Maniffesto’r sector gwirfoddol ar gyfer Senedd 2026

Mae’r maniffesto hwn yn cynrychioli llais cyfunol sector gwirfoddol Cymru ac wedi’i lunio trwy ymgysylltu’n gyson â gwirfoddolwyr, partneriaid, rhanddeiliaid a rhwydweithiau a chael eu mewnwelediadau.

Mae’n nodi galwad clir: Rhaid i’r Llywodraeth Cymru nesaf weithio mewn partneriaeth gyfartal â’r sector gwirfoddol er mwyn adeiladu Cymru well.

Ein prif ofyniad

Rydym yn pwyso ar y Llywodraeth Cymru nesaf i gyflwyno Deddf Partneriaeth Sector Gwirfoddol (Cymru) – gan adeiladu ar, a chyflymu, ymrwymiadau presennol i ddatgloi cyllid tecach, ymwreiddio cydweithio a grymuso’r sector i ffynnu.

Rydym yn galw ar y Llywodraeth Cymru nesaf i gyflwyno deddfwriaeth drwy Ddeddf Partneriaeth Sector Gwirfoddol (Cymru) – a fydd yn adeiladu ar, ac yn cyflymu, gwaith ar sut mae’r sector gwirfoddol yn cael ei gyllido, ei gynnwys a’i rymuso.

Nod y Ddeddf yw creu’r amodau i’r sector ffynnu drwy ymwreiddio cyllid teg, cryfhau gwirfoddoli a ffurfioli safonau partneriaeth â Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a phartneriaid iechyd.

A man from No Fit State Circus plays on a gymnastics mat with a toddler as part of circus and creative activities for the local community

Y pum dyletswydd

Dyletswydd cyllido teg

Mae cylchredau cyllido ymatebol, tymor byr yn ein cadw’n ôl. Maen nhw’n cyfyngu cynlluniau strategol, yn ansefydlogi staffio ac yn dihysbyddu adnoddau prin drwy gynigion ac adroddiadau di-baid. Mae hyn yn effeithio ar y sector gwirfoddol yn ogystal â’n gallu i weithio’n effeithiol gyda gwasanaethau cyhoeddus.

Mae dyletswydd cyllido teg yn newid hynny.

  • Mae’n gwneud cyllid craidd, amlflwyddyn, cysylltiedig â chwyddiant gydag adennill costau llawn yn ddiofyn
  • Wedi’i seilio ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ariannu diwygiedig, mae hefyd yn helpu i wneud yr agenda ataliol yn ganolog i bopeth, gan leihau biwrocratiaeth, cadw staff medrus a datgloi effaith ystyrlon, hirdymor

Dyletswydd gwirfoddoli

Nid yw gwirfoddoli yn digwydd ar ei ben ei hun. Mae angen strwythur, cymorth ac adnoddau arno.

Y funud hon, mae bywydau pobl yn newid wrth iddynt addasu i’r costau byw uwch a heriau eraill. Mae gwirfoddolwyr a darpar wirfoddolwyr yn wynebu rhwystrau gwahanol i gymryd rhan, ac nid oes gan fudiadau’r adnoddau na’r gallu i addasu mewn ymateb i hyn. Mae hyn yn ei gwneud hi’n anodd recriwtio, hyfforddi a chadw gwirfoddolwyr.

Mae dyletswydd gwirfoddoli yn newid hynny.

  • Mae’n rhoi’r Dull Newydd o Wirfoddoli yng Nghymru ar lefel statudol
  • Trwy dargedu buddsoddiadau a anelwyd at leihau’r rhwystrau presennol, bydd yn gwella hygyrchedd cyfleoedd i wirfoddoli. Mae gwirfoddolwyr yn haeddu mwy na diolch. Maen nhw’n haeddu system sy’n eu cefnogi ac yn cynorthwyo’r cymunedau y maen nhw’n eu gwasanaethu

Dyletswydd cymunedau

Mae gan ein cymunedau gyfoeth o syniadau, egni a gwydnwch, ond yn amlach na heb, nid oes ganddynt yr adnoddau i lunio’u dyfodol eu hunain. Mae’r mynediad i fannau a rennir yn fylchog. Nid yw gwasanaethau a arweinir gan y gymuned yn cael eu cyllido’n ddigonol. Ac mae’r systemau sydd i fod i gefnogi gweithredu lleol yn araf, aneglur neu’n anghyson. Mae angen fframwaith arnom sy’n galluogi cymunedau i ffynnu ac sy’n datgloi eu nerth.

