Cyllid Prosiect Ieuenctid Tyfu’n Wyllt
Mae £500 ar gael i bobl rhwng 16-24 oed, ochr yn ochr â Mudiad Cefnogol, i redeg prosiectau sy’n ymwneud â phlanhigion a/neu ffyngau sy’n gynhenid i’r DU.
Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 1pm, 30 Mawrth. Gellir cael rhagor o fanylion yn https://www.growwilduk.com/cy/wyt-ti’n-14-25-oed-ac-yn-llawn-dop-o-syniadau-prosiect neu gallwch anfon e-bost i c.booth2@kew.org os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.
Hospice UK – Ehangu’r Mynediad at Ofal Dementia a Chymorth Iechyd Meddwl mewn Lleoliadau Hosbis 2020
Mae grantiau cyfalaf o hyd at £40,000 ar gael ar gyfer prosiectau sy’n gwella’r amgylchedd ffisegol lle gall hosbisau ddarparu gofal.
Bydd y grantiau’n ceisio mynd i’r afael ag anghydraddoldeb ac ehangu’r mynediad at ofal hosbis i bobl â dementia neu gyflwr iechyd meddwl. Gellir gwneud hyn mewn nifer o ffyrdd:
- Rhoi argymhellion neu ganfyddiadau ymarferiad cwmpasu lleol neu fudiad ar waith
- Peilota prosiect newydd sy’n seiliedig ar asesiad trylwyr o anghenion
- Ymateb i bolisi cenedlaethol neu dystiolaeth o waith ymchwil.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 17:00 ar ddydd Llun, 20 Ebrill 2020. I gael gwybod mwy, ewch i https://www.hospiceuk.org/what-we-offer/grants/open-grant-programmes/details/widening-access-to-dementia-care-and-mental-health-support-in-hospice-settings-2020
Ymddiriedolaeth Thomas Wall
Mae grantiau o hyd at £5,000 ar gael tuag at brosiectau neu weithgareddau craidd penodol sy’n helpu pobl â sgiliau llythrennedd, rhifedd a digidol a sgiliau ychwanegol ar gyfer dysgu sy’n debygol o’u cynorthwyo â’u rhagolygon cyflogaeth.
Gall elusennau cofrestredig yn y DU â llai na £500,000 o drosiant blynyddol sy’n rhedeg prosiectau wedi’u hanelu at bobl 11 oed a hŷn ymgeisio.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno eich ffurflen Mynegi Diddordeb yw 25 Mawrth 2020. I gael gwybod mwy, ewch i https://www.thomaswalltrust.org.uk/grants-for-registered-charities-2/