Dwylo ddynes sy'n dal arian

Newydd yng nghyllid

Cyhoeddwyd : 23/03/20 | Categorïau: Cyllid |

Rhaglen Entrepreneuriaid Cymdeithasol Lloyds Bank a’r Bank of Scotland

Mae rhwng £1,000 – £7,000 ar gael i ddechrau a thyfu mentrau cymdeithasol, elusennau, prosiectau cymunedol a mudiadau a arweinir gan effaith.

Dylai prosiectau geisio helpu pobl mewn angen neu wella’r amgylchedd.

Yn ogystal â’r grant, mae’r rhaglen yn cynnig:

  • Rhaglen ddysgu
  • Mentora
  • Cymuned gefnogol o gymheiriaid o’r un meddylfryd

Gellir gwneud cais am dair lefel wahanol – Dechrau (ar gyfer prosiectau newydd ar y cam cynllunio), Masnachu (ar gyfer prosiectau sy’n o leiaf flwydd oed) a Tyfu (prosiectau sy’n ddwy flwydd oed neu’n hynach).

Mae’r ceisiadau ar agor tan ddydd Iau 30 Ebrill 2020. Gellir cael rhagor o fanylion a chanllawiau yn https://www.the-sse.org/our-courses/programmes/lbsep/

 

Cronfa’r Dreth Tamponau 2020-21

Mae grantiau mawr ar gael ar gyfer mudiadau unigol a chydgwmnïau elusennol, lles a dyngarol ar hyd a lled y Deyrnas Unedig.

Mae cylch 2020/21 Cronfa’r Dreth Tamponau yn gwahodd ceisiadau o fewn un o’r tri chategori canlynol: trais yn erbyn menywod a merched, iechyd meddwl a llesiant menywod ifanc a rhaglen gyffredinol.

Dylai’r ceisiadau fod am £1 miliwn neu fwy a dod o fudiadau sy’n gallu cyflawni effaith ar draws eu categori dewisol a ledled rhanbarthau lluosog o fewn un neu fwy o wledydd Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Gan mai swm lleiaf y cais yw £1 miliwn, nid oes gan Gymru na Gogledd Iwerddon ddyraniad digonol i gael prosiect a gaiff ei gyflawni’n gyfan gwbl o fewn eu gweinyddiaethau nhw’n unig. Felly bydd cyllid yn cael ei ddyrannu ar gyfer Cymru a Gogledd Iwerddon o fewn prosiectau DU gyfan, yn bennaf drwy brosiectau sy’n trosglwyddo grantiau ymlaen.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos ar ddydd Sul 31 Mai 2020. I gael gwybod mwy, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/tampon-tax-fund-application-form-2020-2021-funding-round

Rhaglen Prif Grantiau Plant mewn Angen y BBC

Mae cyllid ar gael i elusennau a mudiadau nid er elw sy’n gwneud ceisiadau am grantiau dros £10,000 y flwyddyn am hyd at dair blynedd.

Dylai prosiectau anelu at helpu plant a phobl ifanc 18 oed ac iau sy’n wynebu anfantais yn sgil:

  • Salwch, trallod, cam-drin neu esgeulustod
  • Unrhyw fath o anabledd
  • Anawsterau ymddygiadol neu seicolegol
  • Byw mewn tlodi neu sefyllfaoedd o amddifadedd

Y dyddiad cau nesaf ar gyfer ceisiadau yw 11.59pm 4 Mai 2020. Mae’r broses ymgeisio am grantiau drwy Plant mewn Angen wedi’i symleiddio’n ddiweddar, felly gellir gweld canllawiau llawn ar y broses hon yn ogystal â rhagor o wybodaeth am y grantiau yn https://www.bbcchildreninneed.co.uk/grants/apply/main-grants/

 

Y Gronfa Ffyniant Gyffredin – galwad am dystiolaeth

Mae’r Pwyllgor Materion Cymreig wedi lansio ymchwiliad i’r Gronfa Ffyniant Gyffredin arfaethedig ar gyfer y DU ac maen nhw’n galw nawr ar bob rhanddeiliad â diddordeb i gyflwyno tystiolaeth.

Mae’r Pwyllgor yn disgwyl y bydd y dystiolaeth hon yn chwarae rhan fawr mewn llywio safbwynt Cymru ar y Gronfa Ffyniant Gyffredin, a fydd yn ôl pob golwg yn disodli cyllid cyfredol Cronfa Gymdeithasol Ewrop yn y DU.

Cyn y cyfarfod â Llywodraeth Cymru sydd wedi’i drefnu ar gyfer 23 Ebrill ar hyn o bryd, mae’r Pwyllgor yn bwriadu darparu cyflwyniad cynhwysfawr o dystiolaeth ysgrifenedig, gan gasglu mewnbwn pob rhanddeiliad a’i gyhoeddi fel ymgynghoriad. Gallwch ddarllen yr alwad lawn am dystiolaeth a chyflwyno eich barn yma: https://committees.parliament.uk/work/41/wales-and-the-shared-prosperity-fund/publications/

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 23/08/24 | Categorïau: Cyllid | Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Yr ymgyrch ‘ewyllysgaredd’ sy’n ennill tir

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 11/07/24 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Mae’r Bwrsari i arweinwyr yng Nghymru yn ôl

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 25/05/24 | Categorïau: Cyllid |

Cryfhau’r bartneriaeth rhwng Cymru ac Affrica

Darllen mwy