Two women taking a selfie at gofod3

Mae Gofod3 yn ôl – cadwch eich lle nawr!

Cyhoeddwyd : 27/05/22 | Categorïau: Newyddion |

Bydd gofod3 yn ôl eto eleni o 20-24 Mehefin 2022, a chyda llai na mis i fynd, rydyn ni’n gyffrous i rannu’r hyn sydd ar y rhaglen gyda chi fel y gallwch chi ddechrau archebu lle.

Mae gofod3 yn ddigwyddiad a drefnir gan CGGC, mewn cydweithrediad â’r sector gwirfoddol yng Nghymru. Dyma’r digwyddiad sector gwirfoddol mwyaf o’i fath yng Nghymru.

Waeth a ydych chi’n ymddiriedolwr, yn aelod staff, yn wirfoddolwr neu’n bob un o’r rhain, mae gofod3 wedi’i ddylunio’n arbennig i bobl sy’n rhan o fudiadau gwirfoddol yng Nghymru.

Gydag wythnos gyfan o ddigwyddiadau ar gael, gan gynnwys amserlen gyffrous a phrysur o siaradwyr, dosbarthiadau meistr, dadleuon panel a gweithdai, rydym yn sicr y bydd rhywbeth at ddant pawb.

Sefydlwyd gofod3 am y tro cyntaf yng ngwanwyn 2017 fel digwyddiad undydd blynyddol yng Nghaerdydd. Ar ôl gorfod canslo’r digwyddiad yn 2020 oherwydd pandemig Covid-19, roedden ni wrth ein bodd yn gallu dod â gofod3 yn ôl y llynedd, pan gafodd ei gynnal ar-lein am y tro cyntaf dros gyfnod o wythnos.

BETH I’W DDISGWYL O GOFOD3 2022

Mae ein rhaglen lawn yn fyw nawr! Mae gennym ni dros 70 o ddigwyddiadau wedi’u trefnu drwy gydol yr wythnos sy’n amrywio o sgyrsiau ynghylch argyfwng yr hinsawdd ac areithiau ar gyllid torfol, i drafod yr hyn y gall y sector ei wneud i wella’r argyfwng costau byw.

Mae’n mynd i fod yn wythnos llawn trafodaethau a syniadau! Gallwch chi ymuno â ‘Grow Cardiff’ i siarad am bresgripsiynu cymdeithasol neu’r ‘Eden Project’ i drafod ailgysylltu cymunedau ar ôl y pandemig.

Os nad yw’r rheini at eich dant chi, mae gennym ni amrywiaeth o sesiynau sy’n ymwneud â chyllid a chodi arian, diogelu neu seiberddiogelwch a llawer mwy, fel:

  • Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
  • Digidol
  • Dwyieithrwydd
  • Effaith
  • Gwirfoddoli
  • Rhedeg eich mudiad
  • Marchnata a chyfathrebiadau

Mae’n ddetholiad a hanner! Felly peidiwch â gwastraffu amser! Ewch i weld y rhaglen a chofrestru eich lle AM DDIM nawr!

Hwn yw eich gofod unigryw chi i fyfyrio, dysgu a chynllunio ar gyfer y dyfodol.

PAM AR-LEIN?

Roedd adborth o ddigwyddiad y llynedd yn dangos bod pobl wedi mwynhau’r fformat ar-lein yn fawr a llawer yn ffafrio’r fformat a dweud y gwir. Ar sail yr adborth hwn, a chydag awydd i wneud yr wythnos mor hygyrch â phosibl, bydd gofod3 yn parhau ar-lein eleni ond gyda’r opsiwn i gymryd rhan mewn rhai sesiynau rhwydweithio wyneb yn wyneb, diolch i’n

Ac mae’n rhaid i ni ddiolch i’n noddwyr, Darwin Gray, Keegan & Pennykid, Pugh Computers a’r Brifysgol Agored, am eu cymorth – am y cymorth ariannol ac am y digwyddiadau maen nhw wedi dewis eu cynnal.

I’r tîm yn CGGC, mae’n hynod bwysig i ni fod gofod3 yn cynnig cyfle i bob mudiad – mawr neu fach – i arddangos eu gwaith amhrisiadwy a datblygu sgiliau ar gyfer y dyfodol.

Gobeithio eich bod mor gyffrous â ni – rydyn ni ar bigau i’ch gweld chi i gyd ym mis Mehefin.

I weld y rhaglen lawn ac archebu eich lleoedd, ewch i gofod3.cymru.

 

Newyddion cysylltiedig

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Snorcelio dros natur

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 05/09/24 | Categorïau: Hyfforddiant a digwyddiadau | Newyddion |

Ymgynghoriad ar y Cod Ymarfer Codi Arian

Darllen mwy

Cyhoeddwyd: 27/08/24 | Categorïau: Gwybodaeth a chymorth | Newyddion |

Dathlu addysg oedolion yng Nghymru

Darllen mwy