Dancers on a stage with a range of ages and abilities, a production by Rubicon Dance, a previous winner of the Weston Charity Awards

Mae Gwobrau Elusennol Weston 2021 bron yma

Cyhoeddwyd : 05/10/20 | Categorïau: Cyllid | Gwybodaeth a chymorth |

Mae arweinwyr elusennau Cymru yn cael eu hannog i gymryd rhan yn yr arolwg hwn cyn i’r cynllun cael ei lansio.

Mae’r elusen sgiliau busnes, ‘Pilotlight’ a’r crëwr grantiau, ‘Garfield Weston Foundation’ yn paratoi i agor Gwobrau Elusennol Weston 2021. Mae’r gystadleuaeth am ddim, a’r gwobrau yn helpu elusennau i gynllunio ar gyfer cynaliadwyedd ac effeithiolrwydd drwy raglen o hyfforddiant strategol blwyddyn o hyd gan ‘Pilotlight’ a grant gan Garfield Weston.

Cafodd y digwyddiad gwobrwyo ei lansio yn 2014 a’i ehangu i Gymru yn 2018. Mae’r enillwyr blaenorol o Gymru yn cynnwys Sefydliad Cymunedol Clwb Pêl-droed Caerdydd, Paul Sartori Hospice at Home, Plant Dewi a Rubicon Dance (gweler y llun).

Mewn paratoad ar gyfer y digwyddiad gwobrwyo, mae ‘Pilotlight’ a ‘Garfield Weston’ wedi lansio arolwg (Saesneg yn unig) a fydd yn rhoi mewnolwg hanfodol i lwyddiannau, gobeithion a gofidiau arweinwyr elusennau yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Gellir gweld adroddiad y llynedd, a oedd yn dangos bod arweinwyr elusennau bach yn obeithiol am y dyfodol er gwaethaf yr ansicrwydd cynyddol, ar wefan ‘Pilotlight’ (Saesneg yn unig).

Bydd yr arolwg ar gyfer y flwyddyn hon, a fydd yn cymryd oddeutu saith munud i’w gwblhau, yn helpu ymatebwyr i ystyried a allai ymgeisio am Wobrau Elusennau Weston fod yn fuddiol iddyn nhw.

Bydd yr arolwg ar agor tan ddydd Gwener 9 Hydref, a bydd y gwobrau ar agor i geisiadau yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

I annog ceisiadau, mae rhoddwr wedi darparu Basged o Siocled Masnach Deg ‘Divine’, a fydd yn cael ei hennill gan un elusen a ddewisir ar hap o’r rheini sy’n cymryd rhan. Bydd ymatebwyr sy’n cytuno i gael eu hatgoffa am Wobrau Elusennau Weston yn derbyn nodyn atgoffa pan fyddant yn agor.

I gwblhau’r arolwg, ewch i: https://www.surveymonkey.co.uk/r/WCA20WCVA

Ynghyd â Chymru, mae Gwobrau Elusennau Weston yn cynnwys Canolbarth Lloegr, Gogledd-orllewin Lloegr a Gogledd-ddwyrain Lloegr. Mae elusennau’n gymwys os oes ganddyn nhw o leiaf un aelod staff cyflogedig amser llawn mewn swydd arweiniol, incwm o lai na £5 miliwn y flwyddyn ac os ydyn nhw’n gweithio ym meysydd llesiant, ieuenctid neu waith cymunedol.

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 01/11/24 | Categorïau: Cyllid | Hyfforddiant a digwyddiadau |

Ble i ganolbwyntio eich egni codi arian

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 28/10/24 | Categorïau: Cyllid | Newyddion |

Gwnewch gais nawr am grant Gwirfoddoli Cymru!

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 16/10/24 | Categorïau: Cyllid |

Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn cyhoeddi newidiadau i’w brif gynllun ariannu

Darllen mwy