Diweddariadau cyllid ar gyfer yr wythnos yn dechrau 16 Mawrth 2020
Diogelwch Trydanol yn Gyntaf – Cronfa Diogelwch Tân Trydanol
Mae grantiau o £5,000 ar gael i fudiadau yn y gymuned i gyflwyno mesurau atal tân effeithiol ar lefel leol sydd wedi’u hanelu at fynd i’r afael ag achosion tân mewn cartrefi.
Gallwch wneud cais am gyllid os yw eich mudiad yn:
- Wasanaeth tân ac achub
- Safonau Masnach
- Mudiad diogelwch cymunedol
- Mudiad nid-er-elw arall
Mewn amgylchiadau eithriadol, gallant ystyried symiau cyllido mwy o faint hyd at £20 mil ar gyfer prosiectau ar y cyd a/neu brosiectau mwy o faint.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw canol nos ar ddydd Gwener 3 Ebrill 2020. I gael rhagor o fanylion ynghylch y gronfa yn ogystal â dolen i’r ffurflen gais, ewch i https://www.electricalsafetyfirst.org.uk/about-us/grants-and-funding/electrical-fire-safety-fund/
Y Co-op Foundation – Cronfa #iwill
Mae hyd at £10,000 ar gael i brosiectau ledled y DU sy’n helpu pobl ifanc i gefnogi ei gilydd drwy brofedigaeth.
Os bydd y cais yn llwyddiannus, bydd gennych chi gyfle hefyd i ailymgeisio am hyd at ddwy flynedd o gyllid pellach.
Mae ganddyn nhw ddiddordeb mewn mudiadau sy’n gallu defnyddio dysgu cyfredol a chyflenwi prosiectau cymorth cyfoedion a/neu brosiectau eirioli a arweinir gan ieuenctid er mwyn helpu pobl ifanc sy’n wynebu profedigaeth.
Y dyddiad cau i ymgeisio ar gyfer y cylch hwn yw hanner dydd ar ddydd Gwener 3 Ebrill 2020. Gellir cael canllawiau ar gyfer y gronfa a chyngor ar sut i ymgeisio yn https://www.coopfoundation.org.uk/funding_support/iwill-fund-bereavement/
Cronfa Effaith Arts & Culture
Mae Cronfa Effaith Arts & Culture yn cynnig cyllid ad-daladwy o rhwng £150,000 ac £1,000,000 ar gyfer mentrau cymdeithasol ym maes celfyddydau, diwylliant a threftadaeth y DU.
Mae Cronfa Effaith Arts & Culture yn ceisio cyflawni nifer o amcanion ar gyfer y sectorau celfyddydol, diwylliannol a threftadaeth:
- Cynnig cyllid ad-daladwy priodol wedi’i deilwra i fudiadau
- Datblygu gwydnwch ariannol benthycwyr
- Cynorthwyo mudiadau i fonitro, gwerthuso a chyfathrebu eu heffaith gymdeithasol yn well
- Denu mwy o fuddsoddiad i mewn i’r sector er mwyn helpu mudiadau i ffynnu
- Hyrwyddo’r effaith gadarnhaol ehangach y mae’r celfyddydau, diwylliant a threftadaeth yn ei chael ar gymdeithas a chynorthwyo mwy o fudiadau i gyflwyno buddion i unigolion a chymunedau drwy eu gwaith.
Gellir gweld cymhwysedd a chanllawiau ymgeisio yn https://www.artsculturefinance.org/our-funds/arts-culture-impact-fund/
Rhaglen Grantiau Connected Lankelly Chase
Mae rhwng £1,500 – £3,000 ar gael i fudiadau i weithio ar brosiectau sy’n ymwneud ag anfanteision difrifol a lluosog.
Dylai’r prosiectau ymwneud â chyfres o adroddiadau a gyhoeddwyd gan Lankelly Chase o dan bwnc ymbarél anfantais o’r enw ‘Connected’.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 9 Ebrill 2020. Gallwch ddarllen mwy ar yr adroddiadau yn ogystal â chael gafael ar ganllawiau ymgeisio pellach yn https://lankellychase.org.uk/connected/