Mae Glyn Wylfa, sy’n cynnwys Caffi Wylfa, menter gymdeithasol yn y Waun, Gogledd Cymru, wedi ennill Gwobr Busnes Cymunedol Trawsnewidiol yng Ngwobrau ‘Social Enterprise UK’.
Cynhaliwyd Gwobrau ‘Social Enterprise UK’ (Saesneg yn unig), a gyflwynwyd gan y digrifwraig, yr awdures a’r actores Suzi Ruffel, yn y Guildhall yng nghanol Llundain ar noson 8 Rhagfyr 2021.
Mae’r gwobrau blynyddol, a drefnir gan Social Enterprise UK (SEUK) yn cydnabod rhagoriaeth a chyflawniadau rhagorol mentrau cymdeithasol, busnesau a sefydlir at ddiben cymdeithasol neu amgylcheddol sy’n ail-fuddsoddi neu’n rhoi’r rhan fwyaf o’u helw er mwyn cyflawni eu cenhadaeth.
O fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd i leihau tlodi, mae mentrau cymdeithasol yn mynd i’r afael â rhai o’r heriau mwyaf rydyn ni’n eu hwynebu, gan ddefnyddio masnach i newid bywydau ac amddiffyn y blaned. Maen nhw hefyd wedi bod yng nghanol yr ymatebion cymunedol i’r pandemig, yn darparu gwasanaethau hanfodol o gludo bwyd i ofal iechyd, gyda llawer yn gwyrdroi eu modelau er mwyn parhau i gefnogi’r bobl y maen nhw wedi’u sefydlu i’w helpu.
Yn ôl SEUK, mae 100,000 o’r busnesau hyn yn y DU, sy’n cyfrannu £60 biliwn i’r economi ac yn cyflogi dwy filiwn o bobl.
CHWIFIO’R FANER DROS GYMRU
Cafodd Cymru ei chynrychioli’n dda yn y noson wobrwyo, gyda phedair menter gymdeithasol o Gymru ar y rhestr fer (Saesneg yn unig):
GLYN WYLFA
Cipiodd Glyn Wylfa Cyf y tlws yn y Wobr Busnes Cymunedol Trawsnewidiol.
Caffi, canolfan gymunedol a thwristiaeth a chanolfan fusnes yw Glyn Wylfa a sefydlwyd wyth mlynedd yn ôl fel menter gymdeithasol er budd y gymuned leol. Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae Glyn Wylfa wedi gweld cynnydd o 15% yn ei incwm gwerthiannau a 30% yn fwy o elw net/gwarged – a ddefnyddiwyd ar fuddsoddiadau arbed ynni a buddion cwsmeriaid – gan hefyd ddyblu eu rhoddion elusennol a lleol.
Mae mwy na 45,000 o ymwelwyr yn dod i’r caffi bob blwyddyn. Mae’n cyflogi 13 o bobl ac ar agor saith diwrnod yr wythnos. Mae nifer o fusnesau llwyddiannus o fewn y ganolfan fusnes, ynghyd â’r Orsaf Heddlu leol, sy’n cyflogi oddeutu 30 o bobl leol i gyd.
Dywedodd Brian Colley, Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau: ‘Ar ran ein cyfarwyddwyr, cyflogeion, tenantiaid a chwsmeriaid, rydyn ni’n falch aruthrol o ennill y wobr hon ac mae’n gwneud yr holl waith caled mor werth chweil.’
‘…YMDEIMLAD GO IAWN O OBAITH’
Dywedodd Peter Holbrook, Prif Weithredwr Social Enterprise UK:
‘Mewn blwyddyn anhygoel o heriol, mae mentrau cymdeithasol wedi rhoi ymdeimlad go iawn o obaith i ni. Maen nhw wedi dangos i ni beth mae’n ei olygu i roi pobl a chymunedau yn gyntaf, gan ddangos gwydnwch a chryfder go iawn heb gyfaddawdu eu gwerthoedd, eu huniondeb na’u heffaith.
O fynd i’r afael â’r anghyfiawnderau yn y system fwyd a defnyddio technoleg i gynorthwyo pobl sy’n ddigartref i fod ar y rheng flaen yn cefnogi cymunedau drwy’r pandemig – mae enillwyr eleni yn cynrychioli nid yn unig y busnes gorau ond dyfodol busnes.’
CADWYN GYFLENWI MENTRAU CYMDEITHASOL
Cyflwynwyd tlysau pwrpasol i Glyn Wylfa a’r enillwyr eraill wedi’u gwneud gan y fenter gymdeithasol, ‘Designs in Mind’, sy’n cyflogi pobl â phroblemau iechyd meddwl.
Mentrau cymdeithasol wnaeth cyflenwi’r holl nwyddau a gwasanaethau ar y noson hefyd, gan gynnwys yr arlwyo, rigin, diodydd, arddangosiadau blodau a’r bagiau rhodd.
Noddwyd y Gwobrau gan Big Society Capital, British Council, Compass Group, Coop, Corps Security, eBay, GLL, ISG, Johnson & Johnson, Landmarc, Linklaters, Natwest, PwC, SAP a’r Social Partnership Portal.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.socialenterprise.org.uk/social-enterprise-awards (Saesneg yn unig).