Grŵp o wirfoddolwyr yn sefyll y tu allan yn cofleidio mewn grŵp ac yn gwenu

Mae Wythnos Gwirfoddolwyr 2025 yma!

Cyhoeddwyd : 02/06/25 | Categorïau: Gwirfoddoli | Newyddion |

Mae’n amser ar gyfer Wythnos Gwirfoddolwyr, yr ymgyrch flynyddol ledled y DU i ddathlu a chydnabod cyfraniadau gwirfoddolwyr.

Mae’n Wythnos Gwirfoddolwyr – a dyma’n cyfle i floeddio’n gyhoeddus (neu o leiaf o’n sianeli cymdeithasol):

‘Wrth i Wythnos Gwirfoddolwyr yng Nghymru ddechrau, gadewch i ni ddathlu gwychder cyfunol ein gwirfoddolwyr! Mae eich gweithredoedd unigol o garedigrwydd a chefnogaeth, ledled y genedl, yn creu grym pwerus er budd. Rydych chi’n dod â llawenydd, yn cryfhau ein cymunedau, yn sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn ffynnu, ac yn helpu ein hamgylchedd i ffynnu. Diolch, gwirfoddolwyr Cymru, am y gwahaniaeth anhygoel rydych chi’n ei wneud!’- Felicitie Walls, Rheolwr Gwirfoddoli, CGGC

Yr wythnos hon, 2-8 Mehefin 2025, byddwn yn ymuno â gweddill y DU i ddathlu 41 mlynedd o Wythnos Gwirfoddolwyr. Mae’n amser i fyfyrio, gwerthfawrogi, ac yn bwysicaf oll – dweud diolch.

DIOLCH SYML

Gwyddom mai gwirfoddolwyr yw hanfod cymunedau. P’un a ydyn nhw’n mentora pobl ifanc, yn clirio llwybrau troed, yn cynnal banciau bwyd, neu ond yn cynnig llais cyfeillgar ar y ffôn – mae eu cyfraniad yn amhrisiadwy.

Ond nid oes angen cydnabyddiaeth fawreddog. Gall cerdyn syml o ddiolch, sylw ar y cyfryngau cymdeithasol, neu hyd yn oed rhannu paned a sgwrs wneud byd o wahaniaeth a gwneud i rywun deimlo’n werthfawr, a gwybod ei fod yn bwysig.

Dyma’r amser perffaith i feddwl am yr hyn y gallwch ei wneud i ddangos gwerthfawrogiad i’r gwirfoddolwyr sy’n gwneud cenhadaeth eich mudiad yn bosibl, nid yn unig yn ystod yr wythnos ymgyrchu genedlaethol hon, ond trwy gydol y flwyddyn, yn rheolaidd, yn aml ac yn ystyrlon.

DANGOS EICH GWERTHFAWROGIAD

Gallech chi:

  • Ddweud ‘diolch’ yn uniongyrchol wrth wirfoddolwr – yn aml gall y dulliau symlaf, lleiaf wneud y gwahaniaeth mwyaf
  • Rhannu adborth gyda gwirfoddolwyr am yr effaith y mae gwirfoddolwyr yn eich mudiad yn ei chael
  • Anfon nodyn personol gan Gydlynydd Gwirfoddolwyr, y Prif Swyddog Gweithredol neu ymddiriedolwr, neu fuddiolwr
  • Gwneud amser i gael paned a sgwrs gyda gwirfoddolwr
  • Rhannu stori gwirfoddolwr ar eich gwefan neu gyfryngau cymdeithasol. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n tagio #WythnosGwirfoddolwyr a #VolunteersWeek yr wythnos hon

CYMRYD RHAN

Gadewch i ni wneud yr Wythnos Gwirfoddolwyr hon yn un i’w chofio – un sy’n dangos i wirfoddolwyr eu bod yn wirioneddol bwysig, yn dathlu eu cyfraniadau, ac yn agor drysau newydd i hyd yn oed mwy o bobl gymryd rhan.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Wythnos Gwirfoddolwyr.

CARU EICH GWIRFODDOLWYR?

Y ffordd orau o ddangos eich bod yn gwerthfawrogi eich gwirfoddolwyr yw buddsoddi’r amser mewn creu profiadau gwirfoddoli o ansawdd uchel sy’n bodloni eu galluoedd, cymhellion a dyheadau unigol orau. Gwneud yn siŵr bod eich cyfleoedd gwirfoddoli yn gyfleoedd i wirfoddolwyr deimlo’n ddiogel, wedi’u cynnwys a bod croeso iddynt.

I wybod beth mae hyn yn ei olygu yn ymarferol, edrychwch ar y Cod Ymarfer ar gyfer Cynnwys Gwirfoddolwyr, y gyfres o adnoddau gwirfoddoli ar Hwb Gwybodaeth Cefnogi Trydydd Sector Cymru a’r safonau Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr, gwobr arfer dda, y gellir ei defnyddio fel meincnod.

YDYCH CHI WEDI CLYWED?

Mae ‘dull newydd o wirfoddoli‘ yn cael ei ddatblygu ar gyfer Cymru mewn cyfnod o ymgynghori ar hyn o bryd – rhowch eich barn a chymryd rhan yn yr arolwg.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 05/06/25
Categorïau: Gwirfoddoli, Newyddion

Gwirfoddoli: Curiad calon iechyd a gofal yng Nghymru

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 05/06/25
Categorïau: Gwirfoddoli, Newyddion

Tyfu trwy wirfoddoli

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 03/06/25
Categorïau: Gwirfoddoli, Newyddion

Gwirfoddolwyr ifanc yn arwain y ffordd yn Rheilffordd Talyllyn

Darllen mwy