Mae’r Comisiwn Elusennau yn ceisio meithrin cydberthnasau mwy cefnogol ac ystyrlon ag ymddiriedolwyr unigol. Fel rhan o hyn, byddant yn cyflwyno ‘My Charity Commission Account’ . (Fy Nghyfrif Comisiwn Elusennau)
BETH YW ‘FY NGHYFRIF COMISIWN ELUSENNAU’?
Eich Cyfrif Comisiwn Elusennau (Saesneg yn unig) fydd y ffordd newydd o gael gafael ar wasanaethau ar-lein y Comisiwn. Dros amser, dyma le bydd y Comisiwn hefyd yn rhoi cymorth wedi’i deilwra i ymddiriedolwyr a gwybodaeth i’w helpu i redeg eu helusen yn dda.
Yn y dyfodol, bydd gan unrhyw un sy’n defnyddio gwasanaethau ar-lein y Comisiwn – boed hwnnw’n ymddiriedolwr, yn gyswllt neu’n weithiwr proffesiynol – ei gyfrif personol ei hun i gael gafael ar y gwasanaethau a’r wybodaeth sydd ei angen arno.
‘Golyga hyn y gall y bobl gywir barhau i wneud yr hyn sydd angen iddyn nhw ei wneud ar ran eich elusen, gan sicrhau bod yr wybodaeth sydd gennym ni amdanoch chi a’ch elusen yn cael ei chadw’n ddiogel.’
Bydd y Comisiwn yn gwahodd cysylltiadau elusennol i agor eu Cyfrifon Comisiwn Elusennau o fis Tachwedd 2022 ymlaen, gan ddechrau trwy wahodd nifer bychan fel y gallant ddysgu o’u profiadau cyn estyn allan i fwy o elusennau.
Os ydych chi’n ymddiriedolwr gyda nifer o elusennau, bydd gennych chi’r opsiwn i weld eich holl elusennau mewn un lle. Drwy ddefnyddio’r un cyfeiriad e-bost ar gyfer pob elusen, bydd dim ond angen i chi agor un cyfrif, oherwydd bydd yn ei gysylltu â’ch holl elusennau.
BETH I’W WNEUD NAWR?
Parhewch i ddefnyddio eich manylion mewngofnodi presennol i gael gwasanaethau’r Comisiwn.
Os ydych chi’n gyswllt elusennol, cadwch lygaid ar agor am negeseuon e-bost gan y Comisiwn Elusennau (cadwch lygaid ar eich ffolderi sothach/sbam rhag ofn) – ac agorwch eich cyfrif pan fyddwch chi’n derbyn eich dolen bwrpasol eich hun i gofrestru.
Eisiau’r newyddion diweddaraf, barna a chyhoeddiadau yn ogystal ag erthyglau defnyddiol ar bynciau sydd o bwys? Ymunwch gyda’n rhestr bostio. Bob wythnos rydym yn cynnig crynodeb o newyddion y sector wirfoddol a diweddariadau yn syth i’ch mewnflwch.