Mae dyletswydd cymunedau yn gwneud yr union beth. Wedi’i chyd-gynhyrchu gyda’r sector gwirfoddol, byddai’n rhoi cyfeiriad clir, cyllid a chanllawiau i gefnogi:

  • Asedau cymunedol – gan gynnwys proses ‘Hawl i Brynu’ a phroses trosglwyddo asedau cyflymach
  • Gwydnwch cymunedol – galluogi prosiectau ynni lleol ac adeiladu’r capasiti i ymateb i argyfyngau
  • Cydlyniant cymunedol – trechu datgysylltiad a rhaniadau drwy gamau ataliol
  • Gwasanaethau cymunedol – sicrhau mynediad cyfartal i gymorth lles ar draws pob maes a demograffeg

Dyletswydd partneriaeth

Mae’r sector gwirfoddol yn bartner annibynnol, dibynadwy – nid rhanddeiliad i ymgynghori ag ef yn unig. Ers deng mlynedd a rhagor, mae Cynllun y Trydydd Sector wedi darparu dull ffurfiol o ymgysylltu â Llywodraeth Cymru. Mae wedi bod yn werthfawr, ond mae’n bryd ei adnewyddu. Nid yw mewnwelediad, cyrhaeddiad nac arbenigedd y sector yn cael eu defnyddio digon – ac mae Cymru ar ei cholled o ganlyniad.

Mae dyletswydd partneriaeth yn newid hynny.

  • Mae’n adnewyddu Cynllun y Trydydd Sector gan gyflwyno safonau clir y gellir eu gorfodi ar gyfer ymgysylltu, atebolrwydd a rhannu data rhwng y sector gwirfoddol, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a phartneriaid iechyd
  • Mae’n defnyddio’r arferion gorau sy’n datblygu ledled gwledydd y DU ac yn sicrhau bod y sector wedi’i ymwreiddio mewn prosesau penderfynu, a hynny’n gynnar, yn gyson a chyda diben
  • Mae dyletswydd partneriaeth yn sicrhau ein bod yn cael gwahoddiad i’r bwrdd yn gynnar, yn cael ein clywed pan fyddwn ni yno, ac yn llywio’r ddarpariaeth ochr yn ochr â phartneriaid

Dyletswydd trosolwg

Mae tryloywder ac atebolrwydd yn hanfodol i fagu ymddiriedaeth ac yn sicrhau y cedwir at yr ymrwymiadau i’r sector gwirfoddol. Mae angen i ni allu olrhain cynnydd, nodi bylchau a gwella ymarferion yn barhaus.

Mae dyletswydd trosolwg yn gwneud hynny.

  • Byddai’n monitro cydymffurfiaeth ac yn argymell gwelliannau trwy ofyn am adroddiadau cyhoeddus blynyddol ar gyllido a pherfformiad ar draws Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus

Pa wahaniaeth fydd y ddeddf yn ei wneud?

An older woman volunteering at Splott Community Volunteers' STAR Centre - a bustling hub for local residents, which hosts many activities, including a weekly Breakfast Club

Byddai Deddf Partneriaeth Sector Gwirfoddol (Cymru) yn ein helpu i fynd i’r afael â rhai o heriau mwyaf cymru – gyda’n gilydd

Lleihau anghydraddoldeb

Mae mudiadau gwirfoddol wedi’u gwreiddio mewn cymunedau a’r rheini a effeithir mwyaf gan anghydraddoldeb yn ymddiried ynddynt. Gyda’r gefnogaeth gyfreithiol, polisi ac ariannol iawn, gallwn helpu i dargedu gwraidd y problemau ac nid symptomau anghydraddoldeb yn unig.

Hyrwyddo iechyd a lles

Mae’r sector gwirfoddol yn rhan hanfodol o’r ymateb i:

  • wella canlyniadau iechyd a lles
  • rhoi cymorth cynnar ar adeg sy’n atal pethau rhag mynd yn waeth
  • lleihau pwysau ar wasanaethau iechyd, lles a gofal cymdeithasol

Adeiladu cymunedau cydlynus

Mae mudiadau gwirfoddol yn chwarae rhan dyngedfennol mewn datblygu ymdeimlad o berthyn, cysylltiad a gwydnwch. O wrth-hiliaeth i hybu’r Gymraeg, diogelu a datblygu hawliau dynol, byddwn yn parhau i weithio i leihau ynysu, yn herio gwahaniaethu ac yn creu mannau lle bydd pawb yn teimlo’n ddiogel ac yn teimlo eu bod yn cael eu gweld, eu clywed a’u gwerthfawrogi.

