Mae Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie ar agor nawr am geisiadau, yn helpu arweinwyr yn y sector gwirfoddol i dyfu a datblygu eu sgiliau arweinyddiaeth.
Mae Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie yn ôl am 2024, gan gynnig cymorth i arweinwyr yn y sector gwirfoddol drwy roi’r gallu iddynt dyfu a datblygu eu heffaith. Bob blwyddyn, mae’r bwrsari yn rhoi grant o £2,500 i rywun mewn rôl arweinyddiaeth o fewn mudiad gwirfoddol yng Nghymru.
Caiff y bwrsari ei reoli gan ein tîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru a’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 14 Hydref 2024, 10 am.
BETH FYDDWN NI’N EI GYLLIDO
Mae’r paramedrau o sut y gellir gwario’r bwrsari yn agored ac anogir ymgeiswyr i feddwl am syniadau diddorol i gefnogi eu datblygiad eu hunain fel arweinydd. Roedd Walter yn frwd am deithio a dysgu, ac roeddem am i’r bwrsari hwn adlewyrchu hynny. Gellid defnyddio’r arian, er enghraifft, ar:
- un cwrs astudiaeth penodol
- cyllido ymweliad, tramor o bosibl, i weld sut mae pobl eraill yn mynd ati i ymdrin â phethau, neu yn syml
- unrhyw beth y mae’r buddiolwr yn teimlo y gallai symud ef a’i fudiad ymlaen
Yr unig gyfyngiadau yw eich dychymyg!
DERBYNYDDION GRANT BLAENOROL
Ers 2017, mae’r bwrsari wedi cyllido:
- Ymweliad astudio â Copenhagen i gael gwersi ar drafnidiaeth gynaliadwy
- Cyfnewidfa ddysgu ym Montreal ar arddio cymunedol
- Adeiladu rhwydweithiau a rhannu gwybodaeth yn y sector celfyddydau
- Nifer o gyrsiau datblygu arweinyddiaeth fel y cwrs Arweinwyr Mentrus gan Academi Menter Gymdeithasol Cymru
- Taith drawsnewidiol i Hollywood ar gyfer elusen ffilm gynhwysol, TAPE Community Music and Film
- Taith astudio i Ganada, i ddysgu’n uniongyrchol am wasanaethau cyflogaeth i ffoaduriaid ac am waith ar ddylanwadu ar bolisïau llywodraethol
Darllenwch fwy am sut mae pobl wedi defnyddio ein bwrsari arweinyddiaeth.
ENILLYDD 2023
Dyfarnwyd Bwrsari Walter Dickie 2023 i Salah Rasool o fudiad Cyngor Ffoaduriaid Cymru.
Bydd Salah yn defnyddio’r bwrsari ar gyfer taith astudio i Ganada, a gynhelir yn fyd-eang fel esiampl o arfer da am ei gwaith gyda ffoaduriaid. Yma, bydd yn dysgu’n uniongyrchol am wasanaethau cyflogaeth i ffoaduriaid ac am y gwaith ar ddylanwadu ar bolisïau llywodraethol.
Nod Salah yw cymhwyso’r hyn y bydd yn ei ddysgu o’i brofiadau yng Nghanada i’w rôl arweinyddiaeth ym mudiad Cyngor Ffoaduriaid Cymru, ond hefyd rhannu ei ganfyddiadau gyda’i bartneriaid yn y sector ffoaduriaid a chyda’r sector gwirfoddol ehangach.
RHAGOR O WYBODAETH A GWNEUD CAIS
Peidiwch â cholli’r cyfle gwych hwn i gefnogi arweinydd hanfodol yn y sector gwirfoddol.
I gael rhagor o wybodaeth a gwneud cais, ewch i’n tudalen Bwrsari Arweinyddiaeth Walter Dickie.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 14 Hydref 2024, 10 am.
MWY AM ARWEINYDDIAETH
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu mwy am arweinyddiaeth yng Nghymru, edrychwch ar raglen Arweinwyr Cymdeithasol Cymru.
Mae Arweinwyr Cymdeithasol Cymru yn bartneriaeth rhwng Cwmpas, Arweinyddiaeth Gymdeithasol Clore ac CGGC. Mae’r rhaglen yn cynnig cyfleoedd hyfforddi ar-lein ac wyneb yn wyneb i gyfranogwyr ledled Cymru a bydd yn cefnogi dysgu rhwng cymheiriaid ac yn cryfhau rhwydweithiau.