gweithiwr i MAC yn eistedd wrth ei safle gwaith cartref

Media Academy Cymru yn cefnogi pobl ifanc yn ystod y cyfnod cloi i lawr

Cyhoeddwyd : 15/07/20 | Categorïau: Cyllid |

Mae Media Academy Cymru (MAC) yn gweithio gyda phobl ifanc sydd wedi cyflawni troseddau lefel isel. Eu nod yw atal y troseddwyr ifanc hyn rhag cael mynediad i’r system cyfiawnder troseddol trwy ysgogi angerdd ynddynt am y cyfryngau a ffilm.

Ers cychwyn pandemig COVID-19, ni fu’n bosibl i MAC agor ei ddrysau i’w fynychwyr arferol.

Tra’i fod yn gweithio’n galed i sicrhau y bydd modd dilyn ei gwricwlwm ar-lein yn fuan, gwelodd gynnydd mewn adroddiadau am wrthdaro a thrais yng nghartrefi’r bobl ifanc yn ystod y cyfyngiadau symud.

Y Gronfa Argyfwng Gwasanaethau Gwirfoddol

Mewn ymateb, ymgeisiodd yr Academi am gyllid CGGC er mwyn darparu therapyddion i’r rhai mewn angen. Mae’r gwasanaeth hwn wedi dod yn wasanaeth cefnogi hanfodol ar gyfer ystod o sefyllfaoedd – o bobl ifanc sy’n teimlo’n bryderus i rieni sydd angen arweiniad ar sut i osgoi gwrthdaro o fewn eu teuluoedd.

Dywed Nick Corrigan, Cyfarwyddwr MAC, ‘Roedd yn amlwg i mi nôl yn 2010 fod angen rhwystro’r nifer o bobl ifanc yng Nghymru oedd yn cael eu harestio ac yn derbyn record droseddol.

‘Ers hynny, rydyn ni wedi helpu dros 10,000 o bobl ifanc i osgoi dod yn rhan o gylch troseddol.

‘Nid yw pawb yn ddigon ffodus i ddod o gartref hapus, diogel, di-densiwn â gardd fawr. O ganlyniad i’r pandemig, mae pobl sydd eisoes yn agored i niwed yn sownd gartref ac yn aml yn profi clawstroffobia gwael.

‘Mae hyn wedi creu amgylchedd lle mae pobl ifanc agored i niwed yn gynyddol debygol o ymddwyn yn dreisgar. Ry’n ni wedi clywed gan nifer o rieni sy’n poeni y gallai eu plant droi’n ymosodol ond does ganddyn nhw ddim syniad â phwy i siarad ynglŷn â hyn.’

‘Ry’n ni wedi gweld cynnydd sylweddol mewn galwadau gan rieni a phobl ifanc fel ei gilydd y mae gwirioneddol angen cefnogaeth arnynt yn ystod y cyfnod anodd hwn.

‘Mae ein therapyddion wedi gwneud gwahaniaeth angenrheidiol trwy siarad â thros 320 o bobl ifanc a rhieni ers cychwyn y cyfyngiadau symud – pobl sydd wirioneddol angen yr arweiniad emosiynol hwn.

‘Diolch i gyllid gan CGGC a Llywodraeth Cymru teimlwn yn ffodus bod modd i ni barhau i gynnig y gefnogaeth sydd ei hangen ar gymaint o’n pobl ifanc talentog a’u teuluoedd.’

Ydych chi’n cynnig gwasanaethau hanfodol yn ystod y pandemig? Dewch o hyd i fwy o wybodaeth ar sut gall eich mudiad wneud cais am gyllid, er mwyn sicrhau fod modd i chi barhau i ddarparu cefnogaeth hanfodol i bobl mewn angen yn ystod y cyfnod hwn.                            

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 22/01/25
Categorïau: Cyllid, Newyddion

Prosiect Newid y Gêm

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 18/11/24
Categorïau: Cyllid, Newyddion

‘Grymuso pobl i weithredu er mwyn gwella eu hamgylchedd lleol’

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 18/11/24
Categorïau: Cyllid

Cyllid ar agor i brosiectau sy’n fuddiol i gymunedau a’r amgylchedd

Darllen mwy