Mae 13 – 17 Tachwedd 2023 yn Wythnos Genedlaethol Diogelu yng Nghymru.
Y NOD
Nod Wythnos Ddiogelu yw codi ymwybyddiaeth o ddiogelu oherwydd mae gan bawb ran i’w chwarae i gadw pobl yn ddiogel rhag niwed.
Mae diogelu yn golygu amddiffyn plant ac oedolion rhag cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso ac addysgu’r rhai o’u cwmpas i adnabod yr arwyddion a’r peryglon.
Dylai diogelu fod yn flaenoriaeth i bob mudiad gwirfoddol ac elusen, yn enwedig y rhai sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion sydd mewn perygl. Mae diogelu da a phriodol yn rhoi tawelwch meddwl i’r cyhoedd am eich mudiad ac yn cyfrannu at enw da’r sector yn gyffredinol.
YN YSTOD YR WYTHNOS
Eleni, bydd y Fframwaith Safonau Hyfforddi Cenedlaethol newydd yn cael ei lansio yn ystod yr Wythnos Ddiogelu, ar ddydd Llun 13 Tachwedd.
Bydd CGGC yn cynnal dwy weminar am ddim yn ystod yr wythnos:
- Dydd Mawrth 14 Tachwedd 2pm: Diogelu ar gyfer Ymddiriedolwyr
- Dydd Iau 16 Tachwedd 11am: Gweminar Diweddariad ar Hyfforddiant
Bydd llawer o weithgareddau eraill yn cael eu cynnal ledled Cymru yn ystod yr Wythnos. I gael gwybod beth sy’n digwydd yn eich ardal chi, ewch i wefan eich Bwrdd Diogelu rhanbarthol. Gallwch ddod o hyd i’ch bwrdd ar Wefan y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol, dod o hyd i’ch bwrdd rhanbarthol.
SUT I GYMRYD RHAN
Beth am ddefnyddio Wythnos Ddiogelu fel cyfle i adolygu arferion diogelu eich mudiad?
- Yw eich polisi diogelu’n gyfredol?
- A ydych chi wedi ystyried anghenion hyfforddiant eich gweithlu yn ôl Grŵp (yn unol â’r Safonau Dysgu a Datblygu Hyfforddiant Diogelu Cenedlaethol)?
- A yw pawb yn eich mudiad yn gwybod pwy i gysylltu â nhw os oes ganddynt bryderon?
- A yw’r bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw yn gwybod beth rydych chi’n ei wneud i’w cadw nhw’n ddiogel rhag niwed?
- A yw eich ymddiriedolwyr yn gwybod mai nhw yn y pen draw sy’n gyfrifol am ddiogelu yn eich mudiad?
ADNODDAU DEFNYDDIOL
- Cefnogi Trydydd Sector Cymru
- Gweithdrefnau Diogelu Cymru
- Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol
- NSPCC
- Cyfarwyddyd y Comisiwn Elusennau ar ddiogelu ac amddiffyn pobl ar gyfer elusennau ac ymddiriedolwyr
- Cod Ymarfer Diogelu Llywodraeth Cymru
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalen Diogelu.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ddiogelu, mae croeso i chi gysylltu â’n Swyddogion Diogelu a fydd yn fwy na pharod i helpu, diogelu@wcva.cymru.