Gwnaethon ni siarad â rhai o’r busnesau cymdeithasol yng Nghymru a oedd ymhlith y rheini a gafodd fudd o academi dosbarth meistr ‘Social Investment Scotland’ (SIS) ar gyfer y rheini sy’n gweithredu mewn marchnad er daioni gyffrous sy’n tyfu.
Mae rhaglen Academi Manwerthu SIS yn ei phumed flwyddyn bellach, ar ôl partneru ag Asda a Llywodraeth yr Alban i roi mynediad i fentrau cymdeithasol at arbenigwyr a siaradwyr byd enwog yn y diwydiant. Mae’r rheini sydd wedi mynychu yn y gorffennol wedi mynd ymlaen i gyflenwi lliaws o archfarchnadoedd a thyfu eu cynnyrch, gan gyflawni’r genhadaeth o wneud daioni cymdeithasol ar yr un pryd.
Ond nid yw’r rhaglen i fudiadau yn yr Alban yn unig – mae pum mudiad o Gymru hefyd wedi cofrestru i fynychu’r Academi Manwerthu eleni. Gwnaeth Arts Factory, Awesome Wales, Resource Renew, Vison 21 a Fed 4 Good gysylltu â thîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru CGGC i gael cyfle i dreulio pum diwrnod yn dysgu gan arbenigwyr yn y byd busnes manwerthu a chlywed o lygad y ffynnon gan rai arweinwyr busnesau ysbrydoledig a yrrir gan ddiben.
Dyma beth ddywedodd rhai o’n ‘disgyblion’ o Gymru eu bod wedi’i gael o’r academi.
GWELEDIGAETH AR GYFER Y DYFODOL
Mae Vision 21 yn cefnogi cyfleoedd newid bywyd i bobl ag anableddau dysgu er mwyn gwireddu eu potensial trwy arlwyo, tyfu, creu, dysgu a gwneud cynlluniau. Dywedodd Chris Bowsher wrthym pam eu bod wedi dewis ymgeisio:
‘Rydyn ni’n datblygu ac yn amrywio ein gweithgareddau manwerthu a bob amser yn awyddus i ddysgu cymaint ag y gallwn er mwyn cyflawni ein hamcanion a chyflenwi ansawdd. Gwnaethon ni lansio ein brand a gwefan V21 newydd yn Haf 2020, a cham 2 ein cynllun o’r dechrau oedd datblygu gwerthu ar-lein.’
‘Gwnaeth y coronafeirws a phopeth a ddaeth yn ei sgil dim ond cynyddu’r angen am hyn. Wrth edrych ar y rhestr o siaradwyr ar gyfer Academi Manwerthu 2021 SIS, roedd themâu allweddol ar yr agenda a fyddai’n ganolog i’n twf a’n datblygiad: marchnata digidol, menter gymdeithasol gynaliadwy a gwerthu ar-lein.’
DIBEN O’R NEWYDD
Mae Resource Renew yn trwsio, ailwampio ac yn gwerthu dodrefn, ac rydyn ni’n gobeithio gwneud y mwyaf o’u galluoedd gwerthu heb gyfaddawdu eu prif genhadaeth. Dywedodd Calvin Davies:
‘A dweud y gwir, mae manwerthu i gynhyrchu incwm yn ail ystyriaeth i ni fel mudiad. Rydyn ni’n credu mai ein prif swyddogaeth yw bod yn ddarparwr iechyd a gofal cymdeithasol i oedolion ag anawsterau dysgu.’
‘Fodd bynnag, rydyn ni’n cydnabod bod angen mwy o gymorth arnom i’n helpu i fframio a hyrwyddo ein cynnig manwerthu, ac os gallwn ni egluro ein safle o ran cynnyrch a gwneud ein gallu manwerthu’n fwy proffesiynol, gallwn ni barhau i gynhyrchu incwm a chefnogi ein buddiolwyr heb unrhyw gymhorthdal.’
