Mae ymchwiliad COVID-19 y DU yn annog y cyhoedd i rannu eu profiadau o’r pandemig er mwyn llwyr ddeall ei effeithiau.
CEFNDIR
Cafodd ymchwiliad COVID-19 y DU ei sefydlu i werthuso sut gwnaeth y DU ymdrin â’r pandemig a’i effeithiau ac i nodi’r gwersi ar gyfer y dyfodol. Nawr, mae’r ymchwiliad yn gofyn am fewnbwn unigolion o bob rhan o’r gymdeithas fel rhan o’i ymgyrch Mae Pob Stori o Bwys sy’n rhoi’r cyfle i unrhyw un sydd eisiau cymryd rhan yn ymchwiliad COVID-19 y DU i wneud hynny.
Er mwyn sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i adrodd eu stori, mae’r ymchwiliad yn gofyn i fudiadau gwirfoddol, a grwpiau sy’n cynrychioli pobl a allai fod wedi’u heffeithio’n anghymesur gan y pandemig, i rannu gwybodaeth am yr ymgyrch.
ANNOG POBL I GYMRYD RHAN
Mae amrywiaeth o ffyrdd y gall mudiadau gwirfoddol annog eu defnyddwyr gwasanaethau i gymryd rhan, oherwydd mae’r ymchwiliad wedi llunio pecyn cymorth partner i’ch helpu i rannu gwybodaeth.
Gyda’n gilydd, gallwn ni ysbrydoli amrediad eang o bobl i ddweud eu dweud a rhannu eu profiadau. Bydd y profiadau hyn yn dod yn gofnod o bandemig COVID-19 ar gyfer cenedlaethau i ddod, ac yn llywio argymhellion yr ymchwiliad.
SUT I GYMRYD RHAN
Gall unrhyw fudiad a chymuned gymryd rhan yn ‘Mae pob stori o bwys’ drwy rannu eu profiadau o bandemig COVID-19.
Y brif ffordd o ymateb i’r ymchwiliad yw drwy’r ffurflen ar-lein yn everystorymatters.co.uk, sydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Gallwch chi hefyd rannu hon gyda’ch cysylltiadau er mwyn sicrhau bod cymaint â phosibl o bobl yn cymryd rhan.
OPSIYNAU HYGYRCH
Gellir cael yr opsiynau hygyrch canlynol o’r Ymchwiliad yn uniongyrchol. Gall unigolion anfon e-bost at contact@COVID19.public-inquiry.uk neu ysgrifennu at RHADBOST, Ymchwiliad Cyhoeddus COVID-19 y DU:
- Copi caled ar bapur
- Fersiwn hawdd ei darllen
- Braille
- Iaith arwyddion Prydain
- Ieithoedd eraill
- Llinell ffôn ac iaith: ar gael yn ddiweddarach yr haf hwn
- Digwyddiadau gwrando ar y gymuned – i fod i gael eu cynnal ledled y wlad yn ddiweddarach y flwyddyn hon
Am ragor o wybodaeth ac i lenwi’r ffurflen ar-lein, ewch i everystorymatters.co.uk.