Dau wirfoddolwr sy'n gwenu yn gwthio olwynion

Meithrin twf gyda Cynon Valley Organic Adventures

Cyhoeddwyd : 03/09/21 | Categorïau: Newyddion |

Gall mudiadau gwirfoddol yng Nghymru elwa o leoliadau gwaith am chwe mis a thelir y costau llawn gan gynllun Kickstart. Dyma sut y llwyddodd Cynon Valley Organic Adventures i dderbyn mwy na phâr arall o ddwylo yn unig.

Recriwtiodd Cynon Valley Organic Adventures bum person ifanc trwy gynllun Kickstart er mwyn eu helpu nhw i ddatblygu sgiliau newydd ac i symud i gyflogaeth gyson. Ond, yn ogystal â derbyn cymorth i dyfu gweithgareddau’r mudiad a gwella ei fusnes, cawsant gyfle i weld cyfranogwyr ifanc cynllun Kickstart yn ffynnu.

Mae Cynon Valley Organic Adventures yn ardd gymunedol sy’n fenter gymdeithasol yn Abercynon sy’n croesawu teuluoedd ac unigolion i rannu eu hangerdd am ddysgu am fwyta’n iach a’r amgylchedd. Maent yn annog amrywiaeth o bobl o nifer o gefndiroedd i ymuno ag amrywiaeth o ddosbarthiadau a gweithgareddau i’w cynnal yn yr amgylchedd naturiol o’u hamgylch nhw. Mae cyfranogwyr cynllun Kickstart wedi bod yn rhan bwysig o helpu i gyflenwi’r rhain.

PLANNU HADAU AR GYFER RHYWBETH ARBENNIG

Ers dechrau eu lleoliadau gwaith, mae cyflogeion cynllun Kickstart wedi bod yn rhan o blannu bwyd, cynaeafu, cynnal cnydau, bioamrywiaeth, a chynnal cynefinoedd, yn ogystal â gweithio ar adnewyddu ardal yr afon a’i diogelu rhag llifogydd. Maent hefyd wedi derbyn hyfforddiant o ran gofal coed ac maent yn adeiladu ardal goginio sy’n cynnwys ffwrn pitsa ar gyfer plant sy’n ymweld â’r safle.

‘Dyma’r tro cyntaf iddyn nhw wneud llawer o’r pethau y maen nhw wedi’i wneud’ meddai Cyfarwyddwr, Janis Werrett, ‘ond mae’n nhw’n fodlon rhoi cynnig ar unrhyw beth. Nid yw’n cymryd yn hir i ddysgu unrhyw beth – mae dwy ysgol i blant ag anghenion arbennig wedi ymweld â ni a bu’n rhaid iddyn nhw baratoi cynlluniau gwers iddyn nhw ac maen nhw wedi bod yn anhygoel.’

CREFFTIO PERTHYNAS NEWYDD

‘Wrth weithio â’r plant ag anghenion arbennig bu’n rhaid iddyn nhw addasu eu hymagwedd, roedd pob grŵp yn wahanol’, esboniodd Janis. Ond llwyddon nhw i addasu – er enghraifft, wrth esbonio beth yw pwrpas yr offer garddio gwahanol roedden nhw’n cyfeirio at Minecraft er mwyn rhoi cyd-destun i’r plant.

‘Roedd rhai o’r rhain ymhlith y grwpiau mwyaf anodd eu hymgysylltu â nhw a gwnaethon nhw’n arbennig o dda – rhoddon nhw safbwynt efallai na fyddai oedolion hŷn wedi gallu ei gynnig’, meddai Janis, ‘rhoddon nhw lawer o ymdrech o ran deall safbwynt y plant.’

Mae eu cael nhw yn rhan o’r tîm wedi helpu’r mudiad i gyflenwi ei nodau trwy ymgysylltu â’r plant a thynnodd lawer o bwysau oddi ar Janis am fod barau ychwanegol o ddwylo ar gael iddi. Ar ben hyn, mae’r ysgolion hynny yn dymuno dychwelyd a bydden nhw’n talu’r mudiad i gynnal lleoliadau addysgu amgen ar gyfer eu disgyblion eu hunain a fyddai’n cynrychioli buddsoddiad busnes sylweddol.

O FLAGURYN I FLODEUYN

Nid oedd un o’r bobl ifanc, Meg, a ddaeth i Cynon Valley Organic Adventures trwy gynllun Kickstart, yn bwriadu cymryd rhan mewn dysgu pan ddechreuodd hi. Ar y dehcrau, roedd hi’n dawel iawn ac yn meddwl y gallai fod yn gyfle da i wella ar ôl dioddef colled yn y teulu.

