Mae rhaglen o sgyrsiau ysbrydoledig dros amser cinio sef Newid: Digidol ar gyfer Ymddiriedolwyr, yn cymryd lle rhwng y 16-25 o Fai i’ch cynorthwyo chi i ddatblygu digidol o fewn eich mudiad.
Mae’r digwyddiadau hyn yn addas i bob lefel gyda digonedd o gyfleoedd i ofyn cwestiynau a rhannu profiadau. Waeth beth yw eich camau nesaf gyda digidol, camwch ymlaen yn hyderus gyda’r offer a strategaethau defnyddiol o’n cyfres o ddigwyddiadau
DIGWYDDIADAU YN Y GYFRES HON
- Camau bach, gwahaniaethau mawr: Ymddiriedolwyr yn rhannu eu profiadau o roi cynnig ar ddigidol – Dydd Llun 16 Mai 2022, 12 pm – 1 pm – Wedi’i gadeirio gan Rhodri Jones, Pennaeth Gwasanaethau Digidol CGGC ac ymddiriedolwr Neuadd Goffa Aberaeron, bydd ymddiriedolwyr o Gymru yn rhannu eu profiad o roi cynnig ar ddigidol yn eu mudiadau.
- Digidol: sut ydyn ni’n gwybod a ydyn ni’n ei wneud yn gywir? – Dydd Mawrth 17 Mai 2022, 12 pm – 1 pm – Ymunwch â Zoe Amar ac CGGC am sesiwn ryngweithiol lle byddwch chi’n dysgu o’ch cymheiriaid yn ogystal â sut y gall y Cod Ymarfer Digidol i Elusennau eich helpu i gynyddu eich sgiliau a’ch hyder wrth ddefnyddio digidol fel ymddiriedolwr.
- Cefnogi’r arweinydd digidol yn eich mudiad – Dydd Mercher 18 Mai 2022, 12 pm – 1 pm – Bydd y sesiwn hon yn ymdrin â phwysigrwydd y cyd-destun digidol presennol yng Nghymru, ble mae’r sector gwirfoddol yn ffitio o fewn y strategaeth ddigidol bresennol ar gyfer Cymru, a sut i ymwreiddio diwylliant digidol ar draws eich mudiad.
- Strategaeth ddigidol gyda Cwmpas – Dydd Iau 19 Mai 2022, 12 pm – 1 pm – Bydd y sesiwn hon yn ymdrin â’r elfennau hanfodol ar gyfer ymchwilio, datblygu a gweithredu strategaeth ddigidol lwyddiannus.
- Hanfodion Seiberddiogelwch i ymddiriedolwyr – Dydd Llun 23 Mai 2022, 12 pm – 1 pm – Mae Georgia Christensen yn Ymgynghorydd Seiberddiogelwch yn Uned Seiberdrosedd Ranbarthol Tarian. Mae Georgia yn gweithio gyda busnesau ac elusennau ledled De Cymru i wella eu seiberwydnwch, gan ddefnyddio cyflwyniadau, ymarferion ac efelychiadau.
- Cyflwyniad i Gyfryngau Cymdeithasol gyda ProMo-Cymru – Dydd Mawrth 24 Mai 2022, 12 pm – 1 pm – Gyda chymaint o blatfformau cyfryngau cymdeithasol gwahanol yn y byd, ni fu hi erioed yn bwysicach i wybod y rhwydwaith gorau i’ch cynulleidfa, ac i deilwra eich cynnwys ar gyfer y platfform hwnnw.
- Dechrau ar ddigidol ar gyfer ymddiriedolwyr – Dydd Mercher 25 Mai 2022, 12 pm – 1 pm – Bydd y sesiwn hon yn helpu ymddiriedolwyr i ddeall y prif themâu y dylent fod yn eu hystyried ar lefel bwrdd pan ddaw hi i ddatblygu dull strategol o weithredu’n ddigidol.
I archebu lle yn un o’r digwyddiadau, neu ymhob un o’r digwyddiadau, cliciwch ar y dolenni uchod.
BETH YW NEWID?
Rhaglen beilot gyffrous yw Newid: digidol ar gyfer y trydydd sector sy’n datblygu a chefnogi sgiliau digidol y sector gwirfoddol yng Nghymru. Mae’r rhaglen yn bartneriaeth rhwng ProMo Cymru, Cwmpas a CGGC, wedi’i chyllido gan Lywodraeth Cymru a’i chefnogi gan y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol.
Gellir cael gwybodaeth am waith y tri phartner drwy ddilyn y dolenni isod.
https://wcva.cymru/cy/yn-cyflwyno-newid-digidol-ar-gyfer-y-trydydd-sector/