Ydych chi’n barod i ganu clodydd eich hoff fudiad gwirfoddol neu wirfoddolwr? Cymerwch ran yng ngwobrau eleni ac enwebwch heddiw!
Wedi’u trefnu gan CGGC, mae Gwobrau Elusennau Cymru yn cydnabod a dathlu’r cyfraniad ffantastig y mae elusennau, grwpiau cymunedol, cwmnïau nid-er-elw a gwirfoddolwyr yn ei wneud i Gymru drwy amlygu a hyrwyddo’r gwahaniaeth positif y gallwn ni ei wneud i fywydau ein gilydd.
Mae’r enwebiadau ar gyfer y gwobrau ar agor nawr a byddant yn cau ar 30 Mehefin 2025. Bydd y seremoni yn cael ei chynnal ar 16 Hydref 2025 yn Stadiwm y Principality, Caerdydd, ac rydyn ni eisoes yn disgwyl noson drawiadol o ddathlu!
MEDDWL AM GYMRYD RHAN?
Cymerwch ran yng Ngwobrau Elusennau Cymru i ganu clodydd eich hoff fudiad gwirfoddol neu wirfoddolwr a rhoi cyfle iddynt gael ychydig o gydnabyddiaeth haeddiannol a noson i’w chofio!
- Cydnabod – waeth a fyddwch chi’n ennill gwobr neu’n cyrraedd y rownd derfynol, bydd cael eich enwebu am wobr yn dangos i’ch mudiad neu unigolyn bod eu gwaith yn cael eu gwerthfawrogi a’i fod yn gwneud gwahaniaeth enfawr
- Dathlu – cymerwch yr amser i ddathlu llwyddiant eich tîm (neu wirfoddolwr arbennig) a bydd cyfle i’r holl rai hynny sy’n cyrraedd y rownd derfynol ddod i’n seremoni wobrwyo fawreddog
- Amlygu – gall cyrraedd rownd derfynol y gwobrau godi eich proffil heb os, o gael sylw yn y cyfryngau i arddangos ansawdd eich gwaith i gyllidwyr a phenderfynwyr
CATEGORÏAU
Isod mae’r categorïau ar gyfer Gwobrau Elusennau Cymru 2025 – gallwch wneud un enwebiad ym mhob categori:
- Gwirfoddolwr y Flwyddyn (26 a hŷn)
- Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn (25 oed ac iau)
- Codwr arian y flwyddyn
- Hyrwyddwr amrywiaeth
- Defnydd o’r Gymraeg
- Mudiad bach mwyaf dylanwadol
- Iechyd a lles
- Mudiad y flwyddyn
YR AMSERLEN AR GYFER 2025
Mae’r gwobrau ar agor, edrychwch ar amserlen 2025 isod:
- 19 Mai 2025 – Enwebiadau ar agor
- 30 Mehefin 2025 – Dyddiad cau derbyn enwebiadau
- 16 Hydref 2025 – Seremoni wobrwyo – Stadiwm y Principality, Caerdydd
GWNEUD ENWEBIAD
Am ragor o wybodaeth am Wobrau Elusennau Cymru, gan gynnwys y disgrifiadau o’r categorïau, y rheolau a sut i wneud enwebiad, ewch draw i wefan Gwobrau Elusennau Cymru.
ENILLWYR Y LLYNEDD
Ymhlith enillwyr Gwobrau Elusennau Cymru 2024 oedd:
Carmen Soraya Kelly – Gwirfoddolwr y flwyddyn (gwirfoddolwyr 26 oed neu’n hŷn)
Gwnaeth Carmen Soraya Kelly (Soraya i’w ffrindiau) ymroi ei hun i gefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd difreintiedig, gan ddarparu adnoddau hanfodol a rhaglenni trawsnewidiol fel Unite4Youth, sy’n cynnig sesiynau mentora a lleoliadau gwaith â thâl sy’n aml yn arwain at gyflogaeth barhaol.
Mudiad Meithrin – Hyrwyddwr amrywiaeth
Aeth Mudiad Meithrin ati i hyrwyddo cydraddoldeb a gwrth-hiliaeth mewn gwasanaethau plentyndod cynnar cyfrwng Cymraeg drwy fentrau amrywiol, er enghraifft, darparu hyfforddiant proffesiynol, adnoddau diwylliannol amrywiol a rhaglenni mentora ar gyfer awduron Du, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol.
FareShare Cymru – Mudiad y flwyddyn
Mae FareShare Cymru yn troi problem amgylcheddol yn ddatrysiad cymdeithasol drwy ailddosbarthu bwyd sydd dros ben i fwy na 260 o grwpiau cymunedol, darparu mwy na 2.1 miliwn o brydau bwyd ar gyfer 28,295 o bobl bob wythnos ac arbed oddeutu £2.6 miliwn i’r sector gwirfoddol.
Darllenwch fwy am wobrau y llynedd.
CAEL Y NEWYDDION DIWEDDARAF
Os hoffech chi gael y newyddion diweddaraf am y gwobrau a chyhoeddiadau eraill gan CGGC, tanysgrifiwch i’n cylchlythyr wythnosol.
Neu i weld yr holl wybodaeth ddiweddaraf, ewch i wefan Gwobrau Elusennau Cymru.