Mae’n amser ar gyfer Cyfrifiad 2021

Mae’n amser ar gyfer Cyfrifiad 2021

Cyhoeddwyd : 15/03/21 | Categorïau: Newyddion |

Mae’r cyfrifiad yma, a gallwch chi chwarae eich rhan drwy helpu eich cymuned ymuno.

Erbyn nawr byddwch siŵr o fod wedi gweld hysbysebion y cyfrifiad ar lein neu ar y teledu, a bydd llawer o bobl yn eich cymuned chi eisoes wedi cael eu llythyrau nhw. Mae’r rhain yn cynnwys y cod mynediad y gall pobl ei ddefnyddio i fewngofnodi yn www.cyfrifiad.gov.uk a llenwi eu holiadur nhw ar lein.

Mae gwybodaeth o’r cyfrifiad yn helpu llawer o bobl a sefydliadau i wneud eu gwaith. Er enghraifft, mae’r Ganolfan Cyngor ar Bopeth yn defnyddio data o’r cyfrifiad i sicrhau ei bod yn cyrraedd yr holl gymunedau y mae angen ei chymorth arnyn nhw. Gall elusennau hefyd ddefnyddio gwybodaeth o’r cyfrifiad fel tystiolaeth i gael cyllid. Dyna pam ei bod hi mor bwysig bod pawb yn cymryd rhan.

Mae’r holiadur yn syml i’w lenwi, ond mae digon o gymorth y gallwch chi helpu i gyfeirio unrhyw un sydd ei angen ato, gan gynnwys:

  • adran help ar ein gwefan sy’n cwmpasu llawer o ymholiadau cyffredin
  • canolfan gyswllt i’w ffonio gydag unrhyw gwestiynau. Ffoniwch 0800 169 2021(i’r rhai sy’n byw yng Nghymru) neu 0800 141 2021 (i’r rhai sy’n byw yn Lloegr)
  • llinell iaith y gall pobl ei ffonio i ofyn cwestiynau am y cyfrifiad drwy gyfieithydd. Ffoniwch 0800 587 2021.
  • canllawiau i’w harchebu mewn hyd at 49 o ieithoedd
  • holiadur electronig sy’n gydnaws â’r rhan fwyaf o dechnolegau cynorthwyol a deunyddiau hygyrch a chymorth
  • yr opsiwn i archebu holiaduron papur a holiaduron print mawr
  • canllawiau drwy adnodd gwe-sgwrs, neges destun a gwe-ffurflen ar gyfer y rhai y mae’n well ganddynt gyfathrebu’n ysgrifenedig

Hefyd, bydd mynediad i’r rhyngrwyd a help wyneb yn wyneb ar gael yng Nghanolfannau Cymorth y Cyfrifiad cyn gynted ag y bydd yn bosibl i’r rhain agor yn ddiogel. Gallwch gyfeirio pobl i edrych am eu Canolfan agosaf nhw i gael manylion cyswllt a gwybodaeth am ba gymorth sydd ar gael.

O 22 Mawrth, bydd swyddogion maes y cyfrifiad yn dechrau ymweld â rhai chartrefi i roi help ac anogaeth i’r bobl hynny sydd heb lenwi ffurflen y cyfrifiad eto. Nid oes angen poeni am yr ymweliadau hyn – mae swyddogion maes yno i ateb unrhyw gwestiynau a chynnig cyngor. Byddan nhw bob amser yn dilyn canllawiau cadw pellter cymdeithasol ac yn bod yn ddiogel o ran COVID-19.

Mae’n amser gwych i fod yn siarad â’ch cymuned chi am bwysigrwydd y cyfrifiad, a’i fuddiannau i bob un ohonom ni. Mae posteri, fideos, negeseuon ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol a mwy i’ch helpu i ledaenu’r neges ar dudalen adnoddau y cyfrifiad.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 06/12/24
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Newyddion

Cyhoeddi enillydd bwrsariaeth arweinyddiaeth 2024

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 04/12/24
Categorïau: Newyddion

Prosiect gwrth-hiliol o fudd i ysgolion yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 02/12/24
Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau, Newyddion

Cadwch y dyddiad – gofod3 2025

Darllen mwy