‘Mae hi’n berson gwbl wahanol erbyn hyn ac mae hi’n dwlu ar unrhyw gyfleoedd dysgu rydyn ni’n eu cynnig iddi hi,’ meddai Janis. ‘Cafodd hi ei bwlio pan oedd hi’n blentyn ond rydyn ni wedi’i chefnogi hi ac mae hi wedi datblygu ei llais ei hun i’r fath raddau y mae hi bellach yn dymuno astudio mecaneg ceir yn y coleg.’

Roedd cyfranogwr arall, Luke, yn profi diffyg hyder pan gyrhaeddodd ond roedd e’n llawn potensial. Esboniodd Janis ei bod hi’n cyflenwi cwrs addysgu i nifer o weithwyr proffesiynol ond Luke yw’r gorau yn y dosbarth.

‘Mae pob un ohonyn nhw wedi bod yn wych,’ esboniodd Janis, ‘ac rydyn ni’n hoff iawn ohonyn nhw erbyn hyn.’ Mae’n teimlo’n fwy na lleoliad gwaith yn unig iddyn nhw am eu bod yn dymuno parhau i fynychu fel gwirfoddolwyr ar ôl i’r lleoliad gwaith ddod i ben.

POBL GO IAWN YN GWNEUD GWAHANIAETH GO IAWN

Esboniodd Janis eu bod nhw hefyd wedi penderfynu mynd y tu hwnt i gylch gwaith cychwynnol lleoliad gwaith cynllun Kickstart – soniodd am fenyw sy’n byw yn lleol a oedd wedi cysylltu â hi ar ôl colli nifer o aelodau o’i theulu yn ddiweddar.

Nid oedd hi’n gallu gadael ei thŷ oherwydd ei gorbryder ac nid oedd hi’n gallu defnyddio ei gardd am ei bod wedi tyfu’n wyllt. Aeth tri o gyfranogwyr cynllun Kickstart, Nathan, Jack a Luke, i’w thŷ ar ôl benthyg cyfarpar roedden nhw wedi dysgu sut i’w ddefnyddio yn Cynon Valley Organic Adventures.

Llwyddon nhw i glirio ei gardd dan eu menter eu hunain gan olygu y gallai ei mab ifanc chwarae ynddi gyda’i ffrindiau. Anfonodd neges at Janis â dagrau yn ei llygaid gan ddweud, ‘Efallai nad yw’n teimlo fel ei bod yn llawer ond mae hyn wedi newid ein bywydau’. Hefyd, cysylltodd merch y fenyw gan ddweud, ‘Dydw i ddim wedi gweld fy mam yn gwenu ers misoedd ond mae’r caredigrwydd hwnnw wedi newid ei meddylfryd yn gyfan gwbl.’

Er mai lleoliad gwaith yw cynllun Kickstart, mae Cynon Valley Organic Adventures yn dangos y gall fod yn gyfle go iawn i ddatblygu ar gyfer pawb sy’n cymryd rhan.

RHAGOR O WYBODAETH AM GYNLLUN KICKSTART

Mae mudiadau gwirfoddol yng Nghymru yn cynyddu eu capasiti wrth gefnogi datblygiad person ifanc. A allech chi elwa o leoliadau gwaith â thâl llawn heb lawer iawn o waith gweinyddol a chyllideb datblygiad personol hael?

Gall cyflogwyr ddefnyddio cynllun Kickstart i greu lleoliadau gwaith sy’n para am 6 mis ar gyfer pobl ifanc (16 i 24 oed) sy’n derbyn Credyd Cynhwysol ar hyn o bryd ac sydd mewn perygl o fod yn ddi-waith am gyfnod hir.

Trwy’r cynllun, bydd modd i chi gael mynediad at gronfa fawr o bobl ifanc â photensial sy’n barod am gyfle. I ddechrau, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn blaenoriaethu pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed sy’n barod am gyfle a chânt eu cefnogi gan hyfforddwr gwaith Canolfan Byd Gwaith i gofrestru ar y cynllun. Am ragor o wybodaeth ac i weld sut y gallwn ni eich helpu chi wneud y mwyaf o’r cynllun, ewch i’n tudalen cynllun Kickstart.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 10/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Gwobrau Elusennau Cymru 2024 – Cyhoeddi’r teilyngwyr

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 04/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Sut i gymryd rhan yn Wythnos Elusennau Cymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 04/10/24 | Categorïau: Dylanwadu | Newyddion |

Llythyr agored i’r cabinet newydd

Darllen mwy