Ariannwyd Karma Seas CIC gan Grantiau a Arweinir gan Ieuenctid ym Mhen-y-bont ar Ogwr i gyflenwi eu prosiect. Darllenwch am effaith gadarnhaol y prosiect ar un gwirfoddolwr ifanc ac ar y gymuned.
SYRFFIWR WEDI TROI’N WIRFODDOLWR
Daeth Cai*, gwirfoddolwr ifanc Karma Seas, yn rhan o’u grŵp LGBT+ fel cyfranogwr syrffio y gaeaf diwethaf. Mwynhaodd fynychu’r grŵp a syrffio gan ei helpu i wneud mwy o ffrindiau a bod yn rhan o grŵp cymdeithasol chwaraeon lle y teimlodd yn gyfforddus fel syrffiwr hoyw.
Gofynnwyd iddo a hoffai ddod yn wirfoddolwr ac yna gymerodd ran mewn hyfforddiant i wirfoddolwyr. Ers hynny, mae e wedi dechrau gwirfoddoli mewn sesiynau ar gyfer plant ag anableddau a daeth yn fentor syrffio. Yn y rôl hon, mae Cai wedi datblygu perthynas dda gyda’r syrffwyr ifanc y mae angen cymorth cyson arnyn nhw gan ddysgu sut i weithio gydag ystod eang o anghenion ychwanegol.
‘Dechreuodd hyn fel rhoi cynnig ar syrffio LGBT+ ond arweiniodd ataf yn dod yn fentor syrffio gwirfoddol i bobl iau, gwneud ffrindiau newydd, ennill sgiliau a magu hyder ac, yn bennaf, ennill swydd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.’
HELPU POBL ERAILL I FWYNHAU EI HOFF GAMP
Fel gwirfoddolwr gyda Karma Seas, mae Cai* yn mentora cyfanogwyr sy’n blant ac yn oedolion yn ystod sesiynau syrffio. Weithiau, mae hyn yn golygu helpu unigolyn mewn grŵp neu gallai olygu gweithio gyda hyfforddwr syrffio, rhiant, neu ofalwr i gadw’r syrffiwr yn ddiogel yn y dŵr os oes ganddo anghenion mwy cymhleth.
Ar y traeth, mae e hefyd yn helpu i symud cyfarpar, cyflwyno cyfranogwyr newydd a gwneud iddyn nhw deimlo’n gyfforddus, esbonio ac arddangos agweddau syrffio a diogelwch ar y traeth / yn y dwr.
Fel gwirfoddolwr, mae Cai yn mynychu hyfforddiant ar bynciau gwahanol sy’n gysylltiedig ag anghenion eu syrffwyr, fel Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth (ASD) a LGBT+, a hyfforddiant grŵp gyda gwirfoddolwyr eraill a hyfforddwyr syrffio. Mae e wedi gorfod cadw’n heini a gallu rhedeg ar y tywod, nofio’n dda a bod yn ymwybodol o’r peryglon, a gwybod sut i alw am gymorth os bydd angen cymorth cyntaf ar rywun.
‘Rwy’n teimlo fy mod wedi helpu pobl eraill i fwynhau cymryd rhan yn fy hoff gamp, i wneud ffrindiau yn eu grŵp cymheiriaid, a chadw’n heini ac yn weithredol. Trwy fentora’r un plant yn rheolaidd, rwyf wedi dysgu i gyfathrebu’n well gyda nhw ac i’w helpu i deimlo’n fwy cyffyrddus ac yn fwy hyderus wrth syrffio.’
‘MAE GWIRFODDOLI WEDI FY HELPU I MEWN LLAWER O FFYRDD’
Trwy wirfoddoli, mae Cai* wedi gwneud ffrindiau gyda gwirfoddolwyr eraill ac maen nhw wedi cadw mewn cysylltiad trwy gydol y cyfnod clo trwy blatfformau ar-lein a sesiynau hyfforddiant. Mae e hefyd wedi dysgu sgiliau digidol trwy weithio gyda gwirfoddolwr arall i greu’r ffilm fer hon gan ddefnyddio meddalwedd newydd i arddangos gwaith y prosiect. Dywedodd:
‘Mae gwirfoddoli wedi fy helpu i mewn llawer o ffyrdd, gan roi sgiliau a hyder i mi. Dysgais lawer am ddiogelwch ar y traeth a diogelwch yn y dŵr, des i’n syrffiwr gwell a thyfais fy nghylch ffrindiau y gallaf gyflawni gweithgareddau chwaraeon gyda nhw.
Rwyf hefyd wedi cwrdd â phobl wahanol trwy wirfoddoli ac rwyf wedi derbyn hyfforddiant i fy helpu i ddeall eu galluoedd a’u hanghenion ychwanegol. Derbyniais hyfforddiant ffurfiol mewn ystod o bynciau ac mae hyn wedi fy helpu i ennill cyflogaeth mewn maes cysylltiedig lle derbyniais hyd yn oed mwy o hyfforddiant defnyddiol y gallaf gyfeirio ato pan fyddaf yn mentora syrffio. Rwyf hefyd yn hyfforddi ac yn cadw mewn cysylltiad â gwirfoddolwyr eraill ac yn syrffio gyda’r grŵp LGBT+ a gyda’m ffrindiau.’
Mae Cai yn gobeithio astudio Cymhwyster Achub Bywydau i Hyfforddwyr Syrffio SLSGB (Surf Life Saving GB) eleni er mwyn iddo hefyd helpu fel achubwr bywydau.
GRANTIAU A ARWEINIR GAN IEUENCTID
Wedi’u dosbarthu gan Gynghorau Gwirfoddol Sirol ar draws Cymru, mae’r Grantiau a Arweinir gan Ieuenctid yn cefnogi ystod o brosiectau a gweithgareddau bach a arweinir gan bobl ifanc ac a drefnir gan bobl ifanc. Yn 2020/21, ariannwyd y prosiectau i fynd i’r afael â’r chwe maes o flaenoriaeth a adnabuwyd gan Lywodraeth Cymru sydd â’r potensial i wneud y cyfraniad mwyaf i ffyniant a llesiant hirdymor.
Darllenwch fwy am Grantiau a Arweinir gan Ieuenctid yma.
I ddod o hyd i gyfleoedd Gwirfoddoli yn eich ardal lleol, ewch i volunteering-wales.net.