Mae Wythnos Elusennau Cymru yn ôl, rhwng 13 ac 17 Tachwedd, i ddathlu gwaith da elusennau, mentrau cymdeithasol, mudiadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol a gwirfoddol yng Nghymru.
BETH YW’R WYTHNOS?
Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae’r sector a Chymru gyfan wedi wynebu cyfres o heriau ac amgylchiadau anodd. Mae Wythnos Elusennau Cymru yn gyfle i gydnabod a dathlu’r holl waith mae pobl a mudiadau ar draws y sector gwirfoddol yng Nghymru yn ei wneud i daflu ychydig o oleuni ar y tywyllwch. Mae’n gyfle i ddod ynghyd a dangos gwerthfawrogiad, i atgoffa pobl bod yr hyn maen nhw’n ei wneud yn gwneud gwahaniaeth.
BETH SY’N DIGWYDD?
Mae gan Gymru hanes hir a gwerthfawr o wirfoddoli a gweithredu gwirfoddol sy’n parhau i fod yn wir hyd yn oed nawr.
Yn ystod yr wythnos byddwn yn rhannu straeon, yn dweud diolch ac yn tynnu sylw at y gwaith da y mae pobl Cymru yn ei wneud. Rydyn ni am i’r sector cyfan gymryd rhan, boed yn elusennau, gwirfoddolwyr, grwpiau cymunedol neu fentrau cymdeithasol, rydyn ni am glywed am y cyfan.
Cadwch lygad ar yr hashnod #WythnosElusennauCymru ar y cyfryngau cymdeithasol, lle byddwn yn rhannu’r straeon sydd bwysicaf i chi. Byddwn hefyd yn eich annog i gymryd rhan a helpu i ledaenu’r neges.
Mae Wythnos Elusennau Cymru yn amser gwych i helpu i roi rhywbeth yn ôl, drwy ddangos gwerthfawrogiad, codi arian neu hyd yn oed wirfoddoli. Gyda gwefan newydd Gwirfoddoli Cymru mae’n haws nag erioed i wirfoddolwyr gofrestru a rhannu eu profiadau a’u hewyllys da gyda’r sector, a fu erioed amser gwell na nawr i gofrestru.
CADWCH LYGAD ALLAN
Byddwn yn rhannu rhagor o fanylion gyda chi wrth i’r dyddiad agosáu, ond yn y cyfamser gallwch weld rhai o’r straeon a’r negeseuon ysbrydoledig rydyn ni wedi’u casglu yn ystod y blynyddoedd diwethaf ar y wefan. Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer ein rhestrau postio i gael gwybodaeth am Wythnos Elusennau Cymru yn syth i’ch blwch post.