Mae hi wedi bod yn haf tawel o ran cyllid amnewid yr Undeb Ewropeaidd
Penderfyniadau Cyllid
Disgwyliwyd penderfyniadau ar gyllid o ran y Gronfa Adfywio Cymunedol a Chronfa Codi’r Wastad tua diwedd mis Gorffennaf ond nid ydynt wedi dod i’r amlwg hyd yn hyn. Disgwylir y cyhoeddiadau yn fuan ond a fydd hyn yn rhy hwyr ar gyfer rhai mudiadau? Mae’r Gronfa Adfywio Cymunedol yn rhaglen beilot un flwyddyn a feirniadwyd am ei hamserlenni tynn ac mae rhai mudiadau wedi dweud y bydd yr oedi ychwanegol hwn yn ormod iddynt a bydd cyflenwi gweithgarwch o fewn y ffenestr fer sydd ar gael yn amhosibl. Rydyn ni wedi gofyn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ymestyn yr amserlenni tan y flwyddyn ariannol nesaf er mwyn sicrhau bod llwyddo i gyflenwi’r gweithgarwch yn fwy tebygol.
Cronfa Perchnogaeth Gymunedol
Lansiwyd y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol dros yr haf. Agorodd y rownd gyntaf ym mis Gorffennaf a chaeodd yn fuan ar ôl hynny ym mis Awst. Hwn yw’r rownd gyntaf o isafswm o 8 rownd ddilynol a disgwylir i’r ail rownd agor ym mis Rhagfyr. Mae cyfyngiadau ynghlwm â’r gronfa hon ond mae’n cyflwyno cyfle go iawn i gymunedau gymryd perchnogaeth o asedau lleol gwerthfawr. Roedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn agored wrth ddweud nad oedd yr holl fanylion yn fanwl gywir na bod yr holl atebion ar gael ar gyfer lansio’r Gronfa ond bydd yn dysgu o’r rownd gyntaf hon ac yn cyflwyno gwelliannau ar gyfer y rowndiau dilynol.
Y Gronfa Ffyniant Cyffredin
Mae gwybodaeth am y Gronfa Ffyniant Cyffredin yn gyfyng o hyd. Dywedwyd y bydd yn buddsoddi mewn sgiliau lleol a hyfforddiant galwedigaethol, gwella trafnidiaeth, a buddsoddi mewn busnesau lleol ond nid ydyn ni’n gwybod sut y bydd hyn yn cael ei gyflenwi. Disgwylir cyhoeddiad fel rhan o’r Adolygiad o Wariant ym mis Hydref a disgwylir i ragor o wybodaeth ddilyn trwy bapur gwyn Codi’r Gwastad.
Ad-drefniant Llywodraeth y Deyrnas Unedig
Roedd Codi’r Gwastad yn nodwedd bwysig o’r ad-drefniant Cabinet a gynhaliwyd yn ddiweddar. Mae ei rôl mor ganolog ailenwyd y Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (a roddwyd i Michael Gove) yn yr Adran Codi’r Gwastad, Tai a Chymunedau. Hefyd, penodwyd cyn-brif economydd Banc Lloegr, Andy Haldane, yn bennaeth ar dasglu codi’r gwastad newydd.
Caiff Mr Gove ei gefnogi yn ei rôl newydd gan Kemi Badenoch sydd bellach yn Weinidog dros Godi’r Gwastad. Bydd hi hefyd yn parhau i weithredu fel Gweinidog dros Gydraddoldebau.
Beth nesaf?
Mae CGGC ynghyd ag eraill ar draws y sector gwirfoddol yng Nghymru yn parhau i ymgysylltu â’r rhai sy’n gyfrifol am y cronfeydd amnewid. O ganlyniad i’r ad-drefniant Cabinet, byddwn ni’n ysgrifennu at Mr Gove yn gofyn am drafodaeth ffurfiol, strwythuredig rhwng ei Adran Weinidogol a’r sector gwirfoddol a’r sector elusennau er mwyn helpu i sicrhau’r canlyniad gorau i Gymru, i’n sector, ac i’r unigolion a’r cymunedau rydyn ni’n eiriolwyr drostynt.
I dderbyn rhagor o wybodaeth fel hon a diweddariadau ynghylch y cronfeydd amnewid, cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr CGGC.