Dwy fenyw yn gwenu gyda'i gilydd, mae gan un ei dwylo ar ysgwyddau'r llall

Maggie’s Caerdydd – profiad gwirfoddolwr

Cyhoeddwyd : 10/10/23 | Categorïau: Gwirfoddoli |

Mae gwirfoddolwyr Maggie’s yn rhoi croeso cynnes a chyfeillgar ac yn cynnig clust i wrando ar y rheini a effeithir gan ganser.

Mae Fiona Liddell, Rheolwr Helplu Cymru yn CGGC wedi ymweld â Maggie’s yng Nghanolfan Canser Felindre, Caerdydd, yn ddiweddar.

‘Mae cerdded i mewn i Maggie’s fel mynd i mewn i le modern, agored a hamddenol,’ meddai Fiona. ‘Gwelir grwpiau bach o bobl yn eistedd o amgylch bwrdd cegin hir wedi ymgolli mewn sgyrsiau a choffi. Eraill yn darllen y papur yn dawel neu’n eistedd mewn cadair gysurus wrth y ffenestr. Mae’r staff wrth law i roi cymorth emosiynol neu seicolegol neu gynnig cyngor o ran y sgil-effeithiau, ac maen nhw’n cefnogi aelodau o’r teulu hefyd.

‘Mae ystafelloedd bach ar gael i unrhyw un sydd eisiau sgwrs fwy preifat, a gellir rhannu rhan arall er mwyn cynnal sesiynau gweithgarwch fel ioga, tai chi, celf neu drafodaethau grŵp.

‘Mae gwirfoddolwyr yno i gyfarch pobl, cynnig te neu goffi iddynt ac i ofyn yn garedig pam maen nhw wedi dod yma – efallai am le tawel i eistedd ac anadlu, i gael gwybodaeth a chyngor, i gwrdd â phobl eraill a chael sgwrs neu i gael cymorth proffesiynol gyda materion clinigol, seicolegol neu les.’

SUT DECHREUODD HWN

Ym 1993, cafodd Maggie Keswick Jencks wybod bod ei chanser ar y fron wedi dychwelyd ac mai dim ond misoedd oedd ganddi i fyw. Cafodd hi a’i gŵr eu symud i goridor heb ffenestri yn Ysbyty Cyffredinol y Western yng Nghaeredin, lle cawsant eu gadael i brosesu’r newyddion.

Yn ei misoedd olaf, penderfynodd Maggie fynd ati i greu math newydd o gymorth, fel y gallai’r rheini â diagnosis a’u teuluoedd a’u ffrindiau o’u hamgylch newid y ffordd y maen nhw’n byw gyda chanser. Roedd hi’n benderfynol na ddylai pobl golli pleserau bywyd oherwydd eu hofn o farw.

Gyda chymorth brwd ei gŵr, Charles, a’i nyrs canser, Laura Lee, cafodd y ganolfan Maggie’s gyntaf ei hagor yng Nghaeredin ym 1996, yn fuan ar ôl marwolaeth. Daeth Laura Lee yn Brif Weithredwr yr elusen. Erbyn hyn, mae 24 o ganolfannau i gyd ledled y DU a thramor, gan gynnwys yn Abertawe a Chaerdydd. Mae’r 25ain un yn cael ei hadeiladu nawr yn Sir Ddinbych.

GWIRFODDOLI YM MAGGIE’S

Clywodd Steph am Maggie’s yn gyntaf drwy ffrind. Pan glywodd fod canolfan newydd yn cael ei agor yng Nghaerdydd a’u bod yn chwilio am aelodau iau i ymuno â’r Bwrdd Codi Arian, rhoddodd ei henw ymlaen.

Pan agorodd y ganolfan ar dir Canolfan Ganser Felindre yn 2019, 18 mis yn ddiweddarach, daeth Steph yn aelod bwrdd ac yn wirfoddolwr rheolaidd yn y Ganolfan.

‘Mae’n lle prysur ac mae rhywbeth i’w wneud o hyd – rhywun sydd eich angen, ’ meddai Steph. ‘Rydyn ni’n annog pobl i ddod i mewn a chael sgwrs ac yn canfod a ydynt yma am y tro cyntaf neu’n dychwelyd.

