Sied feiciau Pedal Power yng Ngogledd Cymru gyda beiciau y tu allan

‘Mae lefel yr effaith yn enfawr’

Cyhoeddwyd : 17/11/25 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Mae ein hadroddiad newydd ar Gynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn dathlu ymdrechion ysbrydoledig cymunedau ar hyd a lled Cymru sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i’w hamgylcheddau lleol.

Yn ei seithfed flwyddyn, cyllidodd Gynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi (LDTCS) ddeg prosiect newydd ledled Cymru, pob un yn mynd i’r afael â materion amgylcheddol allweddol, o ddiogelu bioamrywiaeth i hybu ymagweddau cynaliadwy at wastraff a gwella mannau gwyrdd lleol.

Trwy gefnogi prosiectau o fewn pum milltir i safleoedd tirlenwi neu orsafoedd trosglwyddo gwastraff, mae’r cynllun grant yn grymuso cymunedau i wella eu hamgylchoedd a chreu buddion parhaus i bobl a byd natur.

Darllenwch yr adroddiad llawn.

DATHLU EFFAITH GYMUNEDOL

Gan fyfyrio ar y flwyddyn ddiwethaf, rhannodd Judith Stone, Cadeirydd Panel Cynghori ar Grantiau’r LDTCS yn 2024/25, ei gwerthfawrogiad am ymroddiad ac effaith y cymunedau a oedd yn gysylltiedig â’r cynllun.

‘Mae wedi bod yn bleser pur gweld yr holl weithgareddau yn cael eu cyflawni gan gymunedau ledled Cymru. Mae lefel yr effaith sydd wedi’i chreu ar draws tair thema strategol y cynllun yn enfawr.

‘Nid yw’r gronfa yn un fawr, ond mae’n dangos yn glir sut gall cymunedau ddod ynghyd i weithredu dros eu hamgylchedd lleol.’

TYNNU SYLW AT BROSIECTAU LLEOL

Mae adroddiad eleni yn cynnwys wyth astudiaeth achos sy’n amlygu’r creadigrwydd, yr ymrwymiad a’r ysbryd cymunedol y tu ôl i brosiectau a gyllidwyd gan yr  LDTCS. O drawsnewid mannau na ddefnyddiwyd yn hybiau cymunedol bywiog i helpu pobl ifanc i adeiladu sgiliau drwy weithgareddau seiliedig ar natur, mae pob prosiect yn dangos sut gall gweithredu lleol arwain at newid amgylcheddol a chymdeithasol ystyrlon.

Ymhlith y prosiectau y rhoddir sylw iddynt mae The Wilderness Trust, a drodd garejis wedi’u hesgeuluso yn weithdai ymarferol, a Groundwork Caerffili a weithiodd gyda merlod brodorol i hybu dulliau ecogyfeillgar o reoli tir. Gwnaeth GISDA gefnogi pobl ifanc drwy weithgareddau creadigol a oedd yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd, ac aeth Gofal a Thrwsio gogledd-ddwyrain Cymru ati i hyfforddi gwirfoddolwyr i arwain gwelliannau i gynefinoedd Parc Dyfrdwy.

Mae astudiaethau achos eraill yn cynnwys gwaith Ymddiriedolaeth Sied Nwyddau Rheilffordd Llanelli yn grymuso pobl ifanc Wrecsam i fagu hyder drwy gynnal a chadw beiciau a gwirfoddoli. Gwnaeth Tir Gwyllt gysylltu plant ysgol a gwirfoddolwyr â natur gan wella bioamrywiaeth, a gwnaeth grant o arwyddocâd cenedlaethol gefnogi hyfforddiaethau â thâl drwy raglen Natur am Byth!

Darllenwch yr adroddiad llawn i wybod mwy am y storïau ysbrydoledig hyn.

CYLLID AR GAEL

Os ydych chi wedi eich ysbrydoli i feddwl am ffyrdd o wella amgylchedd eich ardal, mae cylch newydd o gynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi ar agor nawr am grantiau rhwng £5,000 – £49,999. Y dyddiad cau yw 12 Rhagfyr 2025.

Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i wefan ein LDTCS.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynghylch yr LDTCS, cysylltwch â Thîm Grantiau CGGC yn grantiautrethgwarediadautirlenwi@wcva.cymru.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 19/11/25
Categorïau: Dylanwadu, Gwybodaeth a chymorth

Adroddiad: gall gwasanaethau iechyd a gofal y sector arbed arian cyhoeddus

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 19/11/25
Categorïau: Gwirfoddoli, Gwybodaeth a chymorth

Grymuso cymunedau drwy Wirfoddoli mewn Mannau Gwyrdd

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 31/10/25
Categorïau: Gwybodaeth a chymorth, Hyfforddiant a digwyddiadau

Wythnos Diogelu 2025

Darllen mwy