Mae rownd pump o gynllun grant Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru ar agor!

Cyhoeddwyd : 07/02/20 | Categorïau: Cyllid |

Mae ceisiadau ar agor nawr ar gyfer menter flaenllaw Llywodraeth Cymru, sy’n galluogi mudiadau ledled Cymru i gael cyllid ar gyfer prosiectau sy’n cyfrannu at ymdrechion Cymru i gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.

Rydym yn edrych am geisiadau gan grwpiau sydd â’r brwdfrydedd a’r penderfyniad i helpu i gyfrannu tuag at nodau’r cynllun, gan wneud gwahaniaeth go iawn i’r cymunedau y maen nhw’n eu cyrraedd.

Mae’r cynllun yn dyfarnu cyllid i brosiectau sy’n gwneud gwahaniaeth yng Nghymru ac Affrica o dan y themâu canlynol:

  • Bywoliaeth Gynaliadwy
  • Dysgu Gydol Oes
  • Y Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd
  • Iechyd

Astudiaeth Achos: Blossom Africa

Bu Blossom Africa yn llwyddiannus yn eu cais rownd dau i gael £5,000 i weithio gydag aelodau o’r gymuned yn Bunambutye, Dwyrain Uganda. Uchelgais Blossom Africa yw uno pobl mewn cymunedau gwledig yn Affrica drwy gyfleoedd hyfforddi a datblygiadau cymunedol, gan gynnwys cynilion a benthyciadau. Eu nod yw creu rhwydwaith o bobl sydd wedi’u hysbrydoli i gefnogi eu hunain ac eraill i ddileu tlodi o fewn eu cymunedau.

Gwnaeth y prosiect gefnogi’r 60 aelod cyfredol o ddau grŵp cynilo pentref, yn ogystal â 60 aelod newydd mewn dau grŵp arall. Mae’r grwpiau cynilo’n cefnogi aelodau i fynd ati i ddefnyddio technegau cynilo, a hefyd yn darparu benthyciadau bach i helpu aelodau i ddechrau eu busnes eu hunain a gweithgareddau eraill sy’n creu incwm.

Cynhaliodd Blossom Africa ymarferiad monitro ‘newid mwyaf arwyddocaol’ gyda’r rheini a gymerodd ran yn yr hyfforddiant. Y budd mwyaf cyffredin a nodwyd oedd gallu talu ffioedd ysgol yn haws, a’r cymorth misol y mae’r tîm yn Uganda wedi gallu ei gynnig i aelodau’r grwpiau sy’n bennaf gyfrifol am hyn.

Mae’r newid hinsawdd yn Uganda yn golygu bod angen i aelodau’r gymuned addasu er mwyn cynnal eu hincwm. Darparwyd hyfforddiant mewn technegau ffermio newydd, a chafodd aelodau grŵp o ddau grŵp 5kg o indrawn (maize) a 2kg o ffa fel rhan o’r prosiect. Nododd y gymuned fod y ffermwyr a gafodd yr hyfforddiant a’r hadau wedi cael cnydau gwell.

Gwnaeth y grant Cymru ac Affrica hefyd roi’r cyfle i 10 o fenywod o’r grwpiau cynilo gymryd rhan yn nathliadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yr ardal. Roedd hwn yn gyfle gwych i uno’r grwpiau, i gynrychioli Blossom Africa ar lefel ranbarthol ac i roi cyfle i’r menywod gymryd rhan mewn digwyddiad nad ydynt wedi cael y cyfle i gymryd rhan ynddo o’r blaen.

Cafodd 7 gwirfoddolwr o Gymru brofiad gwerthfawr o fod yn rhan o’r prosiect, oherwydd cawsant ymweld â’r grwpiau a rhannu gwybodaeth. Rhannodd Blossom Africa lwyddiant y prosiect mewn digwyddiadau yng Nghymru a gwnaethant gyflwyno sgyrsiau addysgol mewn ysgolion.

Sut i wneud cais

Mae’r ffurflen gais ar ddogfen Word y gellir teipio ynddi, a gellir ei chyflwyno drwy’r post neu ar e-bost ynghyd â’r dogfennau ategol angenrheidiol. Darllenwch dudalennau gwe CGGC a lawrlwythwch ganllawiau’r cynllun a’r ffurflen gais.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 11 Mawrth 2020.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 18/11/24
Categorïau: Cyllid, Newyddion

‘Grymuso pobl i weithredu er mwyn gwella eu hamgylchedd lleol’

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 18/11/24
Categorïau: Cyllid

Cyllid ar agor i brosiectau sy’n fuddiol i gymunedau a’r amgylchedd

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 13/11/24
Categorïau: Cyllid, Newyddion

Y diwrnod rhoi byd-eang

Darllen mwy