‘Newid hirdymor mewn ymddygiad’ yn angenrheidiol er mwyn i strategaeth ailddefnyddio ac ailgylchu fod yn llwyddiannus

Cyhoeddwyd : 14/04/20 | Categorïau: Dylanwadu |

Rydym wedi ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar yr Economi Gylchol.

Roedd yr ymgynghoriad yn edrych ar gynigion ynglŷn â’r modd y gall Cymru:

  • symud tuag at ddyfodol diwastraff erbyn 2050
  • graffu ar sut rydym yn defnyddio adnoddau
  • annog ailddefnyddio, atgyweirio ac ailweithgynhyrchu cynnyrch a deunyddiau
  • gwneud y defnydd gorau o gyfleoedd economaidd a chymdeithasol economi mwy cylchol.

Mae’r sector gwirfoddol wedi bod ar flaen y gad wrth greu a hybu’r economi gylchol. Mae hynny’n cynnwys mentrau byd-eang megis ‘Freecycle’, yn ogystal â siopau elusen a llu o fentrau cymdeithasol lleol.

Yn ein hymateb, nodwn:

  • Fod angen annog newid hirdymor mewn ymddygiad er mwyn cynorthwyo cynhyrchwyr i roi mwy o ystyriaeth i ailddefnyddio ac ailgylchu deunyddiau.
  • Dylai buddion cymunedol fod yn ofynion craidd mewn cytundebau, yn hytrach nag ychwanegiadau dymunol yn unig.
  • Carem weld Llywodraeth Cymru yn cyflwyno’r hyn y gobeithiant ei weld yn dod o’r adolygiad o’r tâl am fagiau siopa cyn iddo ddechrau, ac yn cynnwys y sector gwirfoddol mewn unrhyw drafodaethau ynglŷn ag unrhyw newidiadau i’r tâl yn y dyfodol.
  • Rhaid i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol fod yn greiddiol i Strategaeth Economi Gylchol newydd er mwyn sicrhau cynnydd tuag at y saith Nod Llesiant.
  • Byddem hefyd yn disgwyl i’r Strategaeth gael ei hymgorffori â’r nod o waith teg ac economi gynhwysol fel disgrifiwyd yn y Bil Partneriaeth Gymdeithasol.
  • Mae dod â chymunedau a busnesau at ei gilydd i weithredu ar y cyd yn hanfodol. Fodd bynnag, rhaid sicrhau mai ychydig, os o gwbl, o fiwrocratiaeth ychwanegol sydd ynghlwm wrth y broses gan y gallai hynny ddal yn ôl gweithgarwch a ddylai ffynnu o ganlyniad i’r Strategaeth.
  • Mae’n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi mentrau sy’n bodoli eisoes yn ogystal â rhai newydd, neu gallem weld sefyllfa lle bydd mudiadau’n gwneud yr un gwaith ac yn cystadlu am yr un potiau arian.
  • Mae cyllid craidd i brosiectau yn hanfodol er mwyn i’r mudiadau hynny fedru talu rhent, talu costau staffio, prynu cerbydau a thalu unrhyw gostau angenrheidiol er mwyn cychwyn arni.

Gallwch ddarllen yr ymateb llawn yma.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 04/10/24 | Categorïau: Dylanwadu | Newyddion |

Llythyr agored i’r cabinet newydd

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 21/06/24 | Categorïau: Dylanwadu | Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Perthnasau rhwng y sectorau gwirfoddol a statudol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 25/03/24 | Categorïau: Dylanwadu |

Awgrymiadau Mark Drakeford ar gyfer dylanwadu ar bolisïau’r llywodraeth

Darllen mwy