Ar ôl bod yn achubiaeth i’r gymuned yn y Barri yn ystod y pandemig, mae’r mudiad cymorth i deuluoedd nid-er-elw, CUBE (Cymuned yn Un y Barri i Bawb) yn agor y drysau nawr i ‘The Gallery’, caffi cymunedol a gofod i ddigwyddiadau ar Broad Street yn y Barri, diolch i gymorth gan y Gronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol.
Cymuned yn dod at ei gilydd
Cafodd CUBE ei ffurfio wrth i’r cyfnod clo cyntaf daro Cymru yn 2020 ac er nad yw erioed wedi cael canolfan i weithredu ynddi, mae wedi bod yn cynnig gwasanaethau hanfodol i’r gymuned drwy gydol argyfwng y coronafeirws.
Fel cynulliad o 28 o bobl, sy’n bennaf yn drigolion o’r Barri, mae CUBE yn unigryw: mae gan ei holl wasanaethau, gweithgareddau, staff a gwirfoddolwyr brofiad o naill ai cludo gwasanaethau i gymuned y Barri a/neu brofiad byw o gael cymorth lleol.
Daw hyn ar ôl i CUBE herio’r ods a dal ati i weithredu pan oedd cyfyngiadau’r Coronafeirws ar waith, gan helpu i gynnig gwasanaethau mawr eu hangen i bobl leol. Roedd Janet* yn ei chael hi’n anodd ymdopi ag ymddygiad ei phlentyn yn ystod y cyfnod clo, gyda’r plentyn yn sgrechain arni ac yn ei bwrw, gan ddweud wrthi ei bod yn ei chasáu.
Dywedodd Janet ‘Rwyf mor ddiolchgar am y cymorth a gefais i gan CUBE. Mae fy mhlentyn wedi cael cymorth rhagorol, ond yn fwy na hynny, mae fy nghartref yn llawer mwy hapus a thawel.’
Ar ôl derbyn arian gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i sefydlu CUBE, a cyllid o’r Gronfa Twf Busnesau Cymdeithasol, bydd y lleoliad newydd yn cynhyrchu incwm ar gyfer nodau elusennol CUBE, gan eu galluogi i barhau i wneud gwahaniaeth i deuluoedd ac unigolion sy’n byw gydag iechyd meddwl, hunanladdiad, galar a cholled, cam-drin domestig a sylweddau neu’n cael eu heffeithio gan y pethau hyn.
Ystafell gyda golygfa
Cafodd ‘The Gallery’ ei digwyddiad lansio ar y 18fed o Hydref 2021, a fydd yn cynnig lleoliad modern i ddigwyddiadau a phriodasau, a chaffi ar wahân sy’n ceisio cynnig gofod cymunedol i helpu i fynd i’r afael ag unigrwydd, problem sydd wedi gwaethygu yn ystod COVID-19. Gall cwsmeriaid alw heibio am sgwrs a choffi, neu dalu am ‘goffi hwyr’ i rywun mewn angen.
Bydd y lleoliad ar Broad Street yn y Barri hefyd yn dod yn gartref ac yn weithfan i CUBE gan ganiatáu iddynt ddarparu eu gwasanaethau i’r gymuned yn well – gan ddod â’r cyfan yn ôl i’r bobl y cafodd ei sefydlu i’w gwasanaethu.
Cronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol
Mae’r Cronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol yn gymysgedd o grantiau a chymorth ad-daladwy sydd wedi cael ei chynllunio i alluogi busnesau cymdeithasol yng Nghymru ddatblygu a chreu cyfleoedd gwaith. Mae CTBC yn cael ei chyllido yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru. Gwelwch mwy yma.