Unigolyn yn dal clipfwrdd gyda gwybodaeth eiddo yn cael ei throsglwyddo i'r tenantiaid eiddo newydd

Newidiadau i ardrethi busnes ar gyfer elusennau yng Nghymru

Cyhoeddwyd : 27/11/23 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Bydd bil newydd a gyflwynir yn y Senedd yn golygu amodau cymhwyster cryfach ar gyfer rhyddhad elusennol ar gyfer eiddo gwag.

Ar 20 Tachwedd, cyflwynwyd y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) yn y Senedd. Bydd y Bil yn cyflawni’r rhan fwyaf o’r cynigion ar gyfer diwygio  ardrethi annomestig (yr ardrethi busnes a godir ar eiddo fel siopau, swyddfeydd a warysau) a nodwyd y llynedd yn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddiwygio ardrethi annomestig.

Mae’r cynigion hyn yn cynnwys cynnal ailbrisiadau’n amlach a’r mesurau sydd eu hangen i’w cyflawni, yn ogystal â gwelliannau ehangach i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gallu gwneud y system ardrethi annomestig yn fwy addas i ddiwallu anghenion Cymru.

BETH FYDD YN NEWID?

O ran ardrethi annomestig, bydd y Bil yn:

  • cynyddu amlder ailbrisiadau i bob tair blynedd
  • galluogi addasu’r cylch ailbrisio gan ddefnyddio rheoliadau
  • newid y ffordd y mae trethdalwyr yn darparu gwybodaeth i Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA), i sicrhau bod ailbrisiadau amlach yn fwy cynaliadwy yn yr hirdymor
  • galluogi Llywodraeth Cymru i ymgynghori ar unrhyw ryddhad neu eithriadau, eu hamrywio neu eu tynnu’n ôl, ac i ragnodi lluosyddion gwahaniaethol, gan ddefnyddio rheoliadau
  • cryfhau’r amodau cymhwysedd ar gyfer rhyddhad elusennol i eiddo sydd heb eu meddiannu
  • dileu’r cyfyngiad amseru i awdurdodau lleol roi rhyddhad dewisol
  • ehangu’r diffiniad o adeilad newydd at ddiben rhoi hysbysiadau cwblhau gan awdurdodau lleol, a
  • galluogi gwrthbwyso’r manteision sy’n deillio o drefniadau osgoi artiffisial a nodwyd yn y rheoliadau

RHYDDHAD ELUSENNOL I EIDDO SYDD HEB EU MEDDIANNU

Ar hyn o bryd mae’r ddeddfwriaeth yn caniatáu i elusen neu ymddiriedolwr sy’n berchen ar eiddo heb ei feddiannu, neu sy’n lesio eiddo heb ei feddiannu, wneud cais am ryddhad rhag atebolrwydd ardrethi llawn am gyfnod amhenodol os yw’n ymddangos y bydd yr eiddo yn cael ei ddefnyddio at ddibenion elusennol pan fydd yn cael ei ddefnyddio nesaf. Os nad yw’r eiddo yn cael ei ddefnyddio at ddibenion elusennol mewn gwirionedd yn y dyfodol, bydd y perchennog neu’r lesddeiliad wedi elwa ar y trefniadau hyn tra oedd yr eiddo yn wag.

O ganlyniad, mae’r trefniadau wedi cael eu camddefnyddio fel ffordd o osgoi talu ardrethi annomestig. Er mwyn i’r system allu parhau i gefnogi achosion sy’n defnyddio’r rhyddhad ardrethi mewn modd dilys, bydd Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) yn cyflwyno amodau cymhwysedd ychwanegol.

AMODAU NEWYDD AR GYFER CYMHWYSTER

Bydd awdurdodau bilio yn gweithredu’r rhyddhad mewn achosion lle maent yn fodlon bod yr eiddo heb ei feddiannu am reswm sy’n gysylltiedig â dibenion elusennol yr elusen honno, a’r tro nesaf y bydd yr eiddo yn cael ei ddefnyddio, bydd hynny yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddibenion elusennol. Bydd hyn yn galluogi awdurdodau bilio i edrych y tu hwnt i statws elusennol sefydliad, ac ystyried a yw nodau’r elusen, ei bwriad o ran defnyddio’r eiddo, a’r rheswm pam y mae’r eiddo heb ei feddiannu, i gyd yn gydnaws.

Bydd yn rhaid i drethdalwyr ddarparu tystiolaeth ychwanegol yn yr amgylchiadau hyn, cyn belled na fydd darparu tystiolaeth mewn perthynas â’r amodau yn rhoi baich gweinyddol anghymesur ar drethdalwyr dilys sy’n gymwys ar gyfer y rhyddhad. Bydd pob elusen eisoes yn ymwybodol o’r gofynion sydd arni i baratoi cyfrifon ac adroddiadau blynyddol o dan y gyfraith elusennau, gan ddangos tystiolaeth o’i chydymffurfedd dim ond pan fo angen gwneud hynny.

RHYDDHAD I ELUSENNAU WEDI’I FEDDIANNU

Mae’r mater hwn ar wahân i’r ddarpariaeth orfodol o ryddhad ar gyfer eiddo sy’n cael ei feddiannu gan elusen. Ni fydd y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) yn newid y trefniadau presennol ar gyfer rhyddhad elusennol ar gyfer eiddo sydd wedi’i feddiannu.

Mae rhagor o wybodaeth am ardrethi annomestig ar gael ar Busnes Cymru yn: businesswales.gov.wales/cy/pynciau-a-chyfarwyddyd/treth-busnes-trethi-ardrethi-ac-adeiladau/ardrethi-busnes-yng-nghymru

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 04/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Sut i gymryd rhan yn Wythnos Elusennau Cymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 03/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Swyddi Wag – Ymunwch â thîm cyllid CGGC

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 23/09/24 | Categorïau: Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Adroddiad newydd yn canfod bod gwirfoddolwyr yn lleihau’r pwysau ar staff rheng flaen y GIG

Darllen mwy