Newydd yng nghyllid

Cyhoeddwyd : 24/02/20 | Categorïau: Cyllid |

Ymddiriedolaeth Diogelwch ar y Ffyrdd

Mae grantiau o hyd at £200,000 ar gael i brosiectau sy’n canolbwyntio ar fesurau peirianyddol, seilwaith a thechnolegol i helpu i ddiogelu defnyddwyr ffyrdd sy’n agored i niwed.

Mae cyllid ar gael am uchafswm o dair blynedd ar gyfer prosiectau sy’n:

  • Creu gwybodaeth newydd am yr hyn sy’n gweithio
  • Trosi syniadau’n fesurau newydd
  • Dylanwadu ar bolisïau ac arferion diogelwch ar y ffyrdd
  • Cefnogi gweithio mewn partneriaeth neu gydweithredu

Y dyddiad cau ar gyfer y cylch cyllido hwn yw 5pm ar 14 Mai 2020. I gael rhagor o wybodaeth ac i ymgeisio, ewch i https://www.roadsafetytrust.org.uk/how-to-apply

 

Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol – Y Gronfa Hyder Digidol

Mae grantiau o £10,000 a mentora ar gael i fudiadau treftadaeth o fewn 13 o awdurdodau lleol ledled y DU i fagu eu hyder digidol.

Bydd pawb sy’n derbyn grant hefyd yn derbyn gwerth £2,500 o fentora am ddim gan arbenigwr digidol. Yr Ardaloedd Ffocws yng Nghymru yw Castell-nedd Port Talbot a Rhondda Cynon Taf.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 11.59pm ar 6 Ebrill 2020.   I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.heritagefund.org.uk/cy/article/cronfa-hyder-digidol

 

Cronfa Cymunedau Gwledig Calor

Bydd hyd at £5,000 ar gael i brosiectau a fydd yn cynnig gwasanaeth parhaus i gymunedau gwledig nad ydynt wedi’u cysylltu â’r prif grid nwy.

Mae’r gronfa’n agor ar 10 Mawrth 2020. Gan fod Calor yn 85 oed eleni, mae cyfanswm y gronfa gyllido wedi’i gynyddu i £85,000.

I gael gwybod sut i ymgeisio, ewch i https://communityfund.calor.co.uk/

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 13/11/24 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Y diwrnod rhoi byd-eang

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 08/11/24 | Categorïau: Cyllid | Dylanwadu | Newyddion |

CGGC yn rhannu pryderon y sector ar gynnydd Yswiriant Gwladol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 01/11/24 | Categorïau: Cyllid | Hyfforddiant a digwyddiadau |

Ble i ganolbwyntio eich egni codi arian

Darllen mwy