Dau person mewn swyddfa yn gwenu ar laptop

‘Mwy o dryloywder’ yn y gofrestr elusennau ddiwygiedig

Cyhoeddwyd : 03/09/20 | Categorïau: Dylanwadu |

Mae’r Comisiwn Elusennau wedi lansio fersiwn newydd o’i gofrestr elusennau gyhoeddus.

Nod y gofrestr ddiwygiedig yw cynyddu tryloywder yn y sector elusennau drwy arddangos amrediad ehangach o wybodaeth nag o’r blaen. Mae hyn yn cynnwys amlygu:

  • ‘Rhybuddion rheoleiddiol’ i ddangos bod y Comisiwn wedi dwyn elusen i gyfrif a’r camau penodol a gymerwyd neu sydd ar waith.
  • Gwybodaeth ariannol, gan gynnwys nifer y staff o fewn elusen sydd ag incwm o fwy na £60,000 ac a yw ymddiriedolwyr – sydd fel arfer yn wirfoddolwyr – yn cael eu talu am eu gwaith ar gyfer yr elusen.
  • Incwm y mae elusennau yn ei dderbyn gan grantiau a chontractau llywodraethol.
  • A yw elusennau unigol yn gweithio gyda chodwyr arian proffesiynol ac a oes ganddyn nhw bolisïau penodol yn eu lle, fel polisi diogelu.

Bydd offer newydd hefyd yn ei gwneud hi’n haws i elusennau ddiweddaru eu gwybodaeth gyda’r Comisiwn, ac yn galluogi rhoddwyr posibl neu’r rheini sy’n meddwl am sefydlu elusen i ddod o hyd i elusennau eraill sy’n hyrwyddo achos penodol. Bydd swyddogaethau lawrlwytho data yn helpu pobl i ddadansoddi gwybodaeth yn well am y sector yn gyffredinol.

Mae’r Comisiwn wedi gofyn i elusennau, noddwyr a’r cyhoedd am adborth ar y gofrestr.

Dywedodd Helen Stephenson, Prif Weithredwr y Comisiwn Elusennau: ‘Mae’r misoedd diwethaf wedi dangos ysbryd gwirfoddol pobl Brydain a’u cymorth hael i elusennau. Mae rôl bwysig gan gofrestr ar-lein y Comisiwn o ran sicrhau bod haelioni’n cefnogi achosion da, ac rydym ni’n parhau i annog pobl i wirio’r gofrestr cyn rhoi arian er mwyn gwneud yn siŵr bod eu harian yn mynd at elusen go iawn. Drwy ehangu ffenestr y cyhoedd i weld sut y caiff elusennau unigol eu rhedeg, a sut maen nhw’n gwario eu harian, rydyn ni hefyd yn gobeithio nawr y bydd pobl yn teimlo’u bod yn gallu gwneud dewisiadau mwy gwybodus ynghylch sut a ble maen nhw’n rhoi arian.

‘Rwyf hefyd yn gobeithio y bydd y gofrestr newydd a ddangosir yn annog elusennau i barhau i ymateb i ddisgwyliadau cynyddol y cyhoedd ynghylch tryloywder ac atebolrwydd. Gwyddom fod y cyhoedd yn disgwyl i elusennau fynd ati i weithio mewn modd sy’n cyd-fynd ag ysbryd elusen, a dylai’r drych newydd rydyn ni’n ei ddal i fyny i’r sector helpu elusennau i ymateb i’r disgwyliadau hynny.’

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 21/06/24 | Categorïau: Dylanwadu | Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Perthnasau rhwng y sectorau gwirfoddol a statudol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 25/03/24 | Categorïau: Dylanwadu |

Awgrymiadau Mark Drakeford ar gyfer dylanwadu ar bolisïau’r llywodraeth

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 16/02/24 | Categorïau: Dylanwadu | Gwybodaeth a chymorth |

Cynllun gweithlu yn chwilio am fewnwelediad i rôl gwirfoddolwyr mewn lleoliadau iechyd meddwl

Darllen mwy