Mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer cynllun grantiau Cymru ac Affrica ar gyfer prosiectau sy’n cyfrannu at ymdrechion Cymru i gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.
BETH Y GALLWCH YMGEISIO AM
Mae’r cynllun yn galluogi grwpiau cymunedol a mudiadau yng Nghymru i gael gafael ar gyllid ar gyfer prosiectau bach sy’n cyfrannu at waith Cymru o gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig a chyflwyno buddion i Gymru ac Affrica.
Ar gyfer y cylch hwn o grantiau Cymru Affrica, gallwn ni gynnig penodol ar gyfer prosiectau grymuso menywod a fydd yn gweithio gyda phartneriaid presennol sy’n cyflenwi yn Uganda neu Lesotho. Bydd grantiau rhwng £20,000 a £30,000 ar gael, ac mae £90,000 wedi’i glustnodi ar gyfer y dyfarniad hwn.
Bydd ceisiadau sy’n canolbwyntio ar gyfrannu at gydraddoldeb rhwng y rhywiau yn y meysydd canlynol yn cael eu hystyried:
- Menywod mewn arweinyddiaeth
- Hawliau menywod
- Y newid yn yr hinsawdd
- Hyfforddiant ac addysg
- Urddas misglwyf
- Trais ar sail rhywedd
Yn ogystal â hyn, dylai eich prosiect hefyd ddangos sut mae’r gweithgaredd yn cyfrannu at ymdrechion Cymru i gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig a chyflwyno buddion i Gymru ac Affrica. Dylai mudiadau ystyried sut mae eu prosiectau strategol yn cyd-fynd â gwerthoedd a nodau polisi a chynlluniau gweithredu Llywodraeth Cymru, yn enwedig y rhaglen Cymru ac Affrica, a Chydraddoldeb Rhywiol.
Cyn ymgeisio am grant o’r gronfa hon sydd wedi’i chlustnodi, dylai ymgeiswyr drafod eu prosiect gyda thîm Llywodraeth Cymru i wirio a fyddai’n gymwys i gael ei ystyried. Cysylltwch â thîm Cymru ac Affrica yn walesandafrica@gov.wales gyda pharagraff byr am beth fyddai’r prosiect yn ymwneud ag ef. Peidiwch ag anfon ceisiadau prosiect i’r cyfeiriad hwn – rhaid i bob cais gael ei wneud drwy borth MAP CGGC. Fel rhan o’ch cais, byddwch chi’n nodi a ydych chi’n gwneud cais am grant i wneud prosiect sy’n canolbwyntio ar rymuso menywod. Os oes gennych unrhyw gwestiynau sy’n ymwneud â chael gafael ar y ffurflen gais, cysylltwch â thîm CGGC yn grantiaucymruaffrica@wcva.cymru.
THEMÂU
Yn gweithio gyda phartneriaid o Affrica Is-Sahara, rhaid i brosiectau wneud cyfraniad diriaethol at o leiaf un o’r pedair themâu isod:
- Iechyd
- Dysgu Gydol Oes
- Y Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd
- Bywoliaeth gynaliadwy
LLINELL AMSER
28 Tachwedd 2023 – cynllun grant ar agor am geisiadau
Mae’r broses ar gyfer ceisiadau cyllido yn fyw ar Borth Ymgeisio Amlbwrpas pwrpasol CGGC (MAP).
8 Ionawr 2024 – dyddiad cau cyntaf ar gyfer cyflwyno
Ni fydd modd cyflwyno ceisiadau ar ôl y dyddiad cau hwn.
Ionawr 2024 – cyfarfod Panel
Cymeradwyo ceisiadau a fydd yn cael eu cyllido yn ffurfiol.
Ionawr 2024 – rhoi gwybod i ymgeiswyr
Llythyrau cynnig grant yn cael eu hanfon at geisiadau llwyddiannus.
1 Chwefror 2024 – dyddiad dechrau cynharaf prosiectau
Llythyrau cynnig grant yn cael eu hanfon at geisiadau llwyddiannus.
PWY RYDYN NI WEDI ARIANNU
Cefnogodd cyllid gan gynllun Cymru ac Affrica elusen GBV Uganda Projects a’i sefydliad partner yn Uganda i rymuso fenywod ifanc y bu’n rhaid iddyn nhw adael yr ysgol oherwydd y pandemig ac a gafodd eu cam-drin neu eu gadael gan eu partneriaid.
Helpodd y cyllid i sefydlu gweithdy teilwra yn Is-Sir Namabasa, gydag ugain o beiriannau gwnïo, gan ddarparu hyfforddiant teilwra i dros 20 o fenywod ifanc oedd heb gymwysterau. Dysgodd y menywod sgiliau bywyd gwerthfawr fel sgiliau llythrennedd a chyllidebu, rheoli busnes ac arwain.
Mae’r prosiect wir wedi grymuso menywod a thrawsnewid eu bywydau. Dywedodd un o’r cyfranogwyr ‘Rydw i mor barod a diolchgar am y cyfle yma i gael bywyd newydd, lle galla i ddewis beth rydw i eisiau ei wneud, a chael sgiliau i fy helpu i ennill arian a chael bywyd. Dw i eisiau helpu i hyfforddi eraill, a bod yn fodel rôl ac yn gyfoed iddyn nhw allu troi ato.’
CYSYLLTWCH NI
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch y broses ymgeisio, anfonwch e-bost at walesafricagrants@wcva.cymru neu ffoniwch 0300 111 0124.
I gael cymorth i ddatblygu’ch cais, cysylltwch ag enquiries@hubcymruafrica.org.uk.