Mae menyw mewn mwgwd wyneb a menig yn paratoi eitemau i mewn i flychau o hanfodion ar gyfer pobl fregus yn y gymuned

Mobilising Voluntary Action

Cyhoeddwyd : 24/05/21 | Categorïau: Gwirfoddoli | Newyddion |

Mae CGGC a Phrifysgol Aberystwyth wrthi’n gweithio gyda phartneriaid ledled y DU ar astudiaeth ymchwil gydweithredol sy’n edrych ar wirfoddoli yn ystod COVID-19.

‘Dysgu o heddi, Paratoi ar gyfer yfory’

Mae CGGC a Phrifysgol Aberystwyth yn gweithio gyda Volunteer Scotland, NCVO a Volunteer Now a phrifysgolion partner ar brosiect ymchwil cydweithredol ym Mhrifysgol Northumbria i edrych ar weithredu gwirfoddol yn ystod COVID-19.

Bydd y prosiect ‘Mobilising Voluntary Action’ yn helpu i adeiladu’r sylfaen dystiolaeth am effeith yr pandemig ar wirfoddoli a bydd yr hyn a ddysgir yn cynhyrchu argymhellion a fydd yn llunio polisïau yn y dyfodol ac yn llywio’r adferiad.

Hoffem glywed gan awdurdodau lleol, Byrddau Iechyd, Cynghorau Gwirfoddol Sirol a mudiadau sy’n cynnwys gwirfoddolwyr yn y sectorau gwirfoddol, cyhoeddus neu breifat yng Nghymru er mwyn gwneud yn siŵr bod lleisiau’r rheini sy’n ymwneud â chymunedau, a’r rheini sydd wedi cydlynu’r ymateb gwirfoddol yn ganolog i’n dealltwriaeth o’r cymorth sydd ei angen wrth symud ymlaen.

Rhannwch eich profiadau a’ch barnau ar wirfoddoli yn ystod COVID os gwelwch yn dda; er mwyn helpu ni i greu darlun gwell o’r hyn sy’n digwydd a chyflwyno dadl gref am gymorth gwirfoddoli.

Cwblhewch yr arolwg yn Gymraeg

Cwblhewch yr arolwg yn Saesneg

MWY AM MOBILISING VOLUNTARY ACTION

I gael y newyddion diweddaraf ar y prosiect, ewch i’r wefan: www.mvain4.uk.

Bydd canfyddiadau’r gwaith ymchwil yn cael eu rhannu drwy wefan y prosiect ym mis Mehefin/Gorffennaf 2021.  Diolch am gymryd rhan yn yr astudiaeth bwysig hon. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynghylch y gwaith ymchwil, cysylltwch â: laura2.crawford@northumbria.ac.uk.

MWY AR YMCHWIL A SECTOR GWIRFODDOLI

I gael mwy o wybodaeth am ymchwil i ymwneud â sefydliadau gwirfoddol a gwirfoddoli yng Nghymru, ewch i’n tudalen sector Gwirfoddol yng Nghymru.

I gael rhagor o wybodaeth am wirfoddoli, ewch i’n hadran gwirfoddoli.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 02/08/24 | Categorïau: Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Adroddiad yn dangos bod gwirfoddoli yn cynyddu sgiliau a hyder

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 12/07/24 | Categorïau: Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Rôl gwirfoddoli mewn cartrefi gofal yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 21/06/24 | Categorïau: Dylanwadu | Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Perthnasau rhwng y sectorau gwirfoddol a statudol

Darllen mwy