Mae Ei Huchelder Brenhinol y Frenhines Elizabeth II yn ymweld â Doc Albert Lerpwl yn ystod ei thaith Jiwbilî Diemwnt o amgylch Prydain Fawr, Lerpwl, Lloegr. Mai 17 2012

Marwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II

Cyhoeddwyd : 09/09/22 | Categorïau: Newyddion |

Yn dilyn y newyddion trist am farwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth, edrychwn ar ei chefnogaeth i’r sector gwirfoddol a’r hyn y mae ei hymadawiad yn ei olygu i fudiadau gwirfoddol yng Nghymru.

Mae bwrdd ymddiriedolwyr a thîm staff CGGC yn estyn eu cydymdeimlad i’r Teulu Brenhinol yn ystod y cyfnod anodd hwn. Yn ystod ei theyrnasiad, dangosodd Ei Mawrhydi y Frenhines gefnogaeth ddi-sigl i elusennau a gwirfoddolwyr a helpodd i dywynnu golau ar ymdrechion y sector. Mae’r gefnogaeth hon yn rhan allweddol o’i hetifeddiaeth fythol.

70 MLYNEDD O HYRWYDDO’R SECTOR GWIRFODDOL

Yn ystod y 70 mlynedd ddiwethaf, mae’r Frenhines Elizabeth II wedi bod yn noddwr i fwy na 600 o elusennau. Mae ei brwdfrydedd dros y sector wedi bod yn amlwg drwy gydol ei chyfnod ar yr orsedd. Mae wedi tywynnu golau ar y cyflawniadau a’r cyfraniadau anhygoel y mae elusennau, mudiadau gwirfoddol a gwirfoddolwyr yn eu gwneud i gymdeithas, yma yng Nghymru a thu hwnt.

Yng Nghymru, mae Ei Mawrhydi y Frenhines wedi bod yn gysylltiedig â nifer enfawr o elusennau gwych, gan gynnwys YMCA Wales a Chymdeithas Bêl-droed Cymru, heb sôn am ei hymrwymiad eithriadol i elusennau ledled y DU fel yr RSPCA a Cancer Research UK.

Fel y dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford yn ei ddatganiad ar ddydd Iau 8 Medi, ‘Bydd yn cael ei cholli’n arw gan y lliaws o fudiadau yr oedd hi’n Noddwr neu’n Llywydd iddynt.’

BETH SYDD ANGEN I FUDIADAU GWIRFODDOL EI WYBOD?

Ar ôl cyfnod mor hir o wasanaeth, bydd y newid mewn teyrnasiad yn anodd i lawer, gydag ansicrwydd ynghylch beth i’w wneud nesaf. Rydym wedi llunio rhestr o bethau sydd angen i fudiadau gwirfoddol eu hystyried yn ystod y cyfnod hwn.

  • Bydd cyfnod o alaru cyhoeddus am 10 diwrnod o 9 Medi 2022
  • Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU (gwefan Saesneg yn unig) wedi cyhoeddi canllawiau i’r cyhoedd a busnesau ar y cyfnod o Alaru Cenedlaethol yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II
  • Efallai yr hoffai mudiadau ystyried effaith y newyddion ar eu haelodau staff a chaniatáu amser i unigolion dalu’r gymwynas olaf yn ystod y deg diwrnod nesaf, yn enwedig os oes aelod o’r Teulu Brenhinol yn noddwr i’ch mudiad
  • Bydd llawer o fudiadau a chyrff cyhoeddus yn addasu tôn eu cyfathrebiadau yn ystod y cyfnod hwn, gan gynnwys cael cyfnod o ‘dawelwch parchus’ am 24-48 awr yn dilyn neges o gydymdeimlad
  • Fel y mae CGGC yn deall, bydd gwasanaethau cyhoeddus yn parhau i gael eu darparu fel arfer, ond fe allai fod rhywfaint o aflonyddwch ar ddiwrnod yr Angladd Gwladol. Disgwyliwn y bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio mynychu cyfarfodydd allanol, ymateb i ohebiaeth ac ymholiadau cyhoeddus eraill, ond bydd sensitifrwydd dyladwy yn cael ei ddangos wrth gyfathrebu yn ystod y cyfnod galaru, gan gynnwys cyhoeddiadau cyhoeddus, cyfryngau cymdeithasol a diweddariadau i’w gwefan
  • Yn ystod y cyfnod galaru, bydd Senedd Cymru yn cwrdd i gytuno â’u neges o gydymdeimlad ac at ddibenion tyngu llwon i’r Brenin newydd. Bydd unrhyw fusnes Seneddol arall yn cael ei ohirio tan ar ôl yr Angladd Gwladol
  • Efallai y bydd CGGC ychydig yn dawelach na’r arfer ar gyfryngau cymdeithasol, ond gallwn eich sicrhau y bydd ein gwasanaethau yn parhau yn ystod y cyfnod hwn, gan gynnwys unrhyw hyfforddiant a gynlluniwyd ymlaen llaw, ac eithrio diwrnod yr angladd gwladol
  • I lawer o fudiadau, bydd busnes yn parhau yn ôl yr arfer yn ystod y cyfnod hwn, ac nid oes unrhyw orfodaeth na chyngor i ganslo digwyddiadau a gweithgareddau yn ystod y cyfnod galaru, ac eithrio ar gyfer diwrnod yr angladd gwladol. Wrth benderfynu a ddylid canslo neu ohirio unrhyw weithgareddau, efallai y byddai’n ddoeth i fudiadau ystyried anghenion dybryd eu defnyddwyr gwasanaethau a ffyrdd o addasu gweithgareddau, er enghraifft, drwy gael munud o dawelwch ar ddechrau digwyddiadau
  • Bydd diwrnod yr angladd gwladol yn wyliau cyhoeddus, felly efallai yr hoffai mudiadau ystyried gohirio neu ganslo digwyddiadau ar ddydd Llun 19 Medi

Os oes angen unrhyw gyngor pellach arnoch neu os oes gennych unrhyw gwestiynau ar hyn o bryd, cysylltwch â ni.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 13/11/24 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Y diwrnod rhoi byd-eang

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 08/11/24 | Categorïau: Cyllid | Dylanwadu | Newyddion |

CGGC yn rhannu pryderon y sector ar gynnydd Yswiriant Gwladol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 31/10/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Allwch chi helpu i stopio’r effaith gynyddol?

Darllen mwy