Grŵp o blant amrywiol yn y cylch chwarae

Mwy na Pwyllgor

Cyhoeddwyd : 13/09/21 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth |

Yr wythnos hon (o Fedi 13 i 17), mae Mudiad Meithrin yn cynnal ymgyrch #MwyNaPhwyllgor i dathlu gwaith aelodau’r pwyllgorau rheoli gwirfoddol sy’n rhedeg Cylchoedd Meithrin, rhannu arfer da ac annog eraill i ymuno â nhw yn eu gwaith, a dweud diolch!

Dros hanner can mlynedd, mae Mudiad Meithrin wedi tyfu i fod yn sefydliad ymbarél a rhwydwaith cenedlaethol ar gyfer lleoliadau blynyddoedd cynnar a gofal plant a ddarperir yn Gymraeg ac yn hwyluso gwasanaethau i blant a’u teuluoedd – grwpiau rhieni a babanod anffurfiol i grwpiau meithrin a meithrinfeydd dydd. Er mwyn gwneud hyn, maent yn dibynnu ar rwydwaith cenedlaethol – yn wir miloedd o bobl – sy’n gwirfoddoli ar eu pwyllgor rheoli gwirfoddol yn eu Cylch Meithrin lleol. Maen nhw’n cymryd cyfrifoldeb am bob agwedd ar fusnes Cylch Meithrin gan gynnwys cyflogaeth, Iechyd a Diogelwch a diogelu. Heb eu cydweithrediad parod, byddai’n amhosibl iddynt wneud eu gwaith yn effeithiol.

Mae Mudiad Meithrin yn aelod gwerthfawr o CGGC ac rydym wedi bod yn falch o gefnogi’r mudiad gyda llywodraethu da drwy adolygu arferion cyfredol a gwneud argymhellion. Rydym yn ymwybodol bod gan y mudiad ddull cadarn o lywodraethu ac mae’n defnyddio Cod Llywodraethu Elusennau’r DU i asesu ei hun yn erbyn y safon a gymeradwywyd gan y Comisiwn Elusennau. Rydym hefyd yn falch iawn o weld staff o’r Mudiad Meithrin yn bresennol yn rheolaidd mewn gweminarau a digwyddiadau llywodraethu CGGC.

#MwyNaPhwyllgor

Mae’r Cod Llywodraethu i Elusennau’r DU yn nodi ‘Mae llywodraethu da mewn elusennau yn hanfodol i’w llwyddiant. Mae elusen yn y sefyllfa orau i wireddu ei dyheadau a’i hamcanion os oes ganddi

drefn lywodraethu effeithiol a’r strwythurau arwain cywir’.  Mae’n bwysig bod pwyllgorau Meithrin yn rhoi strwythurau a phrosesau llywodraethu da ar waith i sicrhau bod eu mudiadau’n cael eu rhedeg yn dda ac yn cydymffurfio’n gyfreithiol.

Llywodraethu da yn allweddol i lwyddiant

I gefnogi hyn, byddem yn awgrymi bod Meithrin yn sicrhau bod ymddiriedolwyr yn cael cyfnod ymsefydlu llawn pan fyddant yn ymuno â’r mudiad ac yn cael cynnig hyfforddiant ar eu cyfrifoldebau. Mae CGGC a’n partneriaid CGS lleol yn cynnig llawer o gyrsiau hyfforddi, digwyddiadau a gweminarau defnyddiol I ymmddiriedolwyr. Gallant hefyd gysylltu â ni am wybodaeth ac arweiniad.

Mae ein Hwb Gwybodaeth Cefnogi Trydydd Sector Cymru yn cynnwys nifer o daflenni gwybodaeth, cyrsiau e-ddysgu a meysydd trafod, felly beth am gofrestru heddiw i gael mynediad at yr adnoddau hyn.

Rydym yn cefnogi Mudiad Meithrin yn eu hymdrechion i wneud gwahaniaeth a chreu cymuned Gymraeg fywiog. Does dim angen i unigolyn fod yn rhiant i fod yn aelod o bwyllgor ar Gylch Meithrin lleol – mae croeso i bawb!  Mae mwy o wybodaeth yma: www.meithrin.cymru/i-bwyllgorau

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Snorcelio dros natur

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 27/08/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Dathlu addysg oedolion yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 23/08/24 | Categorïau: Cyllid | Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Yr ymgyrch ‘ewyllysgaredd’ sy’n ennill tir

Darllen mwy