Mae’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) wedi cyhoeddi newidiadau i’r ‘rheolau hidlo’ ar gyfer gwiriadau DBS.
O ddydd Sadwrn 28 Tachwedd 2020, bydd y DBS yn newid y rheolau hidlo sy’n pennu pa droseddau o’r gorffennol sy’n ymddangos ar dystysgrif DBS. Ar gyfer swyddi a rolau gwirfoddol sy’n ymwneud â chael gwiriad cofnodion troseddol safonol neu fanylach gan y DBS, ni fydd rhybuddiadau yn ystod plentyndod yn cael eu datgelu mwyach.
Mae hyn yn golygu bod y rheol o ran datgelu holl euogfarnau rhywun â mwy nag un euogfarn, waeth beth yw’r drosedd neu hyd amser, hefyd wedi’i diddymu.
BETH MAE’R NEWIDIADAU YN EU GOLYGU
Mae’r newidiadau i’r rheolau hidlo’n golygu na fydd unrhyw rybuddion, rhybuddiadau na cheryddon a dderbyniwyd gan rywun cyn oedd yn 18 oed yn ymddangos (pan fydd dros 18 oed).
Nid oes newid i’r rhestr o droseddau difrifol (‘troseddau penodedig’), na fydd yn cael eu hidlo ar unrhyw adeg.
Mae hyn yn golygu:
- bydd yr holl rybuddiadau a dderbynnir ar ôl 18 oed yn cael eu hidlo ar ôl chwe blynedd
- bydd yr holl euogfarnau a bennir ar gyfer unigolion o dan 18 oed yn cael eu hidlo ar ôl pum mlynedd a hanner
- bydd yr holl euogfarnau a bennir ar gyfer unigolion dros 18 oed yn cael eu hidlo ar ôl 11 mlynedd
- ni fydd euogfarnau sy’n arwain at gyfnod mewn carchar neu ddedfryd ohiriedig yn cael eu hidlo ar unrhyw adeg
Argymhellir fod yr wybodaeth a roddir i ymgeiswyr am wiriadau DBS yn cael eu diwygio yn unol â hyn.
RHAGOR O WYBODAETH
Cafodd yr wybodaeth uchod ei chymryd o’r ffynonellau canlynol.
Unlock
DBS
Rheolau hidlo newydd – GOV.UK (www.gov.uk) (Saesneg yn unig)
MWY AR DDIOGELU
I gael adnoddau a gwybodaeth am gadw pobl yn ddiogel a’ch cyfrifoldebau, ewch i’n tudalen Diogelu ac Amddiffyn Pobl.
Mae gennym hefyd gyfres o adnoddau diogelu sy’n ymwneud â COVID-19 ar ein tudalen canllawiau ac adnoddau COVID-19.