Mae trydydd cylch y Cynllun Cymru ac Affrica ar agor nawr i ymgeiswyr i gefnogi prosiectau â buddion i Affrica ac yma yng Nghymru.
Mae Cynllun Grant Cymru ac Affrica yn galluogi grwpiau cymunedol a mudiadau yng Nghymru i gael gafael ar gyllid ar gyfer prosiectau bach sy’n cyfrannu at ymdrechion Cymru i gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig a chyflwyno buddion i Gymru ac Affrica.
Mae trydydd cylch y cynllun ar agor nawr i ymgeiswyr ac yn cau ar gan gau ar 21 Rhagfyr 2026 am 5 pm. Y cynharaf y gall weithgareddau ddechrau yw 1 Ebrill 2027.
BETH ALLWCH CHI YMGEISIO AMDANO
Gan weithio gyda phartneriaid yn Affrica Is-Sahara, gall mudiadau wneud cais am grantiau rhwng £5,000-£25,000 i wneud cyfraniad diriaethol i un o’r pedair thema ganlynol:
- Iechyd
- Dysgu Gydol Oes
- Y Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd
- Bywoliaeth gynaliadwy
Sicrhewch eich bod wedi darllen y ddogfen ganllaw ar wefan CGGC cyn dechrau eich cais am gyllid.
PROSIECTAU A GYLLIDWYD YN FLAENOROL – TŴLS CYMRU AM HUNANGYNHALIAETH
Gyda chymorth gan Gynllun Cymru ac Affrica, cyflwynodd Tŵls Cymru am Hunangynhaliaeth (TFSR Cymru) gyfleoedd dysgu gydol oes a bywoliaethau cynaliadwy i grefftwyr ifanc yn Tanzania, gan gyflwyno cyfleoedd ymgysylltu ystyrlon i gymunedau yng Nghymru.
Yn Nhanzania, addysgodd y prosiect grefftau ymarferol i 119 o bobl a gellid defnyddio’r crefftau hyn i gael gwaith neu sefydlu eu busnesau eu hunain. Gwnaeth hefyd roi mynediad at offer o ansawdd am ddim neu am y nesaf peth i ddim, gan eu helpu i roi eu hyfforddiant ar waith ar unwaith.
Kabula yw un fenyw a elwodd ar hyfforddiant a chymorth TFSR Cymru. Cwblhaodd gyrsiau mewn teilwriaeth a chynnal a chadw peiriannau gwnïo a thyfodd ei busnes bach i gefnogi cymuned o fenywod, gan hyd yn oed hyfforddi grwpiau eraill o fenywod. Ar ôl dechrau anodd mewn bywyd, mae taith Kabula i ddod yn weithiwr ac athrawes fedrus yn dangos sut gall y math hwn o gymorth agor drysau i bosibiliadau newydd.
BUDDION I GYMRU
Gwnaeth y prosiect hefyd gyflwyno amrediad eang o fuddion ar hyd a lled Cymru. Gwnaeth mwy na 70 o wirfoddolwyr yng Nghymru helpu i ddidoli ac adnewyddu offer i’w cludo, dysgu sgiliau newydd ac ennill hyder, cysylltiad a diben. I rai, arweiniodd hyn at gyflogaeth ar ôl cyfnodau hir o anweithgarwch.
Mae’r prosiect yn helpu i leihau gwastraff a hybu cynaliadwyedd yng Nghymru, gan arbed oddeutu 40 tunnell o offer a roddir y flwyddyn rhag mynd i safleoedd tirlenwi.
RHAGOR O WYBODAETH A GWNEUD CAIS
I ganfod mwy, ewch i’n tudalen Cynllun Grant Cymru ac Affrica.
Gellir gwneud ceisiadau drwy MAP, Porth Ymgeisio Amlbwrpas CGGC. I gofrestru a gweld cyfleoedd cyllido presennol CGGC, ewch i map.wcva.cymru.
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch y broses ymgeisio, anfonwch e-bost at grantiaucymruaffrica@wcva.cymru neu ffoniwch 0300 111 0124.
I gael cymorth i ddatblygu’ch cais, cysylltwch ag enquiries@hubcymruafrica.org.uk.