Dynes yn dal dau ddarn o bapur wrth iddi eistedd o flaen cyfrifiadur

Mae’r data yn dangos cyflwr presennol iechyd a gofal

Cyhoeddwyd : 20/10/26 | Categorïau: Newyddion |

Yn ddiweddar, cwblhaodd CGGC ei arolwg Baromedr cyntaf o’r sector gwirfoddol yng Nghymru sy’n canolbwyntio ar iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae Baromedr, prosiect ar y cyd rhwng CGGC a Phrifysgol Nottingham Trent, yn olrhain y profiadau, yr heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu mudiadau gwirfoddol yng Nghymru. Mae tonnau blaenorol wedi edrych ar gyllid, gwirfoddoli a chydberthnasau â’r llywodraeth.

‘TON’ IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL

Mae canfyddiadau’r set ddata gyntaf ar y pwnc hwn yn

Yn gyffredinol, roedd 73% o’r ymatebwyr yn ymwneud ag iechyd a gofal cymdeithasol, yn uniongyrchol neu drwy wasanaethau ehangach. O’r rhain:

  • Roedd 59% yn cynnig gwasanaethau gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth
  • Roedd 47.5% yn cynnig cymorth iechyd meddwl
  • Roedd 44% yn cyflawni datblygiad cymunedol
  • Roedd 41% yn ymwneud â phresgripsiynu cymdeithasol
  • Roedd 23% yn cynnig cymorth byw’n annibynnol.

Ymhlith y gwasanaethau eraill a gynigiwyd oedd cymorth lles ariannol (21%), gofal cymdeithasol (20%) a gwasanaethau cyfeillio (20%).

Awgryma’r ymarferiad mapio blaenorol o’r sector bod tua 10,000 o’r 40,000 i 45,000 o fudiadau gwirfoddol yng Nghymru yn cyfrannu at iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r don hon yn fwy o fraslun defnyddiol yn hytrach na mesur cadarn. Wrth i fwy a mwy gyfrannu, bydd Baromedr yn rhoi darlun cryfach o ôl troed y sector a sut mae’n newid dros amser.

CYDBERTHNASAU

Yn strategol, disgrifiodd 35% o fudiadau eu cydberthynas â’r system iechyd a gofal fel un cyfyngedig a 30% fel un sy’n datblygu. Mae cydberthnasau strategol yn helpu i lunio blaenoriaethau, cynllunio gwasanaethau, comisiynu a phennu cyfeiriad cyffredinol y system.

Mewn cyferbyniad, roedd gan 40% gydberthynas weithredol feunyddiol sefydledig â’r sector cyhoeddus, gan ddangos eu bod yn ymwneud mwy â chyflwyno’r system na’i llunio. Dywedodd 17% fod eu cydberthynas yn gyfyngedig yn weithredol.

Roedd profiadau gyda chomisiynwyr neu gyllidwyr yn ‘gystadleuol yn bennaf’ i 24% o fudiadau ac yn ‘fwy cystadleuol na chydweithredol’ i 14%. Adroddodd y grŵp mwyaf, 32%, gymysgedd. Dangosodd canlyniadau eraill fod 10% yn disgrifio’r cydberthnasau fel ‘mwy cydweithredol na chystadleuol’ a 20% fel ‘cydweithredol yn bennaf’.

Gall y canfyddiadau helpu i asesu gweithrediad fframweithiau fel y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Comisiynu Gofal a Chymorth, gan dynnu sylw at wersi o gydberthnasau mwy cydweithredol.

CYLLID

O ran tai, dywedodd 27% fod cyllid cyhoeddus yn talu’r holl gostau, a dywedodd 46% ei fod yn talu’r rhan fwyaf o’r costau. Ar gyfer gofal cymdeithasol, y ffigurau hyn oedd 25% a 42% yn ôl eu trefn.

