Ystyriodd gwerthusiad annibynnol o’n Cronfa Cynhwysiant Gweithredol a gynhaliwyd yn ddiweddar, ddysgu ar gyfer rhaglennu a pholisi cyflogadwyedd yn y dyfodol. Dyna’r deg darnau o wybodaeth rydyn ni wedi’u tynnu o’r adroddiad interim.
Mae’r Gronfa Cynhwysiant Gweithredol yn rhoi grantiau ar gyfer prosiectau yng Nghymru sy’n helpu pobl ddifreintiedig yn ôl i gyflogaeth. Rydyn ni wedi ariannu amrywiaeth helaeth o brosiectau sy’n cefnogi pobl sy’n wynebu nifer o heriau i symud yn ôl i waith neu ddarparu cyflogaeth â thâl â chymorth ac, i’r rhai sy’n barod, eu helpu i waith hirdymor.
Rheolir y Gronfa Cynhwysiant Gweithredol gan CGGC, a gefnogir gan Gronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd. Wrth i ni gyrraedd cyfnod terfynol y cynllun hwn a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd, mae RCS (UK Research and Consultancy Services Ltd) wedi llunio adroddiad interim cyn cyflwyno’r adroddiad terfynol, i’w gyhoeddi ym mis Medi 2022.
PRIF GASGLIADAU’R ADRODDIAD
Mae’r adroddiad interim yn rhoi gwerthusiad annibynnol sy’n tynnu ar y bedair blynedd a hanner o ymchwil a gynhaliwyd yn ystod oes y Gronfa Cynhwysiant Gweithredol. Wrth brofi ansicrwydd ynghylch dyfodol cyllido cynlluniau o’r math a chynnwys mudiadau gwirfoddol wrth eu cyflenwi, daw’r gwersi a ddysgwyd gan y Gronfa Cynhwysiant Gweithredol a’r rhai sy’n cyflenwi prosiectau Cynhwysiant Gweithredol ar adeg bwysig.
Ymhlith y pwyntiau allweddol a bwysleisiwyd yn yr adroddiad mae:
- Cynhwysiant Gweithredol yn galluogi mudiadau i gyflenwi ymagwedd bwrpasol iawn at gefnogi unigolion – rhywbeth sy’n hanfodol ar gyfer profi llwyddiant wrth weithio gyda phobl ddifreintiedig
- Bu’r Gronfa Cynhwysiant Gweithredol yn llwyddiannus o ran cefnogi pobl sy’n ‘anodd eu cyrraedd’, llwyddodd i wneud gwahaniaeth, a llwyddodd i roi ymdeimlad o gyflawni go iawn i’r rhai a oedd yn cynnal prosiectau a ariannwyd gan y Gronfa Cynhwysiant Gweithredol
- Clodforwyd cymorth â phrosesau’r Undeb Ewropeaidd gan CGGC yn enwedig o ran galluogi prosiectau i addasu ac i barhau yn ystod y pandemig
- Mae rôl y sector gwirfoddol mewn rhaglenni cynaliadwyedd yn hanfodol – mae ei agosrwydd at y bobl fwyaf bregus yn golygu ei fod yn cyrraedd pobl y gallent syrthio trwy’r bylchau hebddo
- Roedd deallusrwydd emosiynol a bod yn gyfarwydd â grwpiau targed yn elfen allweddol o’r cymorth a ddarparwyd gan brosiectau Cynhwysiant Gweithredol
- Galluogodd y Gronfa Cynhwysiant Gweithredol i gyfranogwyr ymgysylltu ag ystod o ymyraethau a arweiniodd at y cyfle i gael mynediad at gyflogaeth gynaliadwy. Byddai hyn yn cael ei wella trwy lefel uwch o gydlynu ar draws amrywiaeth o asiantaethau
- Bu prosiectau Cynhwysiant Gweithredol yn llwyddiannus o ran creu annibyniaeth nid dibyniaeth ar gyfer y bobl ddifreintiedig a gefnogwyd trwy’r rhaglen
- Yn ystod y pandemig, daeth y gefnogaeth fwyaf llwyddiannus gan y rhai a oedd yn mabwysiadu ffyrdd newydd o weithio wrth barhau i fynd i’r afael ag anghenion unigol. Bu’r rhai â’r berthynas agos â’r cyfranogwyr yn fwyaf llwyddiannus yn y maes hwn.
- Aeth y prosiectau mwyaf llwyddiannus a oedd ar waith yn ystod y pandemig i’r afael â llythrennedd digidol a thlodi, gan gynnwys darparu cyfarpar – sef mater sy’n annhebygol o ddiflannu. Bu hyn hefyd o fudd i deuluoedd ac i gyfranogwyr na fyddant fel arfer yn ymgysylltu wyneb yn wyneb
- Cynghorodd prosiectau Cynhwysiant Gweithredol y byddai gwasanaethau cyflogadwyedd yn y dyfodol yn debygol o fod yn fersiwn hybrid gan gynnig cymorth wyneb yn wyneb a chymorth digidol
Mae’r adroddiad cryno ar gael i’w lawrlwytho ac mae’r adroddiad llawn ar gael ar gais gan ActiveInclusion@wcva.cymru.
Hoffem ddiolch i Lywodraeth Cymru, Grŵp Llywio’r Gwerthusiad, a Phanel Anweithgarwch Economaidd CGGC am eu cymorth a’u mewnwelediad. Rydyn ni hefyd yn ddiolchgar i’r nifer fawr o fudiadau a’r unigolion a roddodd o’u hamser yn hael mewn cyfweliadau, trafodaethau, a gweithdai er mwyn hysbysu’r gwaith hwn hyd heddiw.