Y DDAWN O WERTHU
Mae Alexis Kirsten yn gweithio yn yr Arts Factory yn y Rhondda, lle maen nhw’n gweithio gyda phobl wedi’u hymyleiddio o bob math ar ymdrechion celfyddydol a dylunio graffeg er mwyn eu helpu i gyfrannu rhywbeth cadarnhaol at eu cymunedau.
‘Fel menter gymdeithasol sydd wedi bod yn rhedeg am fwy nag 20 mlynedd, roedden ni eisoes yn gwneud effaith fesuradwy ar ein cymunedau ac, fel stiwdio Dylunio Graffeg, roedden ni’n gyfarwydd tu hwnt â strategaeth farchnata! Rydyn ni wedi gwneud cynnydd da ar ddod yn 100% hunangynhaliol ac mae’r ffocws yna’n parhau, ond roedd angen cyngor arnom ar raddio ein gweledigaeth a thyfu’n gynaliadwy fel tîm eithriadol o fach.’
‘Roedd ein profiad o gwrs Academi Manwerthu SIS yn un gadarnhaol iawn. Roedd y canllawiau, y cyngor a’r mewnwelediadau a rannwyd gan siaradwyr gwad profiadol yn agoriad llygad a’r cynnwys yn llawn syniadau da yr ydyn ni wedi bod yn eu defnyddio ac y byddwn ni’n parhau i’w defnyddio wrth symud ymlaen.’
‘Roedden ni’n teimlo y byddai’n rhoi mewnwelediadau defnyddiol i ni i rai o’r heriau a wynebir gan gyd-fentrau cymdeithasol yr ydym yn cynhyrchu cyfathrebiadau marchnata ar eu cyfer, a dyna a fu’r achos yn bendant. Rhoddodd ddiweddariadau i ni ar y tueddiadau manwerthu diweddaraf a chipolwg ar y sector corfforaethol, y gwnaethon ni eu defnyddio wedyn yn y cyfathrebiadau creadigol rydyn ni’n eu llunio i gleientiaid eraill.’
‘Gwnaethon ni ennill un cleient newydd gwerthfawr yn uniongyrchol, ac o’r hyn maen nhw wedi’i ddweud wrthym hyd yma, maen nhw’n hapus iawn â safon uchel y gwaith rydyn ni wedi bod yn ei chynhyrchu.’
CYSYLLTIADAU AMHRISIADWY
Nid dim ond rhifau ar daenlen yn unig oedd yr holl ganlyniadau fodd bynnag – gwnaeth yr Arts Factory hefyd ennyn dealltwriaeth o sut i weithio’n well, a sut roedden nhw’n ymgysylltu â’u cwsmeriaid, yn ogystal â gwneud cysylltiadau dynol gwerthfawr iawn.
‘Cawson ni ymdeimlad amhrisiadwy o gyfeillgarwch â’r mentrau cymdeithasol eraill ar y cwrs a gwnaethon ni fwynhau cysylltu â’n ‘llwyth ment gym’ ar ôl blwyddyn mor heriol o ynysu. Mae cael ein hatgoffa ein bod yn rhan o ymgyrch gymdeithasol llawer mwy yn werthfawr tu hwnt ac yn gwneud byd o wahaniaeth.’
BUDDSODDIAD CYMDEITHASOL CYMRU
Mae Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru (SIC) yn rhoi cymorth ariannol i fentrau cymdeithasol yng Nghymru gydag amrediad o grantiau a benthyciadau.
Maen nhw’n buddsoddi mewn mudiadau sydd eisiau cynhyrchu mwy o incwm neu ehangu eu hamrediad o wasanaethau, a mudiadau sydd wedi ei chael hi’n anodd cael cyllid grant ar gyfer prosiectau newydd yn y gorffennol.
Os oes gennych chi syniadau yr hoffech chi eu trafod â’r tîm neu os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan yn yr Academi Manwerthu, anfonwch e-bost atyn nhw yn sic@wcva.cymru neu ffoniwch 0300 111 0124.