Trechu’r argyfwng hinsawdd a natur

O arbenigwyr polisi cenedlaethol i grwpiau ecolegol ac amgylcheddol lleol, mae ein sector eisoes yn hybu newid. Gyda’r cymorth cywir, gallwn helpu Cymru i liniaru ac addasu i’r argyfwng hinsawdd a natur – a sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl.

Datgloi potensial Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae tymor nesaf y Senedd yn gyfle i ni ail-ddychmygu sut rydym yn gweithio gyda’n gilydd ar y Ddeddf arloesol hon i gyflawni gwell canlyniadau hirdymor. Mae mudiadau gwirfoddol yn bartneriaid ymrwymedig sy’n barod i helpu i sbarduno newid go iawn a chyflwyno datrysiadau cynaliadwy, cydgysylltiedig sy’n rhoi pobl a’r blaned yn gyntaf.

Pwy ydym ni

Ni yw curiad calon cymunedau Cymru.

Mae mudiadau gwirfoddol yn bwerus. Mae mwy na 46,000 o grwpiau yng Nghymru a thraean o oedolion ein poblogaeth yn gwirfoddoli. Boed yn fanciau bwyd, clybiau ieuenctid, cymorth iechyd meddwl, gweithredu ar yr hinsawdd, trafnidiaeth gymunedol, gwasanaethau cam-drin domestig, cyflogadwyedd neu ofal diwedd oes – rydym ym mhobman y mae pobl ein hangen.

Nid ‘ychwanegiad’ mohonom – rydym yn hanfodol. Yn brif gynhwysyn yn y gwaith o sicrhau bod Cymru yn ffynnu.

Rydym yn glir: ni all yr un llywodraeth gyflawni Cymru fwy ffyniannus, tecach, iachach na mwy dwyieithog hebom ni. Rydym wastad wedi bod – ac yn parhau i fod – yn barod i weithio ochr yn ochr â chyrff cyhoeddus ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol.

Rydym yn hwyluso. Rydym yn cydweithio. Rydym yn arwain. Rydym yn cyflawni.

Mae’n bryd i ni ailfywiogi a chanolbwyntio o’r newydd ar ein gwaith gyda’r llywodraeth. Rydym yma i lywio datrysiadau ac mae tymor nesaf y Senedd yn gyfle i ddechrau pennod newydd – un lle mae’r sector gwirfoddol yn cael ei gynnwys yn gynnar, ei gyllido’n deg a’i grymuso’n llwyr.

Ein cynnig i Gymru

Cysylltiad â chymunedau

Mae mudiadau gwirfoddol wedi’u hymwreiddio yn y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Rydym wedi ein creu o angen lleol, wedi ein llunio gan brofiadau bywyd ac mae’r bobl rydym yn eu cefnogi yn ymddiried ynom. Mae hyn yn ein rhoi ni mewn sefyllfa unigryw i bontio’r bwlch rhwng sefydliadau cyhoeddus ac aelodau o’r gymuned.

Gwerth cymdeithasol wedi’i ymwreiddio

Nid ‘ychwanegiad’ mo gwerth cymdeithasol – hwn yw ein diben ac mae yn ein DNA. Mae wedi’i gynnwys yn ein dogfennau llywodraethu, yn cael ei fonitro gan ymddiriedolwyr ac yn cael ei gyflawni ym mhob cam a gymerwn. Rydym yn bodoli i wella bywydau, cryfhau cymunedau a chreu Cymru decach.

Arbenigedd a mewnwelediad

Rydym yn sgwrsio’n barhaus â defnyddwyr gwasanaethau, gan gasglu gwybodaeth ddofn am faterion cymdeithasol. Mae ein harbenigedd yn helpu penderfynwyr i drechu heriau cymhleth, cyd-greu polisïau effeithiol a chyflawni canlyniadau gwell.

