Magic Little Grants 2020
Grantiau o £500 i brosiectau ledled Prydain Fawr. Bydd prosiectau llwyddiannus yn cefnogi ac yn ysbrydoli pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon neu ymarfer corff, gyda’r prif nod o wella iechyd corfforol cyfranogwyr.
Bydd rhaglen Magic Little Grants 2020 yn lansio ar ddydd Mawrth 10 Mawrth 2020. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau fydd 31 Hydref 2020.
Am ragor o wybodaeth, ewch i https://localgiving.org/about/magic-little-grants/
Football Foundation – Grow the Game
Sylwch yng Nghymru fod hyn ddim ond ar agor i Ymddiriedolaethau Cymunedol proffesiynol o glybiau Premier Cymru neu glybiau o Gymru sy’n gysylltiedig â chynghreiriau yn Lloegr
Nod Grow the Game yw cefnogi twf timau newydd i fenywod a phobl anabl, drwy gynnig grantiau o £1,500 ar gyfer creu timau cyswllt newydd.
Mae’r ffenestr ymgeisio ar agor rhwng 26 Chwefror 2020 a 31 Mai 2020. Bydd ceisiadau’n cael eu hasesu ar sail y cyntaf i’r felin.
I gael gwybod mwy a chael mynediad i’r porth ymgeisio ar-lein, ewch i https://footballfoundation.org.uk/grant/grow-the-game
Mudiad Elusennol Polden-Puckham
Mae grantiau o rhwng £5,000 ac £20,000 y flwyddyn ar gael, am hyd at dair blynedd, i brosiectau sy’n canolbwyntio ar gymdeithas ac ymrwymiad a rennir tuag at ddidreisedd a chynaliadwyedd amgylcheddol.
Mae’r grant yn cyllido mudiadau yn y DU sy’n gweithio tuag at ddylanwadu ar bolisi, agweddau a gwerthoedd ar lefel genedlaethol neu ryngwladol.
Y dyddiad cau nesaf yw dydd Gwener 11 Medi 2020. I gael gwybod mwy am sut i ymgeisio, ewch i https://www.polden-puckham.org.uk/index.php/how-to-apply-report