Cyfle i glywed y diweddaraf gan y Comisiwn Elusennau ar eu gwaith presennol.
BETH FYDDAF YN DYSGU AMDANO?
Ar 18 Hydref, mae CGGC yn cynnal sesiwn hybrid gyda’r Comisiwn Elusennau i roi cyfle i unrhyw elusen gofrestredig ddod i wrando ar ddiweddariadau ar ganllawiau allweddol a gyhoeddwyd gan y comisiwn.
Bydd Cyfarwyddwr Polisi a Chyfathrebiadau’r Comisiwn yn rhoi diweddariad ar rai o’r meysydd allweddol sy’n cael sylw ar hyn o bryd, fel ymgyrchoedd a digwyddiadau i ddod a chanllawiau a gyhoeddwyd yn ddiweddar.
Bydd yn gyfle i drafod a gofyn cwestiynau ar feysydd fel canllawiau’r Comisiwn ar gyfryngau cymdeithasol a gyhoeddwyd ar ôl ymgynghoriad ffurfiol. Bydd y canllawiau yn cynorthwyo ymddiriedolwyr i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol a gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am hyn yma.
FY NGHYFRIF COMISIWN ELUSENNAU
Eleni, mae’r ffordd y mae elusennau yn cael mynediad at wasanaethau ar-lein y Comisiwn wedi newid, gyda chyflwyniad ‘Fy Nghyfrif Comisiwn Elusennau’. Bydd y sesiwn yn rhoi cyfle i chi ofyn cwestiynau a rhoi adborth ar sut mae’r newid hwn wedi effeithio arnoch chi.
Bydd croeso i bobl ofyn cwestiynau ar bopeth sy’n gysylltiedig â’r Comisiwn Elusennau ac i chi rannu eich profiadau, y problemau a’r heriau y mae elusennau yng Nghymru yn eu hwynebu.
PRYD A BLE?
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal gan CGGC mewn fformat hybrid ar 18 Hydref 2023, 10.30 am – 12 pm.
Bydd y sesiwn yn un hybrid, a bydd croeso i’r rheini sydd am fynychu’n bersonol ymuno yn swyddfa Caerdydd CGGC.
Mae’n agored i bob elusen gofrestredig, ond mae lleoedd yn gyfyngedig a byddant yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin.
SUT YDW I’N CYMRYD RHAN?
I sicrhau eich cyfraniad i’r drafodaeth hon, anfonwch e-bost at polisi@wcva.cymru yn nodi yr hoffech chi ymuno’n bersonol neu ar-lein.
A fyddech gystal â nodi hefyd os hoffech gyfrannu i’r sesiwn yn Gymraeg neu’n Saesneg.