Mudiadau gwirfoddol i greu lleoliadau gwaith â chymorthdal llawn

Mudiadau gwirfoddol i greu lleoliadau gwaith â chymorthdal llawn

Cyhoeddwyd : 22/01/21 | Categorïau: Cyllid |

Mae 25 o fudiadau gwirfoddol yng Nghymru wedi’u cymeradwyo i elwa o swyddi â chymhorthdal llawn trwy Gynllun KickStart Llywodraeth y DU.

Mae CGGC yn cefnogi mudiadau gwirfoddol na fyddent fel arall yn ddigon mawr i fod yn gymwys i gael mynediad i Gynllun KickStart Llywodraeth y DU, sy’n darparu swyddi â chymhorthdal llawn i bobl ifanc ar draws y DU.

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) bellach wedi asesu’r swp cyntaf o geisiadau ac mae swyddi gwag 25 o fudiadau gwirfoddol yng Nghymru wedi eu cymeradwyo.

Mae’r Cynllun KickStart yn ariannu swyddi lefel mynediad i bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed. Mae amrywiaeth o fudiadau megis elusennau, grwpiau gwirfoddol a Chwmnïau Buddiannau Cymunedol (CICs) bellach yn medru cynnig swyddi megis:

  • Cynorthwy-ydd y Cyfryngau Cymdeithasol
  • Chef o dan Hyfforddiant
  • Cynorthwy-ydd Siop Elusen
  • Gweinyddydd
  • Technegydd Garddio a Chynnal a Chadw Cyffredinol

Unwaith y caiff cynnig y DWP ei dderbyn gan y mudiad sy’n cynnig y swyddi bydd modd iddynt gyflogi pobl ifanc ar leoliadau chwe mis o hyd, gyda’r holl gostau cyflogaeth wedi’u talu amdanynt gan y Cynllun KickStart.

Bydd mudiadau llwyddiannus hefyd yn derbyn £1,500 am bob lleoliad i’w fuddsoddi yn natblygiad y cyflogai KickStart, er enghraifft i dalu am gostau hyfforddi a datblygu eraill. 

ALLAI EICH MUDIAD CHI ELWA?

Gallech gefnogi pobl ifanc i gychwyn ar yrfa werth chweil yn y sector gwirfoddol yng Nghymru tra’n elwa o aelodau ychwanegol o staff sydd wedi’u hariannu’n llawn.

Lansiodd DWP y Cynllun KickStart er mwyn darparu cyllid i gyflogwyr i greu lleoliadau gwaith chwe mis o hyd i bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed.

Mae’r cynllun ar agor i fudiadau mawr sy’n creu 30 o swyddi neu ragor, fodd bynnag mae CGGC wedi’i gymeradwyo fel Porth i ymgeisio ar ran mudiadau gwirfoddol sy’n awyddus i greu swyddi ar raddfa lai.

Gall mudiadau gwirfoddol yng Nghymru ymgeisio trwy CGGC os oes modd iddynt gyflogi aelodau newydd o staff rhwng 16 a 24 oed sydd ar hyn o bryd yn derbyn Credyd Cynhwysol neu sydd mewn perygl o ddiweithdra hirdymor. Rhaid i’r lleoliadau gwaith fod yn chwe mis o hyd ac yn 25 awr yr wythnos o leiaf.

Ar gyfer pob rôl a gaiff ei greu bydd y cyllid yn talu am:

  • 100% o’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol priodol ar gyfer 25 awr yr wythnos
  • cyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogwr cysylltiedig
  • lleiafswm cyfraniad y cyflogwr dan y drefn cofrestru awtomatig

Bydd cyllid ychwanegol yn ogystal er mwyn cefnogi pobl ifanc i adeiladu eu profiad a’u helpu i symud ymlaen i gyflogaeth gynaliadwy wedi iddynt gwblhau eu swydd â chymhorthdal gan Gynllun KickStart.

SUT A PHRYD CAIFF CYLLID EI DDYRANNU?

Ar hyn o bryd mae’r DWP yn tybio y bydd ceisiadau’n cymryd pedair wythnos i’w prosesu.

I’r rhai sy’n ymgeisio trwy CGGC, dyma fydd y broses:

  1. Grwpiau’n ymgeisio ar gyfer y cynllun trwy Borth Ymgeisio Amlbwrpas (MAP) CGGC
  2. CGGC yn gwirio cymhwystra’r ceisiadau
  3. Unwaith y bydd gan CGGC swp o o leiaf 30 o leoliadau gwaith cymwys cânt eu cyflwyno i DWP ar ran yr ymgeiswyr
  4. DWP yn gwneud ei wiriadau ei hun ac yn hysbysu CGGC o’r ceisiadau sydd wedi’u cymeradwyo
  5. Os ydynt yn llwyddiannus bydd CGGC yn dosrannu’r cyllid i ymgeiswyr er mwyn iddynt greu’r swyddi.

Ceir mwy o wybodaeth a chyfarwyddiadau ar sut i ymgeisio ar ein tudalen cynllun KickStart.

Ymunwch â rhestr bostio CGGC

* yn dynodi maes angenrheidiol





 

Rhestrau*


Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 23/08/24 | Categorïau: Cyllid | Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Yr ymgyrch ‘ewyllysgaredd’ sy’n ennill tir

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 11/07/24 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Mae’r Bwrsari i arweinwyr yng Nghymru yn ôl

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 25/05/24 | Categorïau: Cyllid |

Cryfhau’r bartneriaeth rhwng Cymru ac Affrica

Darllen mwy