Fodd bynnag, mae’r patrwm yn wahanol ar gyfer rhai gwasanaethau cymunedol ac ataliol, gyda 56% yn dweud nad oeddent wedi derbyn unrhyw gyllid ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol, 58% yn dweud yr un peth ar gyfer cyfeillio a 35% ar gyfer iechyd meddwl.

Gyda mwy o ymatebion, gallai’r cwestiwn hwn nodi lle mae’r costau cyflawni yn fwy na’r cyllid cyhoeddus sydd ar gael, gan gyflwyno tystiolaeth gryfach o anghenion y tu hwnt i nodi bod cyllid yn anodd.

GWIRFODDOLI

Mae gwirfoddoli yn ganolog i wasanaethau gan gynnwys cyfeillio, cymorth iechyd meddwl, presgripsiynu cymdeithasol a datblygu cymunedol.

Dangosodd y data newydd:

  • Nid oedd gan 31% o’r mudiadau a ymatebodd unrhyw wirfoddolwyr yn gysylltiedig â’u gweithgarwch iechyd a gofal
  • Roedd gan 22% rhwng un a pum gwirfoddolwr
  • Roedd gan 18% rhwng 21 a 50
  • Roedd gan 6% fwy na 50

Ar gyfer 67% o fudiadau, nid oedd unrhyw un o’u gwirfoddolwyr iechyd a gofal yn cael eu cyllido drwy gontract sector cyhoeddus na gwasanaeth comisiynu, sy’n awgrymu bod gwirfoddoli yn aml yn gweithredu y tu allan i gomisiynu ffurfiol. Fodd bynnag, dywedodd 26% fod eu holl wirfoddolwyr yn cael eu cyllido fel hyn.

CANFYDDIADAU ERAILL

Dangosodd canfyddiadau eraill o’r ymchwil fod:

  • 15% o fudiadau wedi gweld gwasanaethau yn cael eu dadgomisiynu neu eu gwneud yn fewnol yn ystod y 12 mis diwethaf
  • 17% o fudiadau yn gweithio’n aml iawn gyda mudiadau eraill i gynnig gwasanaethau ar y cyd, a 22% ar ddylanwadu ac eiriolaeth ar y cyd, ond dim ond 9% ar gomisiynu a chontractio ar y cyd

Canfu ymchwil gynharach gan Baromedr mai cynhyrchu incwm oedd prif bryder 84% o fudiadau, ac roedd 60% yn pryderu am y galw cynyddol am wasanaethau.

Yn y tri mis blaenorol, dywedodd 46% fod eu sefyllfa ariannol wedi dirywio ac roedd 36% wedi oedi rhai gweithrediadau oherwydd anawsterau recriwtio.

CAM PWYSIG YMLAEN

Dywedodd Johanna Davies, Pennaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol CGGC:

‘Mae’r arolwg hwn yn gam cyntaf pwysig tuag at sylfaen dystiolaeth gyson ar rôl y sector gwirfoddol yn system iechyd a gofal Cymru. Mae’n rhoi ffordd i’r llywodraeth a phartneriaid weld sut mae penderfyniadau polisi yn cael eu profi dros amser.

‘Mae’r canfyddiadau’n adlewyrchu’r hyn y mae’r sector wedi bod yn ei ddweud wrthym, ond mae angen mwy o gyfranogiad i gryfhau’r data. Os nad yw eich mudiad yn rhan o Faromedr eto, nawr yw’r amser i gymryd rhan.’

Gweld rhagor o ganlyniadau gan Baromedr Cymru.

 

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 29/10/26
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Hyfforddiant a digwyddiadau, Newyddion

Cael y diweddaraf yr Wythnos Ddiogelu hon

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 27/10/26
Categorïau: Newyddion

Mae grantiau Cymru ac Affrica ar agor nawr

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 22/10/26
Categorïau: Newyddion

Prosiectau rhyngwladol yn dod ag effaith gadarnhaol i Gymru

Darllen mwy