‘Rydyn ni’n gwrando ac yn gallu helpu i raddau, efallai trwy eu cyflwyno nhw i bobl eraill neu roi gwybod iddynt am y cyrsiau a’r gweithgareddau sydd ar gael drwy’r ganolfan. Nid yw pobl angen gweld arbenigwr cymorth canser bob amser ar y cychwyn, ond maen nhw yma i roi cymorth pan fo angen.

‘Os yw rhywun yn ypset, rydyn ni’n egluro mai gwirfoddolwyr ydyn ni ac yn cynnig eistedd gyda nhw a sgwrsio. D’yn ni ddim yn gofyn cwestiynau busneslyd a phob amser yn cael ein harwain gan yr unigolyn o ran beth mae ef ei angen gennym ni.’

CODI ARIAN

Yn ogystal â rhoi croeso ymarferol a phersonol yn y ganolfan, gall gwirfoddolwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau codi arian. Cafwyd ‘culture crawl’ yn ddiweddar, a oedd yn cynnwys cerdded 10km o gwmpas Caerdydd yn ymweld â mannau o ddiddordeb diwylliannol nad yw llawer o bobl yn gwybod amdanynt a chael cyri i orffen. Mae digwyddiadau o’r fath yn gyfle da i groesawu pobl i gael hwyl a chymdeithasu, ac yn codi arian mawr ei angen ar gyfer yr elusen.

CYMORTH CANSER MAGGIE’S

Yng Nghaerdydd, mae tri arbenigwr cymorth canser, dau seicolegydd clinigol a chynghorydd budd-daliadau ar gael i roi gwybodaeth a chyngor unigol.

Yn ogystal â chymorth galw heibio, mae’r staff yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau i hybu ffitrwydd a lles meddyliol, gan gynnwys rheoli straen, maeth a dulliau ymlacio.

Gall unigolion gofrestru am gyrsiau wyth wythnos dynodedig neu am weithgareddau rheolaidd fel y grŵp dynion a grwpiau cerdded wythnosol. (mae sgwrs gychwynnol gyda’r staff yn sicrhau bod y gweithgaredd yn briodol iddynt).

‘Mae pobl bob amser yn gadael yma ychydig yn fwy ymlaciedig ac ‘ysgafnach’” meddai Steph.

SYMUD YMLAEN

Mae safle wedi’i gytuno ar gyfer Canolfan Ganser Felindre newydd a bydd canolfan Maggie’s newydd yn cael ei hadeiladu ochr yn ochr â hi. Mae rhannu lleoliad â darpariaeth ysbyty’r GIG yn allweddol i lwyddiant pob canolfan Maggie’s. Gall staff y GIG atgyfeirio pobl neu hyd yn oed gerdded draw i gyflwyno rhywun yn bersonol.

Er ei bod yn annibynnol, mae canolfan Maggie’s yn gweithio mewn partneriaeth agos â’r GIG, gan gynnig cymorth sy’n ategu triniaethau meddygol hanfodol, sydd yr un mor hanfodol i ansawdd bywyd y rheini sydd wedi cael diagnosis o ganser.

Bydd symud i le newydd yn dod â chyfleoedd newydd i ganolfan Maggie’s ddatblygu. Bydd gwirfoddolwyr yn parhau i chwarae rôl ganolog.

Dywedodd Pennaeth y Ganolfan, Sam Holliday: ‘Ym Maggie’s, rydyn ni bob amser yn chwilio am raglen o weithgareddau newydd i gefnogi ein hymwelwyr, teulu a ffrindiau. Bydd hyn yn arwain at lawer o gyfleoedd gwirfoddoli cyffrous yn y dyfodol’.

HELPLU CYMRU

Daw’r astudiaeth achos hon o brosiect Helplu Cymru. Mae Helplu yn gweithio gyda Cefnogi Trydydd Sector Cymru (CGGC a’r 19 o Gynghorau Gwirfoddol Sirol (CVCs)), Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ddatblygu potensial gwirfoddoli i gefnogi gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae tudalen Helplu Cymru ar ein gwefan yn cynnwys dolenni i erthyglau diweddar, blogiau a storïau achos.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 02/08/24 | Categorïau: Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Adroddiad yn dangos bod gwirfoddoli yn cynyddu sgiliau a hyder

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 12/07/24 | Categorïau: Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Rôl gwirfoddoli mewn cartrefi gofal yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 21/06/24 | Categorïau: Dylanwadu | Gwirfoddoli | Gwybodaeth a chymorth |

Perthnasau rhwng y sectorau gwirfoddol a statudol

Darllen mwy