Dyn a menyw sy'n gwenu yn dal papurau ac yn rhoi pump uchel i'w gilydd

Mudiadau Cymru yn ymrwymo i arferion da mewn gwirfoddoli

Cyhoeddwyd : 04/06/21 | Categorïau: Gwirfoddoli |

Mae’r tîm Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yn dathlu ei flwyddyn brysuraf eto, gan gyrraedd ei darged cofrestru blynyddol ar gyfer y dyfarniad yng Nghymru mewn dim ond dau fis.

Llai na deufis ers lansio’r safon Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr (IiV) ddiwygiedig newydd, mae ein tîm IiV yn dathlu ei flwyddyn fwyaf llwyddiannus eto. Rydyn ni wrth ein boddau fod 40 o fudiadau yng Nghymru wedi cofrestru i gwblhau’r safon ers Ionawr 2021, ac yn edrych ymlaen at weithio gyda nifer o fudiadau newydd ar eu taith IiV.

‘Mae’r safonau Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr newydd wedi’u lansio ar adeg pan mae diddordeb a ffocws o’r newydd ar wirfoddoli,’ meddai Felicitie Walls, Rheolwr Gwlad IiV yng Nghymru. ‘Mae’n wych gweld ymrwymiad gan fudiadau i sicrhau bod gwirfoddolwyr yn cael profiad cadarnhaol o wirfoddoli drwy reolaeth gwirfoddolwyr o ansawdd uchel.

‘Mae’r holl dîm IiV ledled y DU wedi gweithio’n galed i gyflwyno’r safonau a’u gwneud yn fwy hygyrch, ac rydyn ni’n gyffrous nawr i dywys nifer uchel o fudiadau yng Nghymru drwy eu taith i gyflawni’r dyfarniad.’

BETH YW IIV?

Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yw safon ansawdd y DU am arferion da wrth reoli gwirfoddolwyr. Gall eich helpu i;

  • asesu ansawdd eich gwaith o reoli a chynnwys gwirfoddolwyr
  • dangos a gwella effeithiolrwydd eich gwaith gyda gwirfoddolwyr
  • gwella enw da eich mudiad ymhlith eich gwirfoddolwyr, staff, cyllidwyr, partneriaid, cleientiaid a defnyddwyr gwasanaethau

Mae cyflawni’r safon yn dangos i’ch gwirfoddolwyr cymaint y maen nhw’n cael eu gwerthfawrogi ac mae’n rhoi hyder iddynt yn eich gallu i ddarparu profiad rhagorol i wirfoddolwyr.

CYMORTH AR BOB CAM O’R DAITH

Mae Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yn broses gefnogol, ar bob cam o’ch taith, o’r dechrau i’r diwedd a thu hwnt.

Gan ddechrau gyda Hanfodion IiV (Saesneg yn unig), gallwch feddwl am ble ydych chi yn erbyn meysydd ansawdd y safon. Mae hwn yn adnodd ar-lein am ddim y gallwch chi ei ddefnyddio fel holiadur i ddechrau eich proses feddwl.

Wedyn, gallwch drafod IiV gyda’ch Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol neu eich tîm yn CGGC. Bydd ein cydweithwyr ledled Cymru yn falch o helpu gyda rhagor o wybodaeth am y safon Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr newydd.

Ar ôl i chi gofrestru a dechrau ar eich taith IiV gydag CGGC, bydd Asesydd IiV yn cael ei ddyrannu i chi a fydd yn eich cynorthwyo ac yn sicrhau bod gennych chi bopeth sydd ei angen arnoch i gwblhau’r gwaith hwn ac ennill y safon Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr ar ddiwedd eich taith. Mae’r cymorth yn cynnwys gweithdai a chyfarfodydd, sydd i gyd ar-lein ar hyn o bryd. Bydd y costau’n amrywio yn ôl y pecyn opsiwn cymorth y byddwch chi’n ei ddefnyddio.

CYMORTH GAN GYLLIDWYR

Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf rydym wedi bod yn gweithio gyda chyllidwyr yng Nghymru. Mae llawer o gyllidwyr yng Nghymru, gan gynnwys CGGC, bellach yn barod i’ch cefnogi tuag at amser a chostau ar gyfer y wobr Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr, gan fod Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yn broses sy’n gallu cryfhau eich gwydnwch a lleihau risg tra byddwch yn darparu gwaith sy’n cynnwys gwirfoddolwyr.

