Mae 16 – 20 Tachwedd yn Wythnos Ddiogelu genedlaethol yng Nghymru
Nod Wythnos Ddiogelu yw codi ymwybyddiaeth o ddiogelu. Mae gan bawb ran i’w chwarae i gadw pobl yn ddiogel rhag niwed.
Mae diogelu yn golygu amddiffyn plant ac oedolion rhag cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso ac addysgu’r rhai o’u cwmpas i adnabod yr arwyddion a’r peryglon.
Dylai diogelu fod yn flaenoriaeth i bob mudiad gwirfoddol ac elusen, yn enwedig y rhai sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion sydd mewn perygl.
Mae diogelu da a phriodol yn rhoi tawelwch meddwl i’r cyhoedd am eich mudiad ac yn cyfrannu at enw da y sector yn gyffredinol.
Bydd llawer o weithgareddau’n cael eu cynnal ledled Cymru yn ystod Wythnos Ddiogelu. I gael gwybod beth sy’n digwydd yn eich ardal chi, ewch i wefan eich Bwrdd Diogelu rhanbarthol. Gallwch ddod o hyd i’ch bwrdd ar Wefan y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol, Dod o hyd i’ch bwrdd rhanbarthol
Cymryd Rhan
Beth am ddefnyddio Wythnos Ddiogelu fel cyfle i adolygu arferion diogelu eich mudiad?
- Yw eich polisi diogelu’n gyfredol?
- Oes angen hyfforddiant diogelu neu gwrs gloywi ar unrhyw un yn eich mudiad?
- Yw pawb yn eich mudiad yn gwybod pwy i gysylltu â nhw os oes ganddynt bryderon?
- Yw’r bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw yn gwybod beth rydych chi’n ei wneud i’w cadw nhw’n ddiogel rhag niwed?
- Yw eich ymddiriedolwyr yn gwybod mai nhw yn y pen draw sy’n gyfrifol am ddiogelu yn eich mudiad?
Adnoddau defnyddiol
- Gweithdrefnau Diogelu Cymru
- Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol
- NSPCC
- Cyfarwyddyd y Comisiwn Elusennau ar ddiogelu ac amddiffyn pobl ar gyfer elusennau ac ymddiriedolwyr
- Canllawiau Diogelu Llywodraeth Cymru
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n gwe dudalen Diogelu
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ddiogelu, mae croeso i chi gysylltu â’n Swyddog Diogelu a fydd yn fwy na pharod i helpu, safeguarding@wcva.cymru.
Gallwch hefyd gysylltu â’ch Cyngor Gwirfoddol Sirol ynghylch cyfleoedd hyfforddi lleol, Cefnogi Trydydd Sector Cymru