03/02/25
Categorïau: Cyllid, Newyddion

Gwnewch gais nawr am Grantiau Strategol Gwirfoddoli Cymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 31/01/25
Categorïau: Cyllid

Little Lounge – cefnogi’r gymuned leol

Darllen mwy