Person yn cyfrifo'r gyllideb gyda graffiau a chyfrifiannell

Mae’n rhaid i’r Gyllideb ddrafft gefnogi’r sector wrth i Gymru adfer o Covid-19

Cyhoeddwyd : 04/12/20 | Categorïau: Dylanwadu |

Mae CGGC wedi ymateb i ymgynghoriad y Pwyllgor Cyllid ar gynigion cyllideb drafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021/22, ac ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar gorff iechyd digidol newydd.

Gwnaeth yr un gyntaf, a oedd yn ymgynghoriad pellgyrhaeddol, edrych ar effaith y gyllideb flaenorol, effaith ariannol Covid-19, y newid yn yr hinsawdd, cydraddoldeb, yr adferiad economaidd a mwy.

Yn ein hymateb gwnaethom nodi’r canlynol:

  • Mae’n rhaid i’r sector gwirfoddol gael ei gefnogi a’i adnoddu er mwyn bodloni ei rôl ganolog yn y gwaith adfer ar ôl y pandemig.
  • Dylai Llywodraeth Cymru barhau i fuddsoddi mewn gweithgareddau sy’n adeiladu gwydnwch ar draws cymunedau, yn ogystal â gwasanaethau ataliol ac iechyd meddwl.
  • Gallai Cronfa Adfer y Sector Gwirfoddol gynorthwyo mudiadau i gyfrannu at adferiad gwyrdd a chyfiawn.
  • Mae’n rhaid i fudiadau’r sector barhau i allu cynllunio’n briodol ar gyfer y dyfodol. Mae cylchredau cyllido un flynedd yn rhwystr i hynny.
  • Mae gan Bartneriaethau Natur Lleol rôl arwyddocaol i’w chwarae yn yr adferiad gwyrdd, ond bydd angen cymorth arnynt.
  • Mae buddsoddi mewn swyddi gwyrdd a glas yn hanfodol.
  • Mae gweithio ar draws y llywodraeth a buddsoddi mewn swyddi cynaliadwy yn hanfodol i leihau a chael gwared ar dlodi.
  • Dylid clustnodi cyfran o’r gyllideb ar gyfer sgiliau a chyflogadwyedd ar gyfer grwpiau anoddach eu cyrraedd.
  • Mae’n rhaid i gymunedau gael eu cefnogi i barhau i weithio mor gyflym ag y gwnaethant yn ystod cyfyngiadau symud y gwanwyn a’r haf.
  • Mae’n rhaid i gyd-gynhyrchu chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddylunio a darparu gwasanaethau ataliol.
  • Mae’n rhaid chwilio am arbenigedd yn y sector er mwyn cyfrannu at y drafodaeth ar ddatblygu economaidd yn y dyfodol.

Mae CGGC hefyd wedi ymateb yn ddiweddar i ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru ar Awdurdod Iechyd Arbennig newydd i Gymru yn y maes Digidol. Gwnaeth yr ymgynghoriad hwn edrych ar gynigion Llywodraeth Cymru i sefydlu awdurdod newydd er mwyn darparu gwasanaethau digidol, data a thechnoleg cenedlaethol ar gyfer y maes iechyd a gofal yng Nghymru.

Yn ein hymateb, gwnaethom nodi’r angen i sicrhau bod pobl hŷn, y rheini ag anawsterau dysgu a’r rheini â nam ar eu synhwyrau yn cael eu cynnwys yn y sgwrs ddigidol, neu byddant yn wynebu mwy o broblemau iechyd, anghydraddoldebau, unigrwydd ac ynysu. Mae hefyd yn hanfodol bod y sector gwirfoddol yn cael ei gynrychioli ar Fwrdd y corff newydd, a bod y Gymraeg yn cael ei hymwreiddio mewn cynlluniau a phrosesau o’r cychwyn cyntaf.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 13/01/25
Categorïau: Dylanwadu, Gwybodaeth a chymorth

Rheoliadau newydd ar gyfer caffael gwasanaethau iechyd

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 29/11/24
Categorïau: Dylanwadu, Newyddion

Brwydro yn erbyn effaith cyllideb y DU ar fudiadau gwirfoddol

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 08/11/24
Categorïau: Cyllid, Dylanwadu, Newyddion

CGGC yn rhannu pryderon y sector ar gynnydd Yswiriant Gwladol

Darllen mwy