Gellir cofrestru ar gofod3 nawr, sef y digwyddiad mwyaf ar gyfer y sector gwirfoddol yng Nghymru.
Mae’n gyfle prin ond hollbwysig inni ddod ynghyd a chreu newid yng Nghymru. Eleni, bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 19 Mawrth 2020.
Beth i’w ddisgwyl
gofod3 yw ein lle ni i ddod at ein gilydd, archwilio syniadau, a rhwydweithio gydag eraill o bob cwr o’r wlad.
Rydyn ni wedi llenwi’r diwrnod gydag ystod eang o siaradwyr, dosbarthiadau meistr, paneli trafod a gweithdai ar bynciau pwysig fel:
- Cyllido a chodi arian
- Digidol a thechnoleg
- Arweinyddiaeth
- Risg, llywodraethu ac effaith
Mae gan gofod3 fan arddangos brysur, sy’n wych ar gyfer dod â chydweithwyr ynghyd o’r sectorau gwirfoddol, cyhoeddus a phreifat. Byddwn hefyd yn cael sesiynau galw heibio, Holi ac Ateb, ac mae’r darlithoedd Safbwynt yn dychwelyd i theatr gofod3, sef sgyrsiau byr ar bynciau sydd o bwys i’r sector.
Gallwch nawr weld ein rhaglen lawn o arddangoswyr a digwyddiadau trwy ymweld â gwefan gofod3. Archebwch eich lle drwyddi a chofrestrwch eich diddordeb yn nigwyddiadau’r dydd i gael y newyddion diweddaraf – bydd y lleoedd ar gyfer digwyddiadau gofod3 eleni’n cael eu llenwi ar sail y cyntaf i’r felin ar y diwrnod, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cyrraedd mewn da bryd.
Cadwch eich lle heddiw
gofod3 yw ein lle ni i ysbrydoli, ysgogi ac arloesi. Peidiwch â cholli’r cyfle unigryw hwn i feddwl, dysgu a chydweithio gyda phobl eraill o’r sector gwirfoddol.