Dyma ddiweddariad ar y trefniadau ar gyfer marc ansawdd Elusen Ddibynadwy sydd wedi’i drosglwyddo i ddarparwr newydd bellach, sef ‘The Growth Company’.
Mae CGGC wedi derbyn cadarnhad fod marc ansawdd Elusen Ddibynadwy, a oedd yn cael ei redeg gan NCVO, wedi’i drosglwyddo nawr i ddarparwr newydd, The Growth Company (Saesneg yn unig).
Menter gymdeithasol nid-er-elw yw ‘The Growth Company’ gyda’r diben o alluogi twf, creu swyddi a gwella bywydau yn y cymunedau y mae’n gweithio o’u mewn. Mae ‘The Growth Company’ eisoes yn cyflwyno safonau ansawdd i fwy na 5,000 o fudiadau (3,800 yn y sector elusennau a’r trydydd sector), gan gynnwys Buddsoddwyr mewn Pobl yng Ngogledd Lloegr, y Safon matrics ar gyfer yr Adran Addysg a safon ansawdd benodol ar gyfer Cymdeithas y Cyfreithwyr.
Mae NCVO wedi dweud y bydd yn parhau fel noddwr strategol ar gyfer y safon Elusen Ddibynadwy ac yn gweithio gyda ‘The Growth Company’ i sicrhau ei fod yn diwallu anghenion y sector ac yn cadw’r enw da cadarn y mae wedi’i ddatblygu ers i’r cynllun gychwyn.
Mae canllawiau wedi’u cyhoeddi gan NCVO i gynorthwyo mudiadau yn ystod y cyfnod pontio hwn. Gellir dod o hyd i’r rhain yma, Trosglwyddo’r Elusen Ddibynadwy (Saesneg yn Unig). Bydd mudiadau sydd â’r marc ansawdd ar hyn o bryd yn parhau i gadw’u dyfarniad am dair blynedd, hyd yn oed os yw hynny ar ôl Mawrth 2022. Mae NCVO wrthi’n cysylltu â deiliaid cyfredol y dyfarniad a’r rheini a oedd yn y broses o ymgeisio i gadarnhau eu caniatâd i drosglwyddo eu gwybodaeth i ‘The Growth Company’. Caiff elusennau yn y categori hwn nad ydynt wedi clywed gan NCVO eto eu hannog i gysylltu â nhw dros e-bost ar trustedcharity@ncvo.org.uk.
Bydd offeryn hunanasesu ar-lein Elusen Ddibynadwy NCVO yn parhau i fod ar gael tan 31 Mawrth 2022. Dylai mudiadau sydd wedi defnyddio’r offeryn hwn fynd i wefan Trosglwyddo’r Elusen Ddibynadwy (Saesneg yn unig) i ddeall y goblygiadau ar gyfer eu tanysgrifiad, eu cais ac unrhyw dystiolaeth sydd wedi’i chyflwyno, oherwydd bydd y data ar y gwasanaeth hwn yn cael ei ddileu ar ddiwedd Mawrth 2022.
Gall elusennau sydd eisiau dechrau cais newydd gyda ‘The Growth Company’ ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar eu gwefan (Saesneg yn unig). Mae ‘The Growth Company’ hefyd yn datblygu eu hofferyn hunanasesu newydd ar-lein sydd ar gael trwy danysgrifiad blynyddol. Tra bod hwn yn cael ei baratoi, maen nhw’n cynnig gostyngiad o 50% ar y ffi hunanasesu (Saesneg yn unig).
Bydd CGGC yn parhau i gynorthwyo mudiadau gwirfoddol yng Nghymru gyda llywodraethu da ac mae’n credu bod sicrhau ansawdd yn agwedd bwysig ar wydnwch mudiadau. Rydyn ni’n cynnal adolygiad o’r Elusen Ddibynadwy yng Nghymru ar hyn o bryd, a byddwn yn gwrando ar farnau’r sector ar sut gall CGGC gynorthwyo mudiadau i sicrhau ansawdd yn y dyfodol.
Byddwn yn parhau i weithio gydag NCVO a ‘The Growth Company’ i gefnogi’r gwaith pontio rhwng darparwyr.