Wrth i ni ddathlu’r Wythnos Gwirfoddolwyr (1 – 7 Mehefin 2026), mae stori Niamh yn dangos sut gall gwirfoddoli mewn cymuned gefnogol a chynhwysol fagu hyder, sgiliau a chyfeillgarwch.
Canolfan chwarae a hyb cymunedol yn Llanilltud Faerdref yw ‘Role Play Lane’. Mae’r mudiad yn cynorthwyo plant, rhieni a theuluoedd trwy ddysgu ar sail chwarae sy’n hybu addysg, hyder a lles.
Ar ôl derbyn Grant Gwirfoddoli Cymru, gallodd Role Play Lane ehangu eu cynnig gwirfoddoli gyda hyfforddiant, Tempo Time Credits a chymorth ariannol ar gyfer teithio.
Canolbwyntiodd yr hyb ar rymuso unigolion niwroamrywiol a’r rheini ag anableddau i wirfoddoli a datblygu hyder ac annibyniaeth mewn lleoliad cymunedol cefnogol. Galluogodd iddynt gefnogi pobl fel Niamh, gwirfoddolwyr 23 oed yn Role Play Lane sydd â syndrom Down.
STORI NIAMH
Cyn ymuno â’r ganolfan, ychydig iawn o gyfleoedd oedd ar gael i Niamh ddatblygu sgiliau cysylltiedig â gwaith mewn lleoliad cymunedol cefnogol. Rhoddodd Role Play Lane gyfle i Niamh ddysgu, creu cysylltiadau cymdeithasol a theimlo ymdeimlad o ddiben mewn amgylchedd diogel a chynhwysol.
Cymerodd ran mewn tasgau gwirfoddoli strwythuredig, gan gynnwys cynorthwyo â gweithgareddau’r caffi, gweithio ochr yn ochr â staff a gwirfoddolwyr, rhyngweithio â phlant a theuluoedd a chyfarwyddo â dilyn trefniadau a chyfrifoldebau. Dros amser, dechreuodd gyfathrebu’n fwy hyderus a bod yn fwy annibynnol.
Dywedodd Niamh:
‘Rwy’n dwli ar weithio. Mae pawb yn fy ngwneud i’n hapus ac rwy’n cael croeso mawr. Rwy’n teimlo’n hapus yn gweithio gyda phethau newydd, yn enwedig yn y caffi. Mae’r staff a finnau wrth ein boddau yn dysgu. Mae pawb fel teulu i fi.’
Parhaodd Niamh i fagu hyder a hunan-barch, a gwelwyd hyn yn ei pharodrwydd i roi cynnig ar dasgau newydd a rhyngweithio â phobl eraill. Gwnaeth mam Niamh ddisgrifio’r newidiadau a welodd gartref ac yn ei bywyd bob dydd yn frwd iawn:
‘Mae fy merch wedi bod ar ben ei digon ers ymuno â Role Play Lane. Mae hi wedi tyfu lan gymaint, yn ymgymryd â chyfrifoldebau gartref ac yn y gwaith. Mae wedi dod ymlaen yn aruthrol.’
Mae taith Niamh yn dangos sut gall gwirfoddoli greu llwybrau i gyflogadwyedd, hunanddibyniaeth a lles i bobl na allai gael y cyfle fel arall. Fel y crynhodd ei mam:
‘Diolch o galon am roi’r cyfle iddi fod yn annibynnol.’
RHAGOR O WYBODAETH
Mae’r Wythnos Gwirfoddolwyr yn ymgyrch flynyddol ledled y DU a gynhelir o’r dydd Llun cyntaf ym mis Mehefin i ddathlu a chydnabod cyfraniadau gwirfoddolwyr. Canfyddwch fwy am sut y gallwch ddathlu yma.
Eisiau gwirfoddoli? Dewch o hyd i gyfle yn eich ardal chi.
Diddordeb mewn Grant Gwirfoddoli Cymru? Darllenwch fwy ac ymgeisiwch.