Gall dulliau cyllidwyr amrywio ar hyn o bryd: mae’n well gan rai cyllidwyr ystyried cefnogi sicrwydd ansawdd fesul achos, mae rhai yn annog derbynwyr eu cronfa i gynnwys costau IiV yn eu cais am gyllid, tra bod eraill yn awgrymu i’w derbynwyr grant ddefnyddio eu tanwariant tuag at IiV.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn trafod gyda’ch cyllidwr ynglŷn â Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr, esbonio buddion IiV yn ogystal â’ch nodau a’ch blaenoriaethau, a bydd eich cyllidwyr yn hapus i wneud eu gorau i ddiwallu eich anghenion a’ch cefnogaeth i brofi a gwella ansawdd eich ymarfer.

ASESWYR IIV YNG NGHYMRU

Rydyn ni hefyd yn gyffrous iawn i groesawu amrywiaeth o Aseswyr IiV a Phrif Aseswyr IiV newydd i’n tîm. Roedd recriwtio Aseswyr newydd yn flaenoriaeth hollbwysig ar ddechrau 2021, wrth i ni baratoi i ateb y galw a’r diddordeb uchel am Fuddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yng Nghymru. Cynhaliwyd yr hyfforddiant ar gyfer Aseswyr IiV newydd yng Nghymru yn ystod y tair wythnos ddiwethaf, a bydd yr aseswyr newydd yn cael eu cyhoeddi ym mis Mehefin.

Dywedodd Korina Tsioni, Asesydd IiV sydd newydd ei hyfforddi;

‘Fe fwynheais i’r sesiynau hyfforddi’n fawr iawn, roedd dysgu gyda, ac o’r grŵp amrywiol hwn o Aseswyr IiV yn ddiddorol, yn hwyl ac yn brofiad ysbrydoledig. Rwy’n ysu am gael rhoi’r damcaniaethau ar waith, i gysgodi’r Aseswyr IiV profiadol ac yna mynd ati i gynnal fy asesiad cyntaf ar fy mhen fy hun.’

‘Mae hon yn broses gefnogol, ac rwyf wrth fy modd i fod yn rhan o’r tîm hwn. Mae Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr wedi hen ennill ei blwyf fel offeryn sy’n cyflawni gwaith rheoli gwirfoddolwyr rhagorol.’

IIV LEDLED Y DU

Mae Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yn safon ledled y DU. CGGC sy’n arwain IiV yng Nghymru ac rydyn ni’n gweithio’n agos gyda gwledydd eraill y DU, gan sicrhau bod cysondeb yn y modd y caiff y safon a’r broses asesu eu cyflwyno. Caiff y dyfarniad ei gydnabod yn yr un modd ym mhob rhan o’r DU ac Iwerddon.

Cyflwynir cyfleoedd rhwydweithio hefyd mewn digwyddiadau IiV ar-lein ledled y DU, sy’n dod yn boblogaidd iawn. Ein digwyddiad diwethaf DU gyfan oedd y digwyddiad Lansio ar ddiwedd mis Mawrth, lle gwerthwyd pob tocyn o fewn ychydig wythnosau i 300 o fynychwyr.

RHAGOR AR IIV

Yng Nghymru, rydyn ni wedi llunio taflen wybodaeth IiV, y gellir dod o hyd iddi yma. Cyflwynir yr adnodd hwn ar Hwb Gwybodaeth Cefnogi Trydydd Sector Cymru (TSSW), sef platfform dysgu a datblygu ar gyfer mudiadau sy’n cynnwys gwirfoddolwyr. Porwch drwy ein hadnoddau a’n e-gyrsiau ac ymgysylltwch ag arbenigwyr gwirfoddoli yn yr adran ‘Eich Rhwydwaith’ ar y safle.

Gallwch hefyd;

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, syniadau neu adborth – cysylltwch ag iiv@wcva.cymru.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 02/08/24 | Categorïau: Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Adroddiad yn dangos bod gwirfoddoli yn cynyddu sgiliau a hyder

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 12/07/24 | Categorïau: Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Rôl gwirfoddoli mewn cartrefi gofal yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 21/06/24 | Categorïau: Dylanwadu | Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Perthnasau rhwng y sectorau gwirfoddol a statudol

Darllen mwy