Cymorth i wasanaethau cyhoeddus

O atal ac adfer i drafnidiaeth gymunedol, rhyddhau cleifion, cyflogadwyedd, gofal plant – a mwy – rydym yn cynnig cymorth hanfodol sy’n ategu ac yn lleihau’r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus.

Arloesedd a’r gallu i addasu

Rydym yn hen law ar ddatrys problemau mewn modd creadigol, dylunio gwasanaethau ac ymgysylltu, gan gyflwyno syniadau ffres a dulliau gweithio hyblyg i heriau hirsefydlog.

Gwasanaethau arbenigol

Yn achos llawer o fudiadau gwirfoddol, nhw yw’r unig rai sy’n darparu cymorth arbenigol. O grwpiau cefnogaeth gan gymheiriaid ar gyfer clefydau anghyffredin i lochesau trais domestig ac elusennau lles cymdeithasol, rydym yn rhoi cymorth amhrisiadwy i’n defnyddwyr gwasanaethau ac yn cael effaith gymdeithasol enfawr.

Ein ffiniau

Mae sector gwirfoddol Cymru yn angenrheidiol - ond o dan straen.

Ni allwn ddarparu ein gwasanaethau am ddim

Efallai bod ein gwasanaethau am ddim neu’n rhad i’r cyhoedd, ond ni ellir eu cynnal yn rhad ac am ddim. Mae angen cymorth ar wirfoddolwyr. Mae angen ateb llinellau cymorth. Mae angen cyllid ar wasanaethau. Mae costau ynghlwm â gwaith di-dâl hyd yn oed.

Mae ceisio recriwtio a chadw staff, ymddiriedolwyr a gwirfoddolwyr yn heriol

Yn aml, ni all elusennau ddal i fyny â’r cyflogau mewn sectorau eraill a rhaid i lawer gynnig contractau tymor byr yn unig. Ynghyd â hyn, mae’n anoddach dod o hyd i, a chadw, ymddiriedolwyr a gwirfoddolwyr, ac mae’r argyfwng costau byw yn gorfodi pobl i flaenoriaethu gwaith â thâl. Mae gweithlu a llu gwirfoddol y sector yn cael eu hymestyn i’r eithaf.

Nid yw contractau cyhoeddus yn talu gwir gost y ddarpariaeth

Mae llawer o elusennau yn darparu gwasanaethau arbenigol ar gyfer y llywodraeth, ond yn fynych, nid yw’r contractau a’r grantiau’n ddigonol. Rhaid cynnwys chwyddiant, gorbenion a chyflogau teg yn y cyllid – ni allwn barhau i lenwi’r bylchau gyda llai a llai o arian wrth gefn neu roddion.

Mae’r galw’n saethu i fyny

Mae’r galw am gymorth yn cynyddu a’r anghenion yn dod yn fwyfwy cymhleth. Heb gamau gweithredu amserol, ataliol, bydd y pwysau ar wasanaethau cyhoeddus yn dwysau. Mae mudiadau gwirfoddol eisoes yn darparu ymyriadau cynnar ar draws y meysydd iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant, ymhlith meysydd eraill. Gyda’r cymorth cywir, gallwn helpu pobl yn gynt, lleihau’r galw mewn argyfwng a gwella canlyniadau hirdymor.

Rydym yn barod i helpu – ond mae angen i ni gael ein sedd wrth y bwrdd

Nid darparwyr gwasanaethau yn unig ydym ni – rydym yn bartneriaid cyfartal a strategol. Rhaid cael sgyrsiau cynnar, rheolaidd a pharhaus â’r llywodraeth a’r sector cyhoeddus os ydym am drechu heriau mwyaf Cymru gyda’n gilydd.

Rydym yn barod. Rydym yn fodlon. Rydym yn hanfodol i drechu heriau mwyaf Cymru.

Mae dechrau seithfed tymor y Senedd yn gyfle i fod yn feiddgar ac yn uchelgeisiol. Dyna pam mae’r maniffesto hwn yn galw am fomentwm drwy gyflwyno Deddf Partneriaeth Sector Gwirfoddol (Cymru) – deddfwriaeth sy’n sicrhau cyllido teg, yn cryfhau gwirfoddoli, yn ffurfioli partneriaethau ac yn datgloi grym cymunedol.

Dewch i ni fod yn bartneriaid ar gyfer cynnydd, a throi uchelgais yn gweithredu. Ewch amdani!